|
|
Cofio
naturiaethwr hynaws
Lluniau
gwych a straeon difyr mewn llyfr am
Ted Breeze Jones
Dydd Iau, Tachwedd 23, 2000 |
TED Dyn yr Adar - Cyfrol Goffa Ted Breeze Jones. Golygyddion:
Anwen Breeze Jones a Twm Elias. Gwasg Gomer. £19.95.
Y mae teitl cyfrol goffa Ted Breeze Jones yn dweud y stori i gyd -
a dim ond yn dweud hanner y stori hefyd.
Mae’r cynnwys ei hun yn llenwi’r bylchau gydag amryw o gyfeillion
yr adarwr brwd yn sôn am Ted Breeze Jones y dyn hefyd.
Cwmniwr hynaws a difyr
Mae’r hyn a ddywedant yn cadarnhau yr argraff yr oedd rhywun yn ei
gael - o gwmniwr hynaws, difyr a gwybodus yn ei faes - o wrnado arno
yn darlledu, ei wylio ar y teledu ac o ddarllen ei lyfrau.
Dyma wr a chanddo bob amser ddigon o amser i drafod yn ddifyr faes
yr oedd wedi ymddiddori gymaint ynddo, casglu cymaint o wybodaeth
amdano a chyfrannu cymaint tuag ato.
Fel sy’n weddus, gwaith Ted Breeze Jones ei hun yw asgwrn cefn y gyfrol
hon a drefnwyd gan ei weddw , Anwen, mewn cydweithrediad a naturiaethwr
arall, Twm Elias.
Dewis gwych o luniau
Mae’n
cynnwys detholiad ardderchog o luniau Ted Breeze Jones yn amrywio
o adar, yn bennaf, i famaliaid, pobol a golygfeydd.
Mae rhai o’r lluniau yn mynd a gwynt rhywun; fel rhai o Lwyd y Gwrych
yn bwydo cyw Cog anferth, Tylluan yn llyncu llygoden, Twrch daear
yn torri i’r wyneb drwy’r pridd a’r adar yn ymgasglu i glwydo adeg
machlud yn y gaeaf .
Nodiadau'r naturiaethwr ei hun sydd gyda’r lluniau gan gynnig gwybodaeth
ddifyr gan wr a chanddo lygaid am yr anarferol a’r digri:
Adar wedi meddwi yn yr ardd!
"Adar yn meddwi? Mae amryw o lwyni Berberis darwini yn ein
gardd ac yn sioe o flodau’n flynyddol cyn datblygu’n aeron du-las
hardd.
"Bydd yr adar, y Mwyeilch yn arbennig, yn eu llowcio. Ond bydd
yr holl aeron maent yn eu llyncu yn eplesu yn eu stumogau a byddant
yn rowlio o gwmpas llwybrau’r ardd!
"Mae yna berygl mawr yn hyn, nid ydynt yn ddiogel i hedfan ac
mae tuedd iddynt daro yn erbyn ei gilydd neu fynd i wrthdrawiad â
ffenestri," meddai.
Dadl gref dros ddirwest, siwr o fod!
Iar yn gori ar gi
Ymhlith
y lluniau sy’n goglais y mae’r un o iar yn gori ar gi ac un o dylluan
wedi ei dal gyda llygoden a oedd eisoes wedi ei dal mewn trap!
"Pan oedd pla o lygod yn fy ngardd, ac yn achosi tipyn o ddifrod,
gosodais hanner dwsin o drapiau i’w dal. Roedd y trapiau wedi diflannu’r
diwrnod canlynol.
"Gosodais ychwaneg o drapiau a bum yn ffodus o ddal y lleidr
liw dydd golau. ‘Annwyl’, cyw Tylluan Frech amddifad a fagwyd gan
Joan Addyman, cymdoges annwyl iawn, oedd wedi gweld ei gyfle i gael
bwyd yn ddiymdrech."
Y rhai sy'n ei gofio
Y mae 17 yn cyfrannu eu hatgofion am Ted Breeze Jones gan gyffwrdd
yn gyntaf â’i fywyd o’i ddyddiau cynnar ym Mlaenau Ffestiniog - ardal
yr arhosodd ynddi gydol ei oes.
Yn eu plith y mae Dei Tomos y darlledwr, Gwyn Thomas y bardd, Peter
Hope Jones a Duncan Brown y naturiaethwyr.
Hefyd: Ken Daniels, Dilwyn Jones, John Lawton Roberts, Gareth Parry,
Robin Williams, Wil Evans, Emyr Roberts, Kelvin Jones, John Eric Williams,
David Trevor Davies a Gareth Lloyd.
Mae Gwyn Thomas yn cofio am berthynas Ted a chathod - "Go brin y byddai
neb yn cael ei demtio i ddisgrifio Ted fel ‘dyn cathod’," meddai!
Dyn hynaws ac amyneddgar
Heb eithriad, mae pawb yn tynnu llun o wr hynaws, amyneddgar parod
i rannu ei wybodaeth. Yn sicr yr oedd ei ddylanwad yn eang.
"Roedd yn amlwg yn ddyn goddefgar a mawr ei ofal, oherwydd yn ystod
y blynyddoedd cynnar yna mae’n siwr fy mod wedi ei yrru’n wirion gyda’m
holi diddiwedd ac yn wastad o dan ei draed.
"Trwy gydol fy nyddiau ysgol teimlwn ei fod yna i mi, rhywun
y gallwn ddibynnu arno, rhywun y gallwn agor fy nghalon iddo ac fe
wrandawai," meddai David Trevor Davies.
Nid adar yn unig
Mae Gwyn Thomas yn ein hatgoffa: "Nid adar yn unig a âi a bryd Ted;
yr oedd yn naturiaethwr eang ei ddiddordebau. O bryd i’w gilydd byddai
ganddo, mewn cas gwydr yn y ty, nadredd - y sglyfa’th pethau anffansiol
hynny.
"Ond nid dyna oeddan nhw i Ted - er iddo gael ei bigo fel y dwedwn
i, ei frathu fel y dwedai o, gan wiber ar ben ei fys o leiaf unwaith."
Gwiber a Neidr Wair
Y mae llun gwibr yn y gyfrol gyda’r nodyn hwn gan Ted:
"Roedd yna hen chwedl fod y wiber yn llyncu ei chywion pan fyddai
perygl gerllaw. Rwy’n cofio gwylio Gwiber yn llyncu madfall, ac araf
iawn y diflannai i lawr safn y neidr, felly dydw i ddim yn credu y
gallai nifer o wiberod bach ddiflannu i lawr gwddf eu mam."
Disgrifia ymateb y Neidr Wair pan fo mewn peryg: "Bydd yn troi ar
wastad ei chefn, a’i chorff yn hollol lipa, ei cheg agored yn gam
a’i thafod yn hongian. Ystryw yw hwn i argyhoeddi gelyn ei bod yn
hollol farw a gall aros yn yr ystum hwn am amser maith."
Difyr ym mhob ffordd
O bob safbwynt y mae hon yn gyfrol ddifyr a gwerth chweil: o safbwynt
y lluniau gwych, o safbwynt dod i adnabod naturiaethwr hynaws ac o
safbwynt y dyfyniadau difyr o ddyddiaduron a chyhoeddiadau Ted Breeze
Jones ei hun.
O ran rhywmiad a dyluniad clawr gallai rhywun gael ei demtio i feddwl
mai cyfrol i blant yw hon ond y mae ynddi, mewn gwirionedd, berlau
inni i gyd.
|
|
|