|
|
Cofio
Jack Jones
Dadorchuddio
cofeb i nofelydd y cymoedd
Dydd Iau, Hydref 26, 2000 |
Yr
oedd Jack Jones yn un o batriarchiaid y traddodiad llenyddol
Eingl Gymreig - awdur cyfrolau fel Out of Eden, Off
To Philadelphia in the Morning (stori’r cerddor Joseph Parry,
fwy neu lai) a Rhondda Roundabout.
I gyd, ysywaeth allan o brint, erbyn hyn.
Yn ddyn cadarn gyda’i farf wen, ysblennydd, yr oedd yn un o’r cymeriadau
roddodd liw i gymdeithas Rhiwbeina - un o faestrefi Caerdydd a gadwodd
lawer o’i hysbryd bentrefol.
Yn Rhiwbeina, ddydd Llun, ymgasglodd nifer o’r teulu a chriw bach
o garedigion llên i wylio’r Cynghorydd Jim Reagan yn dadorchuddio
llechen i’w goffadwriaeth yn y Llyfrgell leol.
"Gwnaeth
Jack Jones gymaint i hyrwyddo Caerdydd a De Cymru," meddai’r Cynghorydd
Reagan.
Yr oedd yn fore o hel atgofion - pawb a’i stori.
Ar gefn motobeic
"Rwyn cofio pan bigodd picwnen e yn ei dafod yn y Butchers Arms,"
meddai un wraig ddaeth mewn i fenthyg llyfr ond a arhosodd i fwynhau’r
seremoni.
"Buodd raid i ryw ddyn ifanc fynd ag e ar gefn motobeic i’r Infirmary.
Roedd ei dafod e’n chwyddo a roedd e bron tagu."
Gan Meic Stephens, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, a gynt o Gyngor
Celfyddydau Cymru y cafwyd un o’r straeon gorau.
Wedi marwolaeth Jack cafodd MeicStephens wahoddiad gan ei weddw i
ddewis unrhyw lyfrau a ddymunai o gasgliad ei gwr.
Ond yr oedd yn gasgliad prin iawn o lyfrau mewn gwirionedd.
"Fe ddewisais rhyw lyfr neu’i gilydd - ychydig iawn o lyfrau oedd
ganddo fe a dweud y gwir - rhywbeth o barch i gofio am Jack yn fwy
na dim," meddai Meic.
Ystyrrid Jack yn ddarllennwr mawr ond prynwr sâl! Hwyrach am fod ei
ail wraig yn gweithio yn Llyfrgell Rhiwbeina.
"Rai wythnosau wedyn ro’n i yn Y Gelli yn siop Richard Booth. Roedd
Richard i hunan yno, ac ar ei uchelfannau wedi prynu 'llyfrgell' Jack."
Ac ymhlith y llyfrau yr oedd un gwerth mwy nag a dalodd am y cyfan
oll.
"Dangosodd e’r llyfr i fi - rhyw deitl fel History of the Tennessee
Valley Authority - ac ar y ddalen tu fewn wedi ei ysgrifennu oedd
‘To my friend Jack Jones, T. S. Eliot’.
"Gwers i fi i edrych ar wyneb ddalen llyfrau pobol adnabyddus,"
meddai Meic.
Mwynhau ei beint
Mae
hi'n gred na phrynodd Jack Jones erioed beint iddo’i hunan nac i neb
arall mewn deng mlynedd o ymweld yn rheolaidd â thafarn y Deri.
Mae stori, fel y cynllwyniodd y ffyddloniaid, un noson, i beidio â
phrynu iddo ei beint arferol.
Pan gyrhaeddodd aeth Jack o un i'r llall ond neb yn cynnig prynu dim
ond ei gyfarch, "Shwmae Jack?" a pharhau gyda’u sgwrs.
Yn y diwedd safodd Jack yng nghanol y stafell a dweud mewn llais uchel,
"So who the hell is going to buy me a pint tonight?"
A rhuthrodd hanner dwsin at y bar mewn cywilydd i ddi-sychedu’r hen
batriarch.
Clirio'i lwnc
Mae stori arall amdano'n derbyn gwahoddiad cymdeithas lenyddol Gymraeg
Sir Drefaldwyn i roi darlith Saesneg iddynt un gaeaf - roedd grant
o ryw fath i’w gael am drefnu’r fath achlysur.
Yng Ngregynog y cynhelid y cyfarfodydd hyn, gan amlaf.
Wedi bod wrthi’n traethu am rhyw ugain munud stopiodd Jack gan ddweud
yn Gymraeg fod ei lwnc yn sych.
"Fe â i nôl gwydriaid o ddwr i chi," meddai’r warden, Glyn Tegai
Hughes.
"Meddwl o’n i falle bod diferyn o gwrw ’da chi," atebodd Jack.
Ac, yn wir, dychwelwyd gyda photelaid o gwrw a gwydr iddo.
Wedi rhyw ddeg munud arall o draethu dyma dorri ar draws y traethu
Saesneg gyda "O’s racor o hwn ’dach chi?"
Felly y bu gydol y ddarlith.
Darlledwr poblogaidd
Rywbryd rhwng canol oed a henaint daeth Jack i arddel mwy a mwy o’i
Gymraeg a bu’n ddarlledwr poblogaidd yn yr iaith a siaradai pan oedd
yn blentyn ac yn wr ifanc ym Merthyr.
"Byddai bob amser yn siarad Cymraeg yn barchus gyda Ruth, fy ngwraig,"
meddai Meic Stephens. "Ond yn Saesneg y byddai’n siarad â fi."
Bu’n gweithio yn y Gwaith Haearn ym Merthyr, a bu wedi hynny yn asiant
y glowyr. Cafodd yrfa liwgar ac yn ei dro bu'n aelod o bob plaid wleidyddol.
Ond fel ysgrifennwr a gofnododd fywyd cymoedd y de pan oedd hwnnw
yn ei anterth y cofir amdano.
"Gwerinwr oedd e yng nghanol cymdeithas drefol, ddiwydiannol," meddai
Meic Stephens.
Ymddiriedolaeth Rhys Davies fu’n gyfrifol am drefnu’r llechen i goffáu
Jack Jones ac fe’i lluniwyd gan Ieuan Rhys.
|
|
|