|
|
Ar
drywydd gwartheg
Cymru
Cychwyn
da i gyfres
am dda byw
Dydd Iau, Awst 24, 2000 |
Adolygiad
gan Ioan Mai Evans
Croeso i鈥檙 gyfrol gyntaf mewn cyfres am dda byw Cymru gan gychwyn
gyd补鈥檙 Gwartheg.
Mae鈥檙 gwaith gan Wasg Carreg Gwalch yn gymen a chanmoladwy, 补鈥檙 ymdriniaeth
gan yr awdur yn feistrolgar fel arfer gan Twm Elias.
Mae鈥檔 olrhain hanes y fuwch o gyfnod y dofi cynhanesyddol mor bell
a Mesopotamia, a heibio wedyn i鈥檙 amaeth cynnar yn y
wlad hon a hyd at ddyddiau鈥檙 hafod 补鈥檙 hendref a 肠丑鈥檒补尘补颈
a 肠丑鈥檒补苍驳补别补蹿.
Arweinir y darllenydd ymlaen i鈥檙 canol oesoedd at y dulliau
o aredig gyd补鈥檙 ychen. Ceir golwg ar y datblygiadau yn amser Hywel
Dda a Gerallt Gymro, heb anghofio cyfraniad yr anifail
i鈥檔 chwedloniaeth a鈥檔 ll锚n, fel yn chwedl Llyn y Fan Fach,
a stori Culhwch ac Olwen.
Camu ymlaen wedyn i鈥檙 ddeunawfed 补鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg a
dod ar draws Triban fel hwn er hybu鈥檙 ychen:
Dau ych yw Sali a Sowin
Un yn goch 补鈥檙 llall yn felyn
Pan yn aredig yn eu chwys
Hwy dorrai gwys i鈥檙 blewyn.
Caiff blynyddoedd y Chwyldro Diwydiannol 补鈥檙 adwaith ar amaethu
ei le gyda dyfodiad y Porthmyn llawn rhamant.
Ac yn drefnus ddigon aiff yr is-deitlau - y Porthmyn a Cherdded Gwartheg,
Marchnadoedd Lloegr, Disgrifiadau o Ffair Barnett, Dyfod Dyfodiad
y Rheilffordd, Effaith y ffeiriau 补鈥檙 Gyfundrefn Farchnata a ni at
y buchesi pedigri 补鈥檙 Gwartheg Duon Cymreig, nes dod
at argyfwng y nawdegau.
Rhaid cyfeirio at yr hanner cant o luniau prin sydd yn y gyfrol
a hefyd y llyfryddiaeth ar y diwedd.
Gwartheg - Llyfr dwyieithog
gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch. 拢3.50 - cychwyn ar gyfres
gyda chyfrol gampus gwerth dwbl ei phris.
I ddychwelyd i'r rhestr o lyfrau newydd
ac adolygiad o Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen cliciwch yma
|
|
|