|
|
Bardd
a'i feiau
A
sut y cuddiodd y wasg Gymraeg hwy rhag y werin!
Dydd Iau, Ionawr 18, 2001 |
Llyfr
newydd - Owen Gethin Jones - Ei Fywyd a’i Feiau gan Vivian
Parry Williams. Gwasg Carreg Gwalch. £6.
Gan amlaf, y duedd gyda bywgraffiadau a chofiannau Cymraeg yw canmol
- a chanmol mwy.
Yr oedd yn annisgwtl, felly, gweld y geiriau "ei fywyd a’i feiau"
yn nheitl llyfr am fardd o’r ganrif ddiwethaf.
Cuddio'r beiau rhag y werin
Ac yng nghyfrol Vivian Parry Williams, Owen Gethin Jones - Ei Fywyd
a’i Feiau tanlinellir y gwahaniaeth rhwng y ffordd Gymraeg a’r
ffordd Saesneg o drafod cymeriad person.
Fel pawb ohonom, doedd Owen Gethin Jones ddim heb ei feiau - yr hyn
sy’n ddiddorol yw i’r beiau hynny gael eu cuddio rhag y werin gan
wasg Gymraeg y dydd tra bo’r wasg Saesneg wedi ei ddinoethi gerbron
y bobol.
Hyd yn oed heb ei feiau yr oedd Owen Gethin Jones yn berson diddorol
ar sawl cyfrif.
Yn gymysgedd annisgwyl o fardd, hanesydd lleol, adeiladydd, gwladgarwr,
Tori a chyfalafwr - heb sôn am fod yn dipyn o ferchetwr hefyd.
Y pechod hwnnw achosodd i'w enw gael ei lusgo drwy lys barn.
Protest yn erbyn yr Orsedd
Er mai ychydig o wybodaeth sydd ar gael amdano bu Vivian Parry Williams
yn dyrchwr mor ddyfal a chydwybodol fel y cawn ddarlun crwn a chyflawn
o gymeriad digon cymhleth a oedd yn gyfoeswr ac yn gyfaill i feirdd
fel Trebor Mai a Gwilym Cowlyd.
Yn cael ei adnabod wrth ei enw barddol, Gethin, nid yn unig
enillodd sylw yn genedlaethol ddiwedd y ganrif ddiwethaf ond yr oedd
yn un o’r rhai a drefnodd gyda Threbor Mai a Gwilym Cowlyd arddewst
enwog Llyn Geirionnydd yn 1863 yn wrthwynebiad i Seisnigrwydd Gorsedd
Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Sbardunodd yr arweddst hon gymaint o ddiddordeb yr anfonodd yr Illustrated
London News ohebydd ac arlunydd yno!
Dyffryn Conwy oedd ei gynefin ac ardal Penmacho a Llanrwst yn benodol
lle daeth yn adeiladydd o bwys. Y mae Vivian Parry Williams yn tynnu
cymhariaeth ddiddorol rhyngddo a David Davies Llandinam.
Y mae pont reilffordd a gododd ei gwmni rhwng Betws-y-coed a Dolwyddelan
yn dal i ddwyn ei enw, Pont Gethin.
Bardd medrus
Dywedwyd amdano fel bardd:
"Yr oedd yn fedrus iawn yn y mesurau caethion . . . medrai ganu
yn rhwydd a didrafferth ar y mesurau gorchestol . . . a gwnai englyn
unodl union mor rwydd a siarad neu anadlu."
Yr oedd hefyd yn hynafiaethwr gwybodus am ei fro ac yn gwmni difyr.
"Nid wyf yn gwybod i mi adnabod neb erioed â’i gwmni yn fwy
difyrus ac adeiladol," meddai un o’i gyfoeswyr.
Gwneud ei hun yn amhoblogaidd
Ond y mae Vivian Parry Williams yn dangos gwedd arall i’w gymeriad:
"Gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd ymysg y werin bobl oherwydd ei
ddaliadau gwleidyddol" ac yntau yn Dori digon penboeth mewn cyfnod
pan oedd rhyddfrydiaeth radicalaidd ar gynnydd.
Ac mewn oes pan oedd bri ar ddirwest canfu Vivian Parry Williams ei
fod yn llymeitiwr ar y slei.
Ac er sawl gorchestwaith fel adeiladydd bu ei enw yn ei fro "yn
faw" yn y cyswllt hwnnw hefyd oherwydd anghydweld ynglyn â
llwybr rheilffordd a adeiladwyd ganddo i’r N.W.R.
Tipyn o dderyn
Daeth
anfri pellach yn sgil y ffaith ei fod yn "tipyn o dderyn" ac
yn un am y merched fel y dengys ei gysylltiad ag achos llys erchyll
Hari Ddu a gyhuddwyd o lofruddiaeth.
Mae'r achos hwn yn ddadlennol nid yn unig yng nghyswllt cymeriad Gethin
ei hun ond yn ddadlennol o safbwynt tueddiadau rhagrithiol y wasg
Gymraeg o'i chymharu â’r wasg Saesneg - gyda’r naill yn osgoi crybwyll
ei enw mewn perthynas â’r achos ond y llall yn dyfynnu cyfeiriadau
a wnaed ato yn y llys.
Y mae hon yn un o benodau difyrraf y llyfr gyda’r awdur yn cynnig
y sylw hwn:
". . . ni feiddiai yr un gohebydd o’r wythnosolion Cymraeg ei enwi
fel un a oedd yn gysylltiedig a sgandal o’r fath. Yn sicr, roedd rhai
o’r gohebwyr hynny yn gyfeillion agos iddo, ac roeddynt wedi canu
ei glodydd mewn sawl colofn . . .
"Mewn cyfnod pan oedd mwyafrif llethol o drigolion llawer o bentrefi
a threfi Cymru yn uniaith Gymraeg dim ond lleiafrif bychan . . . a
ddarllenai … (y) papurau newyddion a argraffwyd yn yr iaith
fain."
Pwnc astudiaeth bellach - y wasg ragrithiol Gymraeg - yn y
fan yna.
Am y rhestr ddiweddaraf o lyfrau newydd cliciwch Yma.
|
|
|