|
|
Byd
rhyfeddol
merched
Cymru
Son
am gyfnod pan oedd merched yn cael eu dwyn
Dydd Iau, Tachwedd 9, 2000
|
Women
and Gender in Early Modern Wales. Golygyddion: Michael Roberts
a Simone Clarke.
Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99 neu £35 clawr caled.
Tan yn gymharol ddiweddar gellid yn hawdd iawn faddau i rywun am dybio
mai rhywbeth yn ymwneud â dynion yw Hanes. Eithriadau prin oedd y
merched a enillai eu lle yn ein llyfrau hanes.
Y mae hyn yn cael ei danlinellu gan yr hyn a ddywed yr hanesydd Michael
Roberts mewn cyflwyniad i lyfr y mae wedi ei olygu gyda Simone Clarke.
Mae’n sôn am yr hyn a ddigwydd toc wed'rr Ail Ryfel Byd pan gomisiynodd
yr hen Gyngor Sir Ddinbych lyfr hanes i’w ddefnyddio mewn ysgolion.
Pan ymddangosodd, ei deitl oedd, "Eminent Men of Denbighshire."
Nid y byddai hynny wedi ymddangos yn od i neb ar y pryd.
Ochr arall y geiniog
Fel y mae ei deitl, Women and Gender in Early Modern Wales,
bwriad llyfr Michael Roberts a Simone Clark yw rhoi inni ochr arall
y geiniog .
Ar gyfer y lleygwr nad yw’n hanesydd bydd angen diffinio’r gair modern
yna. Yng nghyd-destun hanes, fel y dywed Michael Roberts, mae Early
Modern yn cyfeirio at gyfnod y Ddeddf Uno, y Rhyfel Cartref
a’r ysgolion cylchynnol - cyfnod pan oedd ymagweddau gwrywaidd yn
amlwg iawn.
Da felly, cael cyfrol fel hon gyda chyfraniadau gan naw o haneswyr
eraill hefyd yn trafod gwahanol agweddau o hanes mewn perthynas a
merched.
Y cyfranwyr eraill yw:
Richard Allen, arbenigwr o Goleg y Drindod
ar y Crynwyr;
Lesley Davison sy’n llunio astudiaeth
o ferched sengl;
Ruth Geuter arbenigrwiag ar wniadwaith yr ail ganrif
ar bymtehg;
Nia Powell o Brifysgol Bangor;
Llinos Beverley Smith - arbenigwraig
ar hanes economaidd a chymdeithasol Cymru’r canol oesoedd;
Richard Suggett sydd â’i arbenigedd mewn
pensaeniaeth ac anthropoleg;
Garthine Walker o Brifysgol Caerdydd;
Eryn M. White, darlithydd yn Aberystwyth
sydd wedi canolbwyntio ar hanes crefyddol y cyfnod dan sylw.
Y mae Michael Roberts hefyd yn ddarlithydd yn Aberystwyth a Simone
Clarke yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Wolverhampton.
Mae ei chyfraniad hi yn ymwneud â hanes cymdeithasol ym Meirionnydd
ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
O safbwynt Cymreig
Yn ei ragair mae Michael Roberts yn tanlinellu’r ffaith mai llyfr
o safbwynt Cymreig wedi ei lunio yn arbennig gyda Chymru mewn golwg
yw hwn yn hytrach na chyfrol sy’n cymhwyso damcaniaethau eraill i
gyd-destun Cymreig.
Ychwanega fod cyfoeth o dystiolaeth a ffynhonellau Cymreig i hwyluso
gwaith haneswyr yn y maes.
Yn sicr y mae digon i gnoi cil arno.
Llinos Beverley Smith, er enghraifft, yn dangos fod y bedwaredd ganrif
ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn gyfnod pan sicrhaodd merched Cymru
"important advancements". Yr oedd yn gyfnod hefyd pan oedd
mwy a mwy o ferched yn derbyn tâl am eu llafur.
Dwyn merched a'u treisio
Pennod eithriadol o ddiddorol yw un Garthine Walker, "Strange
Kind of Stealing: Abduction in Early Moder Wales" sydd yn
rhoi gwedd ddiddorol ac ysgytwol ar y ffordd yr oedd rhai merched
yn cael eu ‘meddiannu’ gan ddynion.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw: er bod hon yn cael ei hystyried
yn drosedd nid oedd gymaint yn drosedd yn erbyn y fenyw fel merch
ond yn drosedd yn ei herbyn fel eiddo i ddyn bydded hwnnw yn dad neu
yn wr iddi.
Ystyr abduction yma yw fod merch yn cael ei chymryd yn erbyn
ei hewyllys a’i gorfodi i briodi neu’n cael ei threisio.
Ond fel y dywedodd un sylwebydd o’r cyfnod, pe byddai’r ferch yn digwydd
bod yn etifedd y gwir drosedd oedd mai tir mewn gwirionedd oedd yn
cael ei ddwyn. Wrth ddwyn y ferch dwyn y tir y byddai’n ei etifeddu
yr oedd y troseddwr.
Dyna oedd yn ei wneud yn "strange kind of stealing."
Cawn hanes brawychus o ferch, Ellen Lewis, yn cael ei churo a’i cholbio
a’i rhoi mewn cadwynau er mwyn ei gorfodi i briodi.
Pynciau eraill sy’n cael eu trafod yw gwrachyddiaeth; merched a mudiad
y Crynwyr; barddoniaeth gaeth gan ferched; gwniadwaith; bywyd merched
dibriod.
Y bennod sy’n cloi’r gyfrol yw gan Michael Roberts yn ymwneud â’r
agwedd tuag at ddynion y cyfnod gyda’r pennawd pryfoclyd: "more
prone to be idle and riotous than the English."
Digon, yn wir, i gnoi cil arno.
|
|
|