|
|
Swyno
merched
a halltu
pysgod
Gwyn Griffiths yn son am gyfrol o lenyddiaeth Gernyweg
Dydd Iau, Hydref 5, 2000
|
Y
mae bywiogrwydd llenyddol anghyffredin ymysg ein cefndryd yng Nghernyw
y dyddiau hyn.
Y gyfrol ddiweddaraf ddaeth i law yw Looking at the Mermaid
- A Reader in Cornish Literature, 900 - 1900, wedi ei golygu
gan Alan M. Kent a Tim Saunders. A chyfrol swmpus yw hi, 366
o dudalennau.
Cyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith, yn y Gernyweg - gyda chyfieithiadau
Saesneg gyferbyn. Hefyd ceir darnau yn ymwneud â Cheryw mewn Lladin,
Eingl-Sacsoneg a Ffrangeg ynghyd â chyfieithiadau o’r rheini, hefyd.
A deunydd mwy diweddar yn Saesneg.
Mae’r teitl, gyda llaw, yn dod o un o’r dramau Beiblaidd hynny sy’n
rhan sylweddol o’r corff llenyddiaeth yn yr iaith Gernyweg, ac o lên
Llydaw o ran hynny.
Mae dau wr doeth yn dadlau gerbron Peilat a Caiaphas - a ddylai Crist
gael ei groehoelio neu beidio?
A ydy’n bosib i Grist fod yn Dduw a dyn? "Edrychwch ar y fôr-forwyn,
hanner pysgodyn, hanner dyn" medd un ohonynt, "gawn ni gredu’r un
peth amdano Yntau."
Mae’r fôr-forwyn yn ganolog i chwedloniaeth a llên Cernyw ar draws
y canrifoedd, ac yn symbol o’i chysylltiadau hanesyddol â’r môr.
Y mae deunydd y gyfrol yn ymwneud â chymysgfa gyfoethog o bynciau
- crefydd, hanes, moeseg, mytholeg, pysgota, mwyngloddio a chyngor
ar bob math o bynciau, megis sut i swyno merch a sut i halltu pysgod.
Cyfrol ardderchog i’r sawl sydd am wybod beth oedd gan ein cyd-Geltiaid
i’w ddweud dros fil o flynyddoedd amdanyn nhw eu hunain ac am y byd
o’u cwmpas.
Mae darn sylweddol o hanes Meriasek (Meriadek yn Llydaweg)
a luniwyd ar ffurf cerdd yn y Gernyweg - sy’n dangos mor agos oedd
y cysylltiadau rhwng Cernyw a Llydaw.
Diddorol darllen Nebbaz Gerriau Dro Tho Carnoack gan
wr o’r enw Nicholas Boson yn sgrifennu tua 1675.
"Mae ein hiaith wedi gwanychu fel mai prin y gellir disgwyl gweld
ei hatgyfnerthu eto," meddai. Ni welai lawer o obaith i’r Llydaweg,
chwaith. Ac am y Gymraeg. "Ni wn beth all y Cymry wneud i gadw eu
hiaith; ond fe wn, wrth ei chwaer y Gernyweg, nad yw werth llawer
ochr yn ochr a’r Saesneg …(!)" meddai.
Sonia am ei fam yn rhybuddio’r gweision a’r morynion a’r cymdogion
rhag siarad dim ond Saesneg ag ef pan oedd yn chwech oed.
Diddorol i Gymry yw’r llythyrau gan Edward Llwyd agrifennwyd
i wr o’r enw Thomas Tonkin rhwng 1700 a 1708. Llythyrau sy’n dangos
ei ddiddordeb mewn hen lawysgrifau Cernyweg ac enwau lleoedd. Ceir
yn y gyfrol gerdd Gernyweg gan Llwyd, hefyd.
Ceir portread difyr a bywiog o Dolly Pentreath, yr honnir mai
hi oedd y person olaf a fedrai siarad Cernyweg, mewn darn "On
the Expiration of the Cornish Language" gan Daines Barrington
a sgrifennwyd tua 1776.
"… Dolly Pentreath spoke in an angry tone of voice for two or three
minutes, and in a language which sounded very much like Welsh."
Yr oedd Barrington yn annog anfon rhywun a fedrai Gymraeg i ymweld
â Dolly a dwy gymdoges iddi, dim un ohonyn nhw dros 77 a 78 oed. Buasai
hynny yn fodd i gasglu hen eiriau o’r iaith, meddai. Bu Dolly farw
yn 1777.
Ychydig a ddewisais. Gair bach o ganmoliaeth i Francis Boutle
sy’n mentro cyhoeddi cynifer o gyfrolau yn y Gernyweg - a rhai graenus
iawn ydyn nhw, hefyd. Mae’n galonogol clywed fod y nifer o lyfrau
Cernyweg a dwy-ieithog Cernyweg/Saesneg a gyhoddwyd gan y cwmni yn
ddiweddar yn gwerthu’n dda.
Mae adrannau Celtaidd mewn prifysgolion yn America yn cymryd diddordeb
mawr ynddynt ac y mae arwyddion eisoes bod y cyhoeddiadau wedi llwyddo
i berswadio rhai o’r adrannau hyn i newid cyfeiriad eu cyrsiau.
Safle’r cwmni ar y wê yw: www.francisboutle.demon.co.uk
|
|
|