|
|
Dathlu
gwrthryfel
Glyndwr
Llyfrau a stamps
am arwr cenedlaethol
Dydd Iau, Hydref 5, 2000
|
Owain Glyndwr, Tywysog Cymru
gan Rhiannon Ifans a Margaret Jones. Lolfa. £5.95
Owain Glyn Dwr 1400-2000 gan
Iwan Llwyd, Gillian Clarke a Margaret Jones Llyfrgell Genedlaethol
Cymru. (Ni nodir y pris)
Llyfr Lliwio Owain Glyndwr gan
Elwyn Ioan a Lefi Gruffudd. Y Lolfa. £1.95.
Stamp Owain Glyndwr gan Margaret
Jones. Lolfa. £2 am ddau ddwsin.
Mae’r stori’n cychwyn gyda Sion a Gethin Wyn yn paratoi helm milwr
i Owen ap Gruffudd Fychan - ymladdwr o Gymro sydd yn ymladd mewn twrnameint
cyn cychwyn i frwydro dros frenin Lloegr yn yr Alban.
"Fe
hoffai Owain Glyndwr ymladd, ac yn well fyth, fe hoffai ymladd yn
yr haf. Nid oedd arlliw o ofn dim ar ei galon ef. Hoffai garlamu drwy
Ogledd Cymru, drwy Loegr, ar draws gwlad i’r dwyrain, ac i fyny eto
i’r Ferwig yn yr Alban …," meddai Rgiannon Ifans yn ei llyfr a gyhoeddwyd
i gydfynd a dathliadau chwe chan mlynedd gwrthryfel y mwyaf o’r arwyr
Cymreig, Owain Glyndwr.
Fel y gwelwn, gorfodwyd Owain i droi yn ddraenen yn ystlys Brenin
Lloegr yn hytrach nag yn un o’i wyr arfog ac arwain gwrthryfel Cymreig
yn ei erbyn.
Ar ffurf stori gyffrous y mae Rhiannon Ifans yn trosglwyddo i genhedlaeth
newydd o Gymry ifainc hanes yr arwr cenedlaethiol.
Mae’r hanes yn gorffen gyda chwedl y sgwrs â’r abad ar lechweddau
Llangollen gyda chyfle i bwyso a mesur gyfraniad parhaol Owain Glyndwr
er gweaethaf methiant ei ymgyrch filwrol.
"Hebddot ti fyddai neb wedi breuddwydio am Eglwys Cymru. Hebddot
ti fyddai neb wedi breuddwydio am Brifysgol Cymru. Hebddot ti fyddai
neb wedi dyheu unwaith eto am gael gweld Tywysog Cymru. Dyma’r ffordd
ymlaen. Mae pawb yn gwybod hynny rwan, diolch i ti," meddai’r
Abad wrth Owain.
Cafodd
pob un o ddisgyblion ysgolion cynradd Sir Gwynedd gopi o’r llyfr yn
anrheg sy’n gam diddorol ymlaen o fwg coroni a gafodd fy nghenhedlaeth
i ym mhumdeg tri.
Mae Rhiannon Ifans wedi pwytho’n gelfydd fanylion hanesyddol blasus
i’w gwaith a hynny’n lliwio’r cyfnod yn ddiarwybod bron i’r darllenydd.
Trueni, fodd bynnag, fod naws fymryn yn ffurfiol i’r storîo ei hun
ar adegau.
Ochr yn ochr a geiriau Rhiannon Ifans y mae lluniau triawiadol
gan Margaret Jones.
Ac y mae ei gwaith hi i’w gweld mewn
cyfrol berthnasol arall, Owain Glyn Dwr 1400-2000 (sy’n
ei wneud yn ddyn hen iawn!) a gyhoeddir gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfuniad
o waith yr arlunydd a dau fardd yw y gyfrol arbennig hon gyda cherddi
yn y Gymraeg gan Iwan Llwyd a’r Saesneg gan Gillian Clarke
yn ymwneud â gwahanol gyfnodau ym mywyd Owain Glyndwr.
Y mae llun ar gyfer pob pâr o gerddi ac er bod y cerddi bob tro yn
berthnasol i’r olygfa a ddarlunir dydi’r naill gerdd ddim yn gyfieithiad
o’r llall. Mae hynny yn ychwanegu at y pleser a gaiff y darllenydd
dwyieithog o’r gyfrol wrth i’r ddau fardd ddadlenu eu gweledigaeth
a’u dehongliad hwy o frwydr yr arwr cenedlaethol..
Trydydd llyfr sydd ar gael yw Llyfr
Lliwio Owain Glyndwr gyda lluniau i’w lliwio gan Elwyn Ioan
a hanes y frwydr fawr gan Lefi Gruffuddd. Dyma’r bumed gyfrol yng
Nghyfres Arwyr Cymru gan y Lolfa a chafodd ei gyhoeddi yr un diwrnod
a llyfr Rhiannon Ifans.
Cyhoeddodd y Lolfa hefyd Stamp Owain
Glyndwr wedi ei ddylunio gan Margaret Jones - yn wyneb methiant
cywilyddus y Swyddfa Bost i gynhyrchu stamp swyddogol ar gyfer yr
achlysur hwn .
"Mae’r
Swyddfa Bost yn defnyddio lluniau o deulu brenhinol a mawrion hanes
Lloegr er au stampiau yn barhaus ac yn ddiweddar cynhyrchwyd stamp
ganddynt i nodi brwydr yn yr Alban ond unwaith eto mae wedi methu
â chynhyrchu stamp i gofnodi digwyddiad o bwys yn hanes Cymru, " meddai
Garmon Gruffudd o’r Lolfa.
|
|
|