|
|
Rhwng
cariad
a'r gwn
Brwydr
y canrifoedd rhwng heddwch a heddychiaeth
Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
|
Bu
gwybod sut i ymateb i ryfel yn broblem i鈥檙 eglwys ers ei dyddiau cynnar.
Daeth yn fwy o broblem gyda threigl y canrifoedd.
Gellid maddau i rywun sy鈥檔 edrych o鈥檙 cyrion am feddwl nad felly y
dylai hi fod.
Bydd y gyfrol Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth
o gymorth mawr, felly, i grisialu pethau.
Mae鈥檙 awdur, E.R. Lloyd-Jones, yn edrych gyda manylder ar heddychiaeth
o safbwynt y Cristion gan olrhain y gwahanol safbwyntiau a amlygodd
eu hunain dros y canrifoedd.
Nid yn unig y mae鈥檔 edrych ar heddychiaeth o safbwynt dysgeidiaeth
Crist ond hefyd yn edrych ar ddylanwad dysgeidiaeth yr Hen Destament.
Y mae鈥檔 olrhain ddehongliad diwinyddol gwahanol Gristnogion o ddyddiau鈥檙
Eglwys Gynnar hyd y dydd heddiw.
Y Rhyfel Mawr - Cristnogion yn anghydweld
Darlunia鈥檙 anhawster sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cristion trwy s么n am y ddau safbwynt
gwahanol oedd yna ymhlith Cristnogion tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yr un fu鈥檙 problemau gyda rhyfeloedd eraill.
Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, yn annog bechgyn ifainc
i ymuno 芒鈥檙 fyddin er mwyn trechu gormes yr Almaen ond Thomas Rees,
Bangor, yn dadlau na ddylai fod gan yr eglwys unrhyw ran o gwbl
mewn ymladd a thrais beth bynnag yr achos.
Safbwynt John Williams, fel un sawl Cristion ar ei 么l, oedd: mai
eiddo Duw yw grym a bod gan ddyn felly yr hawl i鈥檞 ddefnyddio er mwyn
amddiffyn cyfiawnder.
"Nid yw cenhedlaeth gyfan yn ormod o bris i鈥檞 dalu am gyfiawnder,"
meddai wrth amddiffyn ei safbwynt.
Dadleuai Thomas Rees, ar y llaw aral: fod rhyfel "yn groes i鈥檙
union beth y mae鈥檔 honni ei ddiogelu" ac o鈥檙 herwydd yn anghyfiawn.
Unwaith eto, gellid maddau i鈥檙 sawl sydd ar gyrion Cristnogaeth am
feddwl fod safbwynt Thomas Rees mor syml 芒 chlir ei resymeg na ddylai
fod anhawster o gwbwl ei goleddu.
Sut, yn enw popeth, y gellid cyfiawnhau defnyddio anghyfiawnder
i ddiogelu cyfiawnder.
O na byddai hi felly.
Y syniad o Ryfel Cyfiawn
Yn cymhlethu鈥檙 ddadl hon ym meddwl sawl un y mae鈥檙 syniad o Ryfel
Cyfiawn. Yn syml, y ddadl yw fod yna rai pethau sydd mor ofnadwy o
ddrwg y gellir cyfiawnhau defnyddio grym milwrol a lladd i鈥檞 hatal.
Yr oedd Hitler yn un y gellid cyfiawnhau mynd i ryfel i鈥檞 rwystro.
Yn fwy diweddar deyrn gel Gadaffi a Saddam.
Mae E. R. Lloyd-Jones yn mynd i鈥檙 afael a鈥檙 holl ddadleuon hyn gan
nodi fod safbwynt yr eglwys gynnar "yn heddychlon-ddiamod."
Dim ond wedyn y llwyddodd dyn i dymheru ei safbwynt hwnnw i gydfynd
a鈥檌 amgylchiadau ei hun.
Daeth y Cristion i gyflwr y gallai gyfiawnhau rhyfel trwy "haeru ei
bod yn rhesymol disgwyl iddo (h.y. rhyfel) adael mwy o dda nag o ddrwg
ar ei 么l."
Dim ond pan yw dyn yn defnyddio mwy o rym nag sydd ei angen i鈥檞 amddiffyn
ei hyn y mae鈥檙 trais yn anghyfiawn a phan fo ei filwrio yn ymosodol
yn hytrach nag yn amddiffynnol.
Pan ddaeth arfau niwclear
Dengys E. R. Lloyd-Jones sut y cymhlethwyd y ddadl gyfleus a diddig
hon fwyfwy gyda dyfodiad arfau niwclear a chanddynt y gallu i ddinistrio
dyn a鈥檌 fyd.
O ddarllen y gyfrol mae rhywun yn sylweddoli鈥檔 fuan nad yw鈥檙 holl
dindroi ac ystumio ymenyddol yn tanseilio mewn unrhyw ffordd ddamcaniaeth
yr heddychwr pur.
"Dadl yr heddychwr yw fod rhyfel yn defnyddio moddion sy鈥檔 groes i鈥檙
diben. Pan ddywedir bod rhyfel yn rhywbeth y mae cariad yn gofyn amdano,
rydym yn dweud fod cariad yn gofyn am rywbeth sy鈥檔 groes i鈥檞 hanfod
ei hunan," eglura E. R. Lloyd-Jones.
I aralleirio T. H. Parry-Williams does dim dianc rhag hyn ac y mae鈥檔
dda inni gael ein hatgoffa gan E. R. Lloyd Jones o鈥檙 hyn a ddywedodd
Gandhi; nad methiant heddychiaeth a welsom dros y canrifoedd o
ryfel ond methiant trais "am na roesom gyfle i heddwch."
Da hefyd inni gael ein hatgoffa fod sawl gwahanol math o ryfel yn
amrywio o rai arfog i rai economaidd a鈥檜 bod i gyd yn fygythiad i
gyfiawnder.
Dim ond cariad all fod yn drech na hyn. Sut mae argyhoeddi pobl
i'w ddefnyddio yw鈥檙 cwestiwn nad ydym wedi cael ateb iddo hyd yn hyn.
Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth gan
E. R. Lloyd-Jones. Gwasg Pantycelyn. 拢4.95.
Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.
|
|
|