I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch
yma:
Neu darllenwch am
gan Glyn Evans
O Graig yr Eifl i America
gan Ioan Mai. Cyfres Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch.£3.50.
Cawn ddarlun difyr nid yn unig o Gymru wledig dechrau'r ugeinfed
ganrif ond o fywyd ymhlith mewnfudwyr cynnar yr Unol Daleithiau
mewn cyfrol Gymraeg sydd newydd ei chyhoeddi.
Yn O Graig yr Eifl i America y mae Ioan Mai Evans yn cynnwys
deunydd a sgrifennwyd gan ei fam a fudodd gyda’i gwr i’r Unol Daleithiau
ym 1909.
Hwylio o Lerpwl
Hwyliodd y ddau o Lerpwl ar y Lusitania - leinar gydag enwocaf
erioed cwmni Cunard.
Cyfrol yng nghyfres ragorol Llyfrau Llafar Gwlad yw O
Graig yr Eifl i America gyda'i darluniau byw a dadlennol o fywyd
yn ardal Llithfaen rhwng Caernarfona Phwllheli ddiwedd y bedwaredd
ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Yn un o saith o blant ganwyd Elin Jones yn 1879 a phan fu farw yn
92 oed gadawodd yr hyn y mae ei mab yn ei alw yn "waddol o ysgrifau"
hynod ddiddorol.
Y rheini yw cnewyllyn y gyfrol fach hon.
Un o ferched y grug
Bu hi'n "un o ferched y grug" yn cario ar eu cefnau y grug
yr oedden nhw wedi ei gasglu ar lechweddau’r Eifl i’w werthu i dwymo
popdai ym Mhwllheli.
"Cerddent un filltir ar bymtheg bob dydd hyd y flwyddyn . . . Bu
rhai wrth y gwaith am flynyddoedd â hen glocsiau baglog am eu traed."
Yn "lefran o hogan" dywed iddi ddysgu gwnio yn Nefyn.
"Aros yno o fore Llun hyd y Sadwrn am dri mis heb gyflog gan ddychwelyd
adref â’r injian wnio i nghanlyn. Fy nghyflog oedd swllt y dydd
am weithio o wyth y bore hyd wyth yr hwyr. Cerdded tair milltir
i ambell fan, rhai yn talu, ond eraill yn 'bobol yn talu eto' a’r
‘eto’ byth yn dod. Ond fel hyn y deuais i adnabod pobol," meddai.
Yng nghanol chwyldro y chwareli
Ond ym mro’r Eifl, fel mewn sawl lle yr adeg honno, yr oedd chwyldro
yn digwydd yn sgil twf rhyfeddol y chwareli ithfaen a phawb "yn
fwg ac yn dân" dros eu llwyddiant.
Un o ganlyniadau y chwyldro hwnnw oedd codi pentref ar gyfer y chwarelwyr
- pentref y daethpwyd i’w adnabod fel Nant Gwrtheyrn!
"Adeiladwyd dau ddwsin o dai yno, yn ogystal â phlas hardd ar ei
ben ei hun yn wynebu’r môr, yn gartref rheolwr y cwarel a’i deulu,
neu ‘bobol y Plas’ fel y’i gelwid’," meddai.
Doedd gwaith yn y Plas ddim y mwyaf dymunol:
"Byddwn yn codi am bedwar o’r gloch ar fore Llun er mwyn gorffen
godro erbyn wyth. Yna, byddai plant a phobol y Nant yn galw am y
llefrith a ninnau wedi ein siarsio nad oeddem i roi dim ond yr union
fesur i bawb.Roeddwn yn ei chael yn anodd efo ambell un a oedd yn
sobor o dlawd ac mi wyddwn hefyd bod gwraig y Plas fel haearn Sbaen
o galed."
Mudo i'r 'Merica
Y tro mawr ar fyd fu priodi yn 1906 a mudo wedyn gyda’i gwr i’r
Unol Daleithiau i chwilio am fywyd gwell trwy ddefnyddio y grefft
a ddysgwyd yng Nghymru yn chwareli ithfaen y wlad honno:
"Peth cyffredin ymysg amryw . . .oedd ymfudo i’r America pan fyddai
dirwasgiad. Hel eu pac am fannau fel Vermont, lle bedyddiwyd y gorfforaeth
yn Graig yr Oesoedd, neu i ganol eirth a bleiddiaid i wylltleoedd
fel Pike efallai," eglura Ioan Mai.
I le o’r enw Redgranite yr ymfudodd ei dad a’i fam a’r darlun yw
o fywyd ffyniannus.
"Roeddan ni wedi digwydd cyrraedd pan oed y dref wrthi’n datblygu.
Mewn cyn lleied a chwe blynedd gwelsom fanc yn cael ei sefydlu a
chychwyn papur newydd wythnosl. . . Theratr yr Eryr yn agor ymhen
dwy flynedd . . . Redgranite oedd calon diwydiant y chwareli yn
y gorllewin canol," meddai.
Ond doedd pethau ddim yn fêl i gyd: "Nid oedd y dref heb ei helyntion
o ganlyniad i gamblo, ymladdfeydd a saethu . . . roedd y llawddryll
yn erfyn lawer rhy barod . . . er mawr syndod iddo (ei gwr)
fe’i cynghorwyd i gadw rifolfar mewn man arbennig wrth ei wely.
Styrbiodd hynny dipyn arno."
Mwy cydnaws a’r Cymry yr oedd steddfota a chapela a digwyddai hynny
yno hefyd.
Dychwelyd i eni plentyn
Onibai iddi golli plentyn ar enedigaeth y tebyg yw y byddai Elin
a'i gwr wedi aros yn yr Unol daleithiau:
Ond meddai: "Fu perthau ddim yr un fath ac yn fy nghalon penderfynais
na fyddwn yn rhoi genedigaeth i blentyn arall yn America. Ymhen
tair blynedd canfyddais fy mod yn disgwyl fy ail blentyn. Addunedais
y byddwn yn dychwelyd i’r henwlad i’w eni," meddai.
Hynny a wnaed ond, "bu fy ngwr mor gyndyn i hel ei bac nes iddo
benderfynu claddu ei arfau trin cerrig mewn gardd a hynny gyda’r
bwriad o ddychwelyd ryw ddydd," meddai.
Fu yna ddim dychgwelyd ac mae’r ail blentyn hwnnw, awdur y gyfrol
hon, yn byw o hyd yn y ty lle dychwelodd ei fam i’w eni.
Gwedd ddiddorol ar yr hanes yw y cysylltiad a’r Lusitania
achos ar ei bwrdd hi y dychwelwyd i Gymru hefyd a hynny ond
ychydig cyn iddi gael ei suddo oddi ar arfordir Iwerddon - digwyddiad
y bu cryn ddirgelwch ynglyn ag ef byth wedyn.
Cliciwch
Dyma restr
yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:
Cymraeg a dwyieithog
BYD PLENTYN: E. Olwen Jones 0862435242 Y Lolfa £4.95 Casgliad o
ganeuon a charolau i blant bach.
CÂN Y DDRAIG: Robat Arwyn 1897664192 Curiad £5.99 11 o ganeuon newydd
gan gyfansoddwr poblogaidd.
CLYCHAU BETHLEHEM: Gwennant Pyrs 189766429X Curiad £5.99 Cyfrol
o garolau newydd.
COFIO DEWI EIRUG: Huw Ethall 1871799414 Ty John Penri £4.95 Portread
o'r diweddar Dewi Eirug Davies a'i gyfraniad i fywyd crefyddol Cymru.
CYFRES LLYFRAU LLAWEN:9. I WLAD YR HWLI DWLIS: Joan Ferrero Darl.
Lyn Hughes-Evans 0862435609 Y Lolfa £4.95 Stori ddifyr gyda lluniau
lliw-llawn.
Y CYNTEFIG CYFOES: Donald Evans 1900437422 Cyhoeddiadau Barddas
£6.95 Detholiad o gerddi'r bardd, gydag ambell un newydd.
FFARWELIO Â CHANRIF: Alan Llwyd 1900437392 Cyhoeddiadau Barddas
£7.95 Cyfrol o farddoniaeth newydd yn edrych yn ôl ar yr ugeinfed
ganrif.
FFERM 123: Benedict Blathwayt 1855964155 Dref Wen £4.99 Adargraffiad
o lyfr gair-a-llun dwyieithog i blant bach.
LLANGYNOG GYNT: J.D. Lloyd 0860741710 Gwasg Gwynedd £4.50 Atgofion
yr awdur a hanes ardal Llangynog.
LLWYFANNAU LLEOL: Gol. Hazel Walford Davies 1859029027 Gwasg Gomer
£9.95 Cyfrol ar hanes theatrau lleol yng Nghymru.
TAFF PAC: Joanna Davies 0862435323 Y Lolfa £4.95 Cyfweliadau gyda
deg o Gymry ifanc sy'n gwneud eu marc ym myd drama a ffilm.
TOMI'N CEISIO CYSGU: Sally Chambers Addas. Hedd ap Emlyn, Non ap
Emlyn 1855964546 Dref Wen £3.99 Llyfr lliwgar i blant bach, yn yr
un gyfres â Tomi Mewn Trwbwl.
UN DRWG DRWG YW EDWYN: Alan Durant Addas. Dylan Williams Darl. Guy
Parker-Rees 1902416406 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £5.75 Stori
mewn odl am gwningen gas, gas.
Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru
KEEP THE FEAST: 1859942423 Gwasg yr Eglwys yng Nghymru £14.99 Pecyn
yn cynnwys cryno ddisg o 18 carol, llawlyfr Plygain a thestun y
carolau.
NEWSPAPER RUSSIAN - A VOCABULARY OF ADMINISTRATIVE AND COMMERCIAL
IDIOM: John Slatter 0708316344 Gwasg Prifysgol Cymru £10.99 Llawlyfr
o'r iaith a'r eirfa sydd i'w gweld ym mhapurau newydd Rwsia heddiw.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: MICHAEL WALZER ON WAR AND JUSTICE:
Brian Orend 0708316484 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Golwg ar rai
o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol ein cyfnod.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: WILLIAM MORRIS - THE ART OF SOCIALISM:
Ruth Kinna 0708315828 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Astudiaeth sy'n
edrych ar agweddau o waith William Morris.
TEACHING A CHICKEN TO SWIM: Gol. Rob Middlehurst 1854112910 Seren
£6.95 Straeon byrion gan gyn-fyfyrwyr cwrs Ysgrifennu Creadigol
Prifysgol Morgannwg.
WALES YEARBOOK 2001, THE: Gol. Denis Balsom 0953128733 Cyhoeddiadau
F.B.A. £35.00 Y cyfeirlyfr hanfodol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
WRITING RELIGIOUS WOMEN - FEMALE SPIRITUAL AND TEXTUAL PRACTICES
IN LATE MEDIEVAL ENGLAND: Goln. Denis Renevey, Christiania Whitehead
0708316417 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol sy'n edrych ar destunau
lle mae menywod yn chwarae rhan amlwg.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar