|
|
Merched
Cymru
yn yr
ugeinfed ganrif
Adolygiad
gan Helen Price
Dydd Iau, Tachwedd 16, 2000
|
Out
of the shadows : a history of women in twentieth century Wales Deirdre
Beddoe University of Wales Press, 2000
Mae troad canrif yn gyfle i oedi ac ystyried y cyfnod sydd wedi mynd
heibio.
Dyma gyfrol arall ymhlith llyfrau hanes yr ugeinfed ganrif sy’n cynnig
golwg newydd gan iddi ddisgyn i’r dosbarth newydd hwn o "gendered
history".
Dim ond yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf y cawsom ffrwyth gwaith
ar y testun hwn ac fel y mae’r awdur yn cyfaddef, mae llawer o waith
i’w wneud eto.
Mae’r llyfr yn llawn cyfeiriadau at ffynhonellau sydd heb eu hymchwilio
ac at bynciau ymchwil nad oes neb wedi’u hastudio hyd yn hyn.
Ar gyfer cynulleidfa eang
Serch hynny, nid cyfrol drom, academaidd, yw hon ond un wedi ei hanelu
at gynulleidfa eang. Mae’n ddarllenadwy ac â darluniau diddorol.
Y mae apêl bersonol iawn a’r cychwyn, gyda rhagarweiniad Deirdre Beddoe
yn sôn am ei dwy nain - dwy Gymraes o draddodiadau gwahanol iawn.
Y mae’r llyfr yn peri ichi ystyried a chofio eich storïau teuluol
a phrofiadau personol eich hun.
Y mae terfynau’r llyfr yn eang gan gynnwys y cyfnod cyn y rhyfel byd
cyntaf (erbyn hyn, ar ôl i’r llwch setlo, mae haneswyr yn tueddu i
ystyried y cyfnod hwn gyda’r bedwaredd ganrif ar bymtheg).
Mae’r awdur yn adnabyddus fel hanesydd yn ne ddwyrain Cymru ac ar
yr ardal hon y mae pwyslais y llyfr er iddi wneud ymdrech deg i fod
yn gynhwysfawr trwy ystyried y gogledd a’r gorllewin gwledig ym mhob
pennod.
Er yn hanesydd o’r Gymru Saesneg ei hiaith, yn wahanol i rai eraill
mae wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg er mwyn defnyddio’r
ffynonellau amrywiol sydd ar gael.
Hefyd, mae’n ystyried menywod o bob dosbarth. "A tall order for
a short book," fel y mae hi’n cyfaddef!
Chwe chyfnod
Mae’r chwe phennod yn trafod chwe chyfnod: bellach, mae’r ugeinfed
ganrif yn cael ei diffinio gan ryfeloedd, felly: cyn y rhyfel;
y rhyfel;
rhwng rhyfeloedd;
y rhyfel nesaf;
ar ôl y rhyfel.
Mae’n rhannu’r rhan olaf yn 1970, gyda dyfodiad mudiad rhyddid merched.
Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau diddorol ac annisgwyl:
Syniad ysbrydoledig pwy oedd gwahodd
Lloyd George i fod yn llywydd y National Baby Week
yn 1917?
Diddorol darllen am yrfa Lady Rhondda
fel anfonydd bom post cyntaf Cymru;
Timau pêl-droed merched mewn ffatrïoedd
arfau yn ystod rhyfel 1914-1918;
Y ffaith fod merched yn rhoi gorchymyn
i danio gynnau gwrthawyrennol yn y rhyfel 1939-45 (ond roedd
yn rhaid cael dyn i danio).
Ceidwadaeth y dynion
Wrth ystyried cyflogaeth mewn addysg, iechyd, bywyd cyhoeddus a bywyd
cymdeithasol, ymddengys darlun cyson o geidwadaeth dynion Cymru.
Y mae Deirdre Beddoe yn ein hatgoffa i ddiwylliant gwrywaidd dosbarth
gweithiol fod yn gryf iawn yng Nghymru i gadw yr hyn y mae hi’n ei
alw yn "the doctrine of separate spheres" gyda’r undebau
yn gweithredu er mwyn cadw merched allan o’r gweithle.
Wrth sôn am "fuddugoliaeth" merched Abertyleri yn llwyddo i groesi
trothwy sefydliad y glowyr yn 1984 dywed; "People were amazed."
Drws y llyfrgell wedi cau
Ac yn y cyd-destun hwnnw, sylwer nad oedd y cyfoeth o ddiwylliant
a oedd ar gael i ddynion y cymoedd drwy’r llyfrgelloedd glowyr yn
agored i ferched.
(Does dim sôn am yr ystafelloedd darllen i ferched yn llyfrgelloedd
dinas Caerdydd cyn y rhyfel byd cyntaf).
Yn dal heb fod yn gyfartal
Hyd yn oed ar ôl i ferched ddianc rhag gweini mewn tai parhaodd y
syniad o gyfleon cyfartal yn freuddwyd am ddegawdau ac nid yw wedi
cyrraedd byth.
Mae enghreifftiau cyfoes brawychus ganddi :
ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft,
dim ond 25% o ferched sydd mewn swyddi academaidd â chontract parhaol
o gymharu â 51% o ddynion.
(Mae’n wir hefyd bod merched yn fwy tebygol
o gael eu cyflogi ar raddfeydd clerigol na dynion gyda’r un cymhwysterau
yn y sector academaidd – a’r un peth yn digwydd mewn meysydd eraill.)
Yn baradocsaidd, y mae diwedd addysg-un-rhyw
wedi golygu llai o gyfle i ferched gael swyddi uchel ym myd addysg,
ac i fod yn fodelau rôl i ferched ifanc.
Anghytuno a'r awdur weithiau
Llyfr personol ei naws yw hwn ac, weithiau, rhaid anghytuno â safbwynt
yr awdur.
Er enghraifft, ei barn am y pumdegau, "with their repressive
emphasis on sugar-and-spice femininity – a period which most women,
who lived through it, regard as best forgotten."
I gynnig barn hollol bersonol arall, yr wyf yn cael yr argraff fod
merched - dipyn bach yn hynach - yn fy nheulu i, wedi mwynhau’r cyfnod
hwnnw o ffrogiau llawn, dawnsfeydd, colur ac ati wedi blynyddoedd
iwtilitaraidd, di-liw, yn cuddio dan y grisiau yn ystod y rhyfel.
Ond dyma un o rinweddau’r llyfr - ei fod yn peri ichi feddwl ac i
ymateb i’r hanes.
Ateb cwestiwn
Y mae Deirdre Beddoe yn ateb y cwestiwn, a yw hanes merched
Cymru yn wahanol i hanes merched gweddill Prydain? trwy gynnig
dylanwad tymor hir "Brad y Llyfrau Gleision" gyda’i bwyslais ar foesau
merched, a dylanwad y capeli, o’r ganrif cynt.
Mae hi’n dangos hefyd fod ceidwadaeth ddofn yng Nghymru o gymharu
â’r Alban a Lloegr.
Er bod llawer o waith i’w wneud eto yn y maes hwn mae hon yn gyfrol
ddysgedig a difyr i’w mwynhau.
|
|
|