|
|
Dirgelwch
yr awdur
a sychodd
Pwyso
a mesur cyfraniad aruthrol Islwyn Ffowc Elis
Dydd Iau, Medi 7, 2000 |
Y mae’r dirgelwch pam y rhoddodd nofelydd pwysicaf y cyfnod diweddar
yng Nghymru y gorau i sgrifennu yn parhau.
Y diweddaraf i geisio taflu goleuni ar y mater yw y beirniad llenyddol,
T Robin Chapman yn ei astudiaeth o Islwyn Ffowc Elis
yn y gyfres Writers of Wales.
Anodd gor-bwysleisio dylanwad Islwyn Ffowc Elis ar y nofel Gymraeg.
Nid yn ôl nifer y nofelau a gyhoeddodd - naw, fel mae’n digwydd
- y mae mesur ei gyfraniad ond ar sail ei ddylanwad nid yn unig
ar ddarllenwyr ond ar sgrifenwyr eraill.
Beth ddigwyddodd i'r nofel fawr?
Fodd bynnag, cyfyngwyd ei brysurdeb mawr i’r blynyddoedd rhwng 1953
a 1961 ac y mae dirgelwch y ‘writer’s block’ a lethodd wedi
hynny nofelydd mor flaengar â llwyddiannus yn un sy’n dal yn destun
trafod.
Y mae rhai o’r farn i Islwyn Ffowc Elis ‘sychu’ cyn cyflawni
ei wir addewid ac i Gymru golli noffel o bwys.
Yn y saithdegau yr oedd yn gweithio ar ei un nofel fawr.
Ond ni welodd honno olau dydd, byth, gan beri i rai ohonom dybio;
er cymaint ei gyfraniad, na chafodd Cymru y gorau allan ohono -
beth bynnag y rheswm am hynny.
Y mae Robin Chapman yn datgelu iddo roi heibio’r bwriad o orffen
ei nofel am Gruffydd ap Llywelyn wedi i’r Western Mail
gyhoeddi, wrth son am y gwaith, enw’r prif gymeriad yn anghywir
- a hynny er bod 30,000 o eiriau wedi eu sgrifennu yn barod.
Ond does bosib fod rhyw eglurhad arall hefyd?
Dywedodd Islwyn Ffowc Elis ei hun wrthyf pan oedd yn paratoi i gychwyn
ar y gwaith ei fod yn anelu at i'r nofel hon am Gruffudd ap Llywelyn
fod yn binacl ei yrfa lenyddol.
Anodd meddwl y byddai’n troi cefn ar y cyfan am reswm sy'n ymddangos
mor ddibwys.
Hawdd ei frifo
Efallai fod awgrym arall yn nes at y gwir - ei fod yn un mor hawdd
ei frifo gan feirniadaeth iddo encilio i ddiogelu ei hun rhag
dod yn amhoblogaidd a than lach beirniaid.
Nid yw’n gyfrinach yr ofnai yr hyn a welai fel tuedd Gymreig i ddyrchafu
pobl dim ond er mwyn eu tanseilio a’u darostwng wedyn.Tybed a welai
arwyddion fod hynny ar fin digwydd iddo ef.
Mae Robin Chapman yn cyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd fel "a
case-study in writer’s block" lle mae ansicrwydd ynglyn â pha
gyfeiriad i fynd yn cyfuno gyda hunan-feirniadaeth i barlysu awdur.
Bydded hynny fel y bo. Beth bynnag yr ydym wedi ei golli; nid oes
gwadu arwyddocâd yr hyn a gyflawnwyd
cyn y dyddiau blin. Am hynny y mae T. Robin Chapman yn talu teyrnged
iddo wrth drafod mor llwyddiannus ei hyd a’i led llenyddol.
Y nofel yn well o'i herwydd
Mae’n taro’r hoelen ar ei phen pan ddywed mai y cwestiwn allweddol
i’w ofyn ynglyn a gwaith Islwyn Ffowc Elis yw: A yw’r nofel
Gymraeg mewn cyflwr gwell oherwydd ei ymwneud ef a hi?
Ei ddyfarniad yw i Islwyn Ffowc Elis roi anadl einioes i gyfrwng
blinedig a llesg a rhoi statws i’r nofel fel rhywbeth gwir Gymraeg.
"Ar ben hynny creodd ddarllenwyr i’w waith," meddai.
"Go brin y byddai’n ormodiaeth dweud iddo ddysgu cenhedlaeth o ddarllenwyr
i ddarllen yn yr iaith ffuglen ymestynedig ac, yr un mor bwysig,
i feddwl am y Gymraeg fel cyfrwng addas ar gyfer menter o’r fath."
Mae’n dyfynnu R. Gerallt Jones yn dweud i Islwyn Ffowc Elis greu
arddull ar gyfer y nofel a dorrodd yn rhydd o rythmau wedi eu sylfaenu
ar anghydffurfiaeth Feiblaidd.
Mae Mr Chapman ei hun yn ei ddisgrifio fel "genre-bender"
a enillodd enw da na welwyd ei debyg ers dyddiau Daniel Owen fel
ffigur llenyddol o bwys y gellid darllen ei waith o ran pleser.
"Ni ellir dirnad tirwedd lenyddol diwedd yr ugeinfed ganrif hebddo
ef," meddai.
Poblogaidd a sylweddol
Profodd, nid yn unig y gellid cyfuno poblogrwydd a sylwedd ond fe’u
gwnaeth yn llawforynion.
Ym 1959 dywedodd Islwyn Ffowc Elis ei hun mai gwir gyfraniad nofelydd
yw rhoi bywyd, mynegiant ac arwyddocâd i brofiadau cyffredin fel
geni, priodi, marw, gwaeledd, syrthio mewn cariad a mynd i goleg.
Llwyddodd i wneud hynny ei hun. Llwyddodd hefyd i gyrraedd darllenwyr
cyffredin Cymru a gwneud nofel yn rhywbeth yr oedd disgwyl mawr
at weld ei chyhoeddi.
Nid molawd anfeirniadol yw traethawd Mr Chapman gan ei fod yn trafod
hefyd wendidau (y byddai Islwyn Ffowc Elis yn cytuno â hwy) nofelau
fel Wythnos yng Nghymru Fydd.
Wrth olrhain ei yrfa mae’n tynnu sylw hefyd at amrywiaeth y meistr
hwn ar arddull s';n storiwr byr, ysgrifwr, sgriptiwr a beirniad.
Yr oedd ei nofelau yn gerrig milltir. Ac er, efallai, yn gerrig
milltir ar y ffordd i rywbeth tebyg i anialwch nofelaidd yn ei achos
ei hun, yn gerrig milltir a ddangosodd i eraill y ffordd i dir ffrwythlon.
Ni allwn ddiolch digon iddo am hynny.
Islwyn Ffowc Elis gan T. Robin Chapman.
Writers of Wales. Golygyddion: Meic Stephens ac R. Brinley Jones.
Gwasg Prifysgol Cymru. £5.99.
|
|
|