O
feddwl lleoedd mor ddienaid, syrffedus ac oer y gall gorsafoedd tr锚ns
fod mae鈥檔 rhyfedd cymaint o ramant sy鈥檔 perthyn i reilffyrdd.
Prin, fodd bynnag, yw鈥檙 rhai hynny sydd heb eu swyno gan hudoliaeth
tr锚ns.
路O gofio鈥檙 hud a鈥檙 cyfaredd mae鈥檔 rhywfaint o syndod na chafodd
beirdd a llenorion Cymru eu temtio i sgwennu mwy ar y thema hon.
Ond fel mae Hywel Teifi Edwards yn ein hatgoffa yn ei gyflwyniad
i鈥檙 gyfrol swynol, Llinellau Coll, ni ddigwyddodd hynny. Fel T.
H. Parry-Williams defnyddio鈥檙 dychymyg yn dr锚n wnaeth beirdd Cymru
yn hytrach na mydryddu ac odli ynglyn a thr锚ns go iawn.
路"Yn seidings ein ll锚n y bu鈥檙 tr锚n ar hyd yr amser," meddai, ac
"er ei fod yn bresenoldeb amlwg ym mhapurau a chylchgronau oes Victoria,
nid ysgogodd yr un campwaith gan na bardd, na nofelydd nac arlunydd."
Fuon nhw ddim yn gwbl dawedog fodd bynnag a cherddi a baledi
gan y beirdd hynny a fentrodd i gyfansoddi am dr锚ns a phethau trenaidd
yw Llinellau Coll wedi eu casglu gan bennaf hanesydd rheiffyrdd
Cymru, Gwyn Briwnant Jones o Fachynlleth - ond sy鈥檔 awr yn byw yng
Nghaerdydd.
Bu ei gyfraniad ef i hanes rheilffyrdd yn Nghymru yn rhyfeddol.
Mae
arwyddocad arbennig i deitl y gyfrol achos erbyn heddiw nid yn unig
llinellau鈥檙 beirdd aeth ar goll ond llinellau neu leins y tr锚ns
eu hunain hefyd. Diolch i lawfeddygaeth wallgof Dr Beeching collodd
Cymru y rhan fwyaf o鈥檌 llwybrau rheilffordd gyda chledrau a gorsafoedd
wedi dilflannu am byth.
Dim ond hen luniau sydd ar 么l erbyn hyn i鈥檔 hatgoffa o鈥檙 cyfoeth
a fu ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn cynnwys trysorfa o鈥檙 hen luniau
hynny yn y gyfrol hon ochr yn ochr a cherddi鈥檙 beirdd yn ymateb
i ddyfodiad y trenau cynnar.
Ond er i un bardd ganu:
Rhyfeddod, rhyfeddod ar waelod Cwm Nedd,
Yw gweled cerbydau mor wyched eu gwedd
nid pawb oedd yn argyhoeddedig mai bendith oedd dyfodiad y tr锚ns.
Pan agorwyd y rheilffordd rhwng Castell-nedd ac Aberd芒r yn 1851
proffwydodd hen was ffarm o Ynysgerwyn:
Ni fydd dim llaeth gan wartheg mwyn
Daw鈥檙 twyni鈥檔 goch gan sychyn;
Y lloi yn feirw ar y waen
O ofn y train a鈥檙 injian.
Ond yn gyffredinol dathlu a gorfoledd fu yna ynglyn a dyfodiad
y tr锚ns ac yn ardal Y Bala proffwydodd Dewi Havhesp am Ffordd
Haearn Y Bala:
Hi chwal asynnod Gwalia, - gyrru mawr
Gwyr a meirch ddiflanna,
Pan wneir hon, dynion nid a
Ar ebolion i'r Bala
Beirdd gwlad fu'n canu fwyaf ac ni fydd unrhyw feirniad llenyddol
yn rhoi llawer o werth i'r cerddi o safbwynt farddonol neu lenyddol.
Arall yw eu hap锚l ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn gwneud cymwynas
a ni trwy ddod a hwy i olau dydd mewn cyfrol mor hyfryd sy鈥檔 profi鈥檔
gyfuniad go lwyddiannus o hiraeth, gair a llun.
Llinellau Coll gan Gwyn Briwnant Jones. Gwasg Gomer. 拢9.95.