大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O Richard Wilson i Wil Cwac Cwac

Trafod llyfr pwysig am gelfyddyd yng Nghymru

Dydd Iau, Tachwedd 30, 2000

• Delweddu'r Genedl gan Peter Lord. Gwasg Prifysgol Cymru. 416tt, 693 o luniau lliw. 拢30. ISBN 0-7083-1592-5.

Adolygiad gan Phil ap Iorwerth


Dyma gyfrol hynod bwysig. Rhaid dweud hynny cyn cychwyn.

Mae ynddi dros 400 o dudalennau a bron i 700 o luniau.

Dylai fod ar silff pawb . . .

Mae'n gyfrol a ddylai fod ar silff pawb sy'n ymddiddori yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru, neu yn hanes Cymru yn gyffredinol.

Anrheg Nadolig derbyniol iawn i lawer.

Wrth drafod ei chynnwys rhaid cadw mewn cof y cyfyngiadau a osododd yr awdur ar rychwant y llyfr.

Yn ei gyflwyniad eglura ei fod yn cychwyn yn oes y Tuduriaid pan ddechreuodd unigolion ddisodli'r eglwys fel prif noddwyr celf weledig.

Wrth ein tywys wedyn i ganol yr ugeinfed ganrif mae Peter Lord yn ein rhybuddio nad yw'r llyfr wedi ei fwriadu fel rhestr o artistiaid Cymreig drwy'r oesoedd ond, yn hytrach, fel dadansoddiad o'r ffyrdd y mae Cymru wedi cael ei delweddu yn weledol gan artistiaid o Gymru ac o wledydd eraill.

Agoriad llygad a syndod

Mae sg么p y llyfr yn anferth, gan gynnwys pob mathau o gelfyddyd weledol o dirluniau Richard Wilson, i bortreadau Hugh Hughes, Wil Cwac Cwac a Llyfr Mawr y Plant.

Mae'r llyfr yn agoriad llygad i bawb.

Yn absenoldeb Oriel Gelf Genedlaethol a phrinder llyfrau tebyg yn y gorffennol, mae nifer ac amrywiaeth y delweddau yn syndod.

O ran cynllunwaith y llyfr mae rhywun yn gweld eisiau llyfryddiaeth a rhestr lawn o'r lluniau - a thrueni na chafodd ei rwymo gyda phwythau yn y dull traddodiadol.

Brawddegau yn rhy hir

Ond i droi yn 么l at y cynnwys: er mor drylwyr yw ymchwil Peter Lord ac er maint ei angerdd dros y pwnc, rhaid nodi bod ei duedd i ddefnyddio brawddegu hirion, yn tueddu i wneud y darllen yn waith llafurus.

Rydw i hefyd yn anghytuno ag ef ar ambell bwynt. Prin y gellir disgrifio Plas Teg, ger yr H么b yn Sir Y Fflint, fel adeilad ar ffurf `gastellog' er bod iddo dyrau ar bob cornel. Yn hytrach mae'n debycach i blastai fel Hardwick a Wollaton yn swyddi Derby a Nottingham.

Mae Lord hefyd yn rhy barod i dderbyn y syniad traddodiadol mai'r pensaer John Nash a fu'n llwyr gyfrifol am ddehongli dymuniadau Uvedale Price er mwyn adeiladu Castle House yn Aberystwyth yn yr arddull picturesque newydd.

Er yn dyfynnu peth o lythyr gan Price yn nodi fel y bu iddo ef egluro i Nash yn union beth a ddymunai nid yw'n dyfynnu y rhan o鈥檙 llythyr sy'n nodi:

"He was excessively struck with these reasons, which he said he had never thought of before in the most distant degree, & he has I think contrived the house most admirably for the situation, & the form of it is certainly extremely varied from my having obliged him to turn the rooms to different aspects." (Fy mhwyslais i)

Yn gynharach yn yr un llythyr mae Price yn nodi fod Nash wedi bwriadu cynllunio ty oedd beth wmbreth yn fwy ac yn ddarn sgw芒r o bensaern茂aeth.

Ni chawn ddiwedd y stori

Gan aros gyda Nash mae Peter Lord yn trafod yn fyr gartref Thomas Johnes yn yr Hafod. Comisiynwyd Thomas Baldwin o Gaerfaddon i gynllunio ty newydd ym 1786. Ym 1793 cafodd Nash wahoddiad i wneud ychwanegiadau pwysig at y ty "ac o ganlyniad newidiwyd cymeriad adeilad Baldwin yn sylweddol."

Ond ni chawn ddiwedd y stori gan Peter Lord. Yn dilyn ymweliad 芒鈥檙 Hafod ym 1806 dywedodd C R Cockerell fod y llyfrgell a gynlluniwyd gan Nash yn "a good room but affected as Nash's things generally are."

Dinistriwyd y cyfan o waith Nash mewn t芒n ym 1807.

Dywedodd Johnes "All Nash's buildings are gone, and you will say no loss. But Baldwin's stand firm. I shall employ him again, for he is an able, and I believe, an honest man."

Sy'n awgrymu beth, tybed am Nash?

Rwy'n derbyn fod Peter Lord yn gwisgo mantell efengylwr treftadaeth weledol Cymru ond rhaid gofyn a yw hynny'n cyfiawnhau defnyddio dadleuon unochrog?

Safon uchel iawn
Ond mae llawer mwy i'w ganmol yn ei lyfr nac i anghytuno ag ef.

Mae鈥檔 llyfr sydd i'w groesawu yn fawr gyda鈥檙 atgynhyrchiadau lliw o safon uchel iawn.

Ac rwy鈥檔 ymwybodol nad wyf, mewn hyn o lith, wedi gallu gwneud cyfiawnder a chyfrol yr wyf yn sicr y caf y pleser o'i darllen a'i hail ddarllen yn y dyfodol.

Mae'n dyled ni yn fawr i Peter Lord am ei weledigaeth.Gweler hefyd:

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy