|
|
Cofio
Saunders Lewis
Bu
farw 15 mlynedd yn ôl
Dydd Iau, Awst 31, 2000 |
Bymtheng
mlynedd i heddiw (Awst 31) bu farw Saunders Lewis, flwyddyn ar 么l
marw ei briod Margaret.
"Ffarwel i鈥檙 Brenin" oedd ar y telegram o gydymdeimlad ddanfonodd
Lewis Valentine ar ddydd ei gladdu ym mynwent Babyddol Penarth.
Ganed Saunders Lewis yn Wallasey. Fe鈥檌 haddysgwyd mewn ysgol breifat
cyn mynd yn fyfyriwr i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu鈥檔
filwr yn Ffrainc a Groeg yn y Rhyfel Mawr cyn ail-afael yn ei efrydiau.
Fe鈥檌 penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol,
Abertawe, ac yn 1926 cafodd ei ethol yn Llywydd Plaid Genedlaethol
Cymru.
Llosgi'r ysgol fomio
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe鈥檌 carcharwyd am naw mis am ei ran
yn llosgi鈥檙 Ysgol Fomio ar benrhyn Llyn. Collodd ei swydd yn Abertawe.
Methodd llys yng Nghaernarfon a dod i benderfyniad a gwrandawyd yr
achos yn Llundain.
Wedi ei ryddhau bu鈥檔 byw yn Aberystwyth am bron 15 mlynedd cyn ei
benodi yn ddarlithydd yng Ngoleg y Brifysgol yno.
Ym 1962 traddododd ei Ddarlith Radio "Tynged yr Iaith" a roes gymaint
o ysgytwad i鈥檙 genedl ac ysgogi cychwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
O bosib i'r ddarlith hon fod yn fwy o gyfraniad i barhad yr iaith
Gymraeg na'i holl weithgarwch mawr fel bardd, dramodydd a beirniad
llenyddol.
Neges y ddarlith
Yn y ddarlith honno yr oedd ei neges yn gignoeth o glir:
"Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen
fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg,"
meddai.
"Hawlier fod papur y dreth yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg. Rhoi
rhybudd i'r Postfeistr Cyffredinol na thelir trwyddedau blynyddol
oddieithr eu cael yn Gymraeg. Mynnu fod pob gwys i lys yn Gymraeg.
" Nid polisi i unigolion, un yma, un acw ar siawns mo hyn. Byddai
gofyn ei drefnu a symud o gam i gam gan roi rhybudd a rhoi amser i
gyfnewidiadau.
"Polisi i fudiad yw ef a'r mudiad hwnnw yn yr ardaloedd y mae'r Gymraeg
yn iaith lafar feunyddiol ynddynt. Hawlio fod pob papur etholiad a
phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol
yn Gymraeg. Codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r
sir.
"Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon
o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym. 'Hwyrach
eich bod yn iawn. Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd
y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw. Mi wn yr anawsterau.
Rhagweld stormydd o bob cyfeiriad
"Byddai'n stormydd o bob cyfeiriad. Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch
yn lladd ein siawns i ddenu ffatr茂oedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig
Cymraeg; a diau mai felly y byddai.
" Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr
Saesneg yn llaes feunyddiol. Byddai dig swyddogion yr awdurdodau lleol
a llawer cyngor sir yn ail i'r bytheirio a fu yn Nosbarth Gwledig
Llanelli.
"Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r
canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol
diamcan.
"Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn
hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd
Cymru heddiw. Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg
yng Nghymru.
'Iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth'
"Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Efallai y dygai'r iaith
hunan-lywodraeth yn ei sgil: 'wn i ddim. Mae'r iaith yn bwysicach
na hunan-lywodraeth.
"Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru
cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad
yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad,
ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith
yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr."
Y mudiad a ymffurfiodd yn sgîl y geiriau hyn oedd Cymdeithas
yr Iaith Gymraeg a gwelwyd blynyddoedd o ymgyrchu blin a charcharu
wedyn.
Anrhydeddwyd Saunders Lewis gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan y
Pab Pawl VI ond methiant a fu ymgais i ddyfarnu iddo Wobr Nobel am
lenyddiaeth.
Gadawodd yn waddol ddau ddwsin o weithiau, o "Gwaed yr Uchelwyr" ym
1922 hyd at "Dramau鈥檙 Parlwr" ym 1975.
Llun: Yr enwocaf o'r lluniau o Saunders Lewis - ar y dde - gyda D.
J. Williams a Lewis Valentine yn dilyn llosgi'r Ysgol Fomio.
|
|
|