|
|
Hen
werthoedd mewn gwlad newydd
Dau
lyfr yn son am ymfudwyr yn ceisio diogelu hen ffordd o fyw |
Gwladfa Patagonia 1865-2000 gan R. Bryn Williams gyda phennod
ychwanegol gan Nan Griffiths. (Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg). Gwasg
Carreg Gwalch. £4.25.
Hutterites of Montana gan Laura Wilson.
Yale University Press. £27.50.
gan Glyn Evans:
Y
mae hanes y rhai hynny a orfodwyd i adael eu cynefin er mwyn osgoi
annhegwch ac i geisio bywyd gwell mewn gwlad newydd yn un amrywiol
a diddorol.
Gadwodd miloedd ar filoedd o Gymry am yr Unol Daleithiau, er enghraifft,
ond heb amheuaeth yr ymfudiad a wir gipiodd ddychmyg y Cymry oedd
yr un i sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yn Ne America.
Mewn tair iaith
Y mae fersiwn tairieithog o’r hanes hwnnw newydd ei gyhoeddi gan Wasg
Carreg Gwalch.
Awdur Gwladfa Patagonia/La Colonia Galesa de Patagonia/The Welsh
Colony in Patagonia yw y diweddar R. Bryn Williams prif hanesydd
y wladfa honno.
Cyhoeddwyd y gyfrol wreiddiol yn 1965 i nodi canmlwyddiant glaniad
y gwladfawyr cyntaf.
Ar gyfer y gyfrol ddiweddaraf ychwanegwyd pennod gan ferch yr awdur,
Nan Griffiths, a pharatowyd y cyfieithiad Sbaeneg gan Lowri W. Williams,
Bangor.
Gosodwyd dwy iaith Cymry Patagonia heddiw - y Gymraeg a’r Sbaeneg
- ochr yn ochr a’i gilydd gyda’r fersiwn Saesneg yng nghefn y gyfrol.
Cyhoeddir hefyd, nifer o luniau na welsant olau dydd o’r blaen.
Yn amlwg mae’n fwriad gwerthu yng Nghymru ac ym Mhatagonia.
Diogelu hen werthoedd
Yr anhawster y mae pob ymfudwr yn ei wynebu wrth geisio bywyd newydd
mewn gwlad arall yw amddiffyn y gwerthoedd hynny y maent yn eu trysori
rhag arferion y wlad newydd.
Dim ond yn rhannol y llwyddwyd i wneud hynny yn achos Cymry Patagonia.
Er bod elfennau o Gymreictod yn dal yn gryf yno a’r iaith i’w chlywed
ar sawl gwefus, fel Archentwyr yr ystyria’r ‘Cymry’ yno eu hunain
yn gyntaf erbyn hyn .
Yno, ni pherthyn unrhyw gymhlethdod i’r ddeuoliaeth o fod o waed Cymreig
ac yn ddinesydd Archentaidd. Mae’n fater llawer llai sensitif ac yn
llawer llai o dramgwydd nag yw'r syniad ein bod yn Gymry ac yn British
i rai ohonom ni.
Gwrthsefyll llanw modern
Yn y cyd-destun hwn mae’n ddiddorol cymharu cymhathiad y Cymry yn
Ariannin ag agwedd ymfudwyr eraill gwahanol iawn y cyhoeddwyd llyfr
amdanynt yn ddiweddar.
Y mae’r Hutterites yn cynnal eu cymdeithas hwy ym mhellafion
Montana yn yr Unol Daleithiau.
Fel yr Amish yn yr un wlad, y maen nhw yn gwneud eu gorau i
wrthsefyll y llanw Americanaidd modern.
Yn byw mewn cymunedau o rhwng 35 a 100 o bobol maen nhw’n ymwrthod
a theledu, radio, ceir a dawnsio ac y maen nhw yn heddychwyr i’r carn.
"Nid
y teledu sy’n codi ein plant ni," meddai un ohonyn nhw.
Fel arfer dydyn nhw ddim yn caniatau cymryd tynnu eu lluniau felly
mae’n deyrnged i Laura Wilson, awdur Hutterites of Montana
iddyn nhw ganiatau iddi hi wneud hynny - er ei chyfyngu i luniau du
a gwyn.
Cymerodd amser iddi ennill eu hymddiriedaeth a bu’n ymweld â hwy yn
gyson dros bedair blynedd ar ddeg gan gychwyn yn 1985.
Byw a gwisgo'n wahanol
Y canlyniad yw cyfrol arbennig o hardd gyda darluniau gwych o gymdeithas
o bobl sydd nid yn unig yn byw yn wahanol ond yn gwisgo’n wahanol
er mwyn diogelu eu hunigolyddiaeth.
Y dynion yn eu du gan gynnwys eu hetiau cowboi sy'n eu gwneud i edrych
nid yn annhebvyg i Yul Brynner yn yffilm The Magnifenct Seven!
Mae’r
merched yn ymwrthod a phob addurn gan gynnwys modrwyau priodas.
Cychwyn y daith i’r Hutterites oedd y Tyrol ym 1528 pan roddodd ffoaduriaid
eu holl eiddo yn eu clogau a daenwyd ar y llawr..
Fe’u henwyd ar ôl Jakob Hutter, arweinydd cynnar a gododd wrychyn
yr eglwys sefydledig trwy bregethu bedydd oedolion, heddychiaeth a
rhannu eiddo.
Llosgwyd Hutter yn fyw ym 1536 a chafodd ei ddilynwyr eu herlid o
Awstria gan y Brenin Ferdinand I.
Cymaint yr erlid dihangodd rhai i Rwsia yn 1770 ac o fethu â chael
cysur yno i’r Unol Daleithiau rhwng 1874 ac 1877 gan ymsefydlu yn
unigeddau Dakota lle dofwyd y tir anodd ganddynt drwy chwys a llafur.
Gwawd a sen yng ngharchar
Ar sail eu heddychiaeth ddiwyro daethant yn hynod amhoblogaidd yn
ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda sawl un yn dioddef gwawd a sen
am wrthod gwisgo lifrai yng Ngharchar.
Erbyn heddiw y mae rhai cannoedd o gymunedau.
"Mae ganddyn nhw hyder tawel sy’n dod o oroesi. Y mae ganddyn nhw
deimlad cryf o berthyn i Dduw ac i’w gilydd. Nid yw eu hymroddiad
i fywyd cymunedol wedi ei siglo o gwbl," meddai Wilson.
Gofalu am ei gilydd
Eu hegwyddor ganolog yw fod pob un yn gweithio yn ôl ei allu ac yn
derbyn yn ôl ei angen. Does neb yn cael cyflog. Y teuluoedd sy’n gofalu
am yr hen.
Arweinydd - a pherson pwysicaf - y gymuned yw’r gweinidog gyda phawb
yn troi ato am arweiniad a chymorth.
Mae ganddyn nhw eu ffordd eu hunain o drin troseddwyr o fewn y gymuned.
Os yw’n drosedd ddifrifol fel dwyn neu odineb - ac mae’r ffaith fod
godinebu yn cael ei ystyried yn ddifrifol yn dweud cyfrolau amdanynt
y dyddiau hyn - disgwylir i’r troseddwr gyffesu i’r gweinidog a gofyn
maddeuant ganddo.
Wedyn, mae’n esgymun am wythnos yn gorfod osgoi cwmni pawb gan fyw
ar ei ben ei hun.
Ond wedi saith niwrnod, waeth pa mor ddifrifol y drosedd, daw maddeuant
a’r troseddwr yn ysgwyd llaw a phawb sydd wedi ei fedyddio wrth i’r
rheini ei groesawu yn ôl i’w plith.
Mae’r llyfr yn astudiaeth ddifyr a dadlennol o gymuned sy’n llwyddo
i ddiogelu ac i amddiffyn y gwerthoedd hynny y mae’n eu hystyried
yn orau mewn gwlad lle mae cymaint o ddylanwadau eraill gwahanol a
niweidiol.
|
|
|