大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cofiant Pennar Davies
Adolygiad Grahame Davies o Pennar Davies. gan D Densil Morgan. Cyfres Dawn Dweud Gwasg Prifysgol Cymru, 拢12.99, t.t. 209.


Un o'r pethau mwyaf calonogol ynglyn 芒'r byd cyhoeddi Cymraeg ar hyn o bryd yw ansawdd cyson uchel ein beirniadaeth lenyddol a'n cyhoeddiadau academaidd.

Tra bod adrannau eraill o'r byd cyhoeddi, megis y nofel, yn aml yn anghyson iawn o ran safonau, deil gwerthoedd golygyddol y rhan fwyaf o'n llyfrau academaidd yn uchel tu hwnt.

Elfen sylweddol yn y darlun cadarnhaol hwnnw yw'r gyfres Dawn Dweud dan ofal y Golygydd Cyffredinol Brynley F. Roberts.

Llenor ac ysgolhaig
Mae'r gyfrol ddiweddaraf, gan D. Densil Morgan, yn gyfraniad nodedig arall i'n casgliad cynyddol o astudiaethau llenyddol a bywgraffyddol safonol. Y llyfr hwn yw'r nawfed yn y gyfres, ac mae'n olrhain bywyd a gwaith y llenor a'r ysgolhaig Pennar Davies.

.Clawr y llyfrMae'n rhaid imi gyfaddef na wyddwn rhyw lawer am Pennar Davies cyn hyn. Un yn unig o'i gyfrolau barddoniaeth a ddarllenais erioed, ynghyd 芒'r rheiny o'i gerddi oedd wedi eu casglu mewn blodeugerddi Cymraeg a Saesneg, ac ambell un o'i straeon byrion.

A gwyddwn hefyd, wrth gwrs, am ei brotest enwog yng nghwmni Meredydd Evans a Ned Thomas pan gawsant eu harestio a'u dedfrydu am dorri i mewn i drosglwyddydd teledu a diffodd y rhaglenni er mwyn tynnu sylw at yr angen am sianel Gymraeg.

Llenor a meddyliwr
Mesur o ragoriaethau'r llyfr hwn, felly, yw imi gael fy nhynnu i fewn yn syth i hanes y dyn hynod hwn o Gwm Cynon, a'i yrfa unigryw ac imi ddilyn troeon ei feddwl a'i ddatblygiad fel llenor ac fel meddyliwr gydag awch.

Mab i deulu glofaol, tlawd, o Gwm Cynon oedd Pennar Davies (1911-1996), a Saesneg oedd iaith yr aelwyd. Un o hynodion ei hanes yw sut y daeth rhywun o gefndir mor ddifreintiedig i fod yn ysgolhaig Cymraeg disglair ac yn feddyliwr dylanwadol.

Ymddangosodd ei ddoniau deallusol pan oedd eto'n ifanc ac fe aeth yn erbyn tueddiadau ei gymdeithas a'i gyfnod drwy fynd ati i ddysgu Cymraeg yn rhugl.

Gyda'i feddwl disglair, fe enillodd gyfres o ysgoloriaethau a'i cymerodd yn bell o'i wreiddiau tlodaidd ac a'i tynnodd i mewn i rengoedd uchaf academia yn Rhydychen ac yn yr America.

Fe gadwodd gysylltiad agos gyda'i deulu cefnogol ac edmygus, ond roedd dyfodol academaidd disglair iawn o'i flaen a drysau yn ymagor iddo y tu hwnt i'w wlad enedigol.

Gwastraffu ffortiwn?
Dyna pryd y cymerodd yr hyn na ellir ond ei ystyried fel rhyw fath o ddewis dirfodol, sef bwrw ei goelbren gydag achos Cymru, gyda'r iaith Gymraeg a chyda'r grefydd ymneilltuol a oedd wedi dod yn gynyddol bwysig iddo wedi ei dr枚edigaeth i Gristnogaeth fel oedolyn.

Roedd hyn oll yn syndod i'w gydnabod rhyngwladol. Fe'i rhybuddiwyd gan un o'i gynghorwyr, yn graff iawn, yn gynnar yn ei yrfa, i beidio gwastraffu ffortiwn fesul chwecheiniogau.

Y cwestiwn yw, ai dyna a wnaeth Pennar Davies drwy iddo ymroi, nid yn gymaint i achos Cymru, ond i ymneilltuaeth Gymraeg, oedd wedi dechrau ar ei daith araf ond anochel i ebargofiant, a thrwy iddo dreulio ei ddoniau ar dasgau bugail capel ac yn nes ymlaen ar y gwaith blinderus o redeg colegau diwinyddol ar adeg o drai ar grefydd.

Nid ef yw'r cyntaf i wneud dewis o'r fath. Mae George Herbert yn dod i'r meddwl, er enghraifft, yn cefnu ar fywyd y llys am yrfa person plwyf. Yn sicr, roedd arwriaeth lew yn perthyn i benderfyniad Pennar Davies, penderfyniad a ddeilliodd o'i ffydd loyw a'i wladgarwch egwyddorol a di-sigl.

Llestr cyfyng
Yn ei weithiau llenyddol ac yn ei ddiddordebau crefyddol fe geir tystiolaeth fod rhyw gred mewn meseianiaeth, sef y potensial i'r bersonoliaeth ymroddedig a duwiolfrydig i weddnewid cymdeithas, yn ffrwd dawel ond cyson yn ei feddwl.

Fe deimlais fy hun mai peth rhwystredig oedd gweld y fath gyfoeth o uchelgais, ymroddiad a doniau yn cael ei dywallt i lestr mor gyfyng ac mor frau ag ymneilltuaeth Gymreig yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Os maddeuir y gymhariaeth, mae enghraifft y p锚l-droediwr Ryan Giggs yn dangos nad yw unrhyw chwaraewr ond cystal 芒 gweddill ei d卯m. Mae'n anodd hyd yn oed i ddoniau o'r radd flaenaf ddisgleirio pan fo'r rhan fwyaf o weddill y chwaraewyr yn rhai eilradd.

Nid oedd modd i'r sefydliad crefyddol Cymreig ddenu'r gorau allan o Pennar Davies, a fesul chwecheiniog yn wir yr oedd rhaid iddo rannu ei gyfoeth ar y cyfan.

Nid bychanu'r dyn o gwbl yw dweud hynny, dim ond gresynu na allasai'r fath ddoniau fod wedi cael gwell cyd-destun. Yn wir, fe'm llanwyd ag edmygedd at ei ymroddiad a'i egni, ac fe ddengys y llyfr hwn gymaint y mae Cymru yn ei ddyled am ei gyfraniad - i addysg gweinidogion, i safon trafodaeth ac hanesyddiaeth crefyddol, i lenyddiaeth ac, er yn hwyr yn ei yrfa, i wleidyddiaeth.

Darllenadwy a chraff
Rhaid canmol D. Densil Morgan am yr astudiaeth hon, sydd yn gryno, yn ddarllenadwy ac yn graff. Nid yw'n llunio hanes ei wrthrych fel rhyw fath o fuchedd sant; fe groniclir y meflau ar gymeriad Pennar yn ddigon gonest ei ddyngasedd achlysurol, er enghraifft, a'i duedd i wneud gormod o dasgau yn lle canolbwyntio ar un dasg fawr.

Eir i fanylder am gredoau eithaf unigryw Pennar Davies fel Cristion, yn arbennig ei ymlyniad mwy neu lai agored at Belagiaeth, sef y gred y gall dyn gynorthwyo yn ei achubiaeth ei hun, cred a ystyrir yn draddodiadol fel heresi.

Dangosir hefyd mor oddrychol a phersonol, onid ffans茂ol ar adegau, oedd llawer o'i feddwl crefyddol.

Methiannau hefyd
Nid yw'r awdur ychwaith yn atal ei feirniadaeth ar gynnyrch llenyddol Pennar Davies. Tra'n canmol ei lwyddiannau sylweddol, mae'n ddigon parod i nodi ei fethiannau hefyd.

Y gwrthrychedd iach hwn sy'n rhoi awdurdod i'w gasgliadau wrth iddo gloriannu cyfraniad Pennar Davies i fywyd Cymru, a hynny mewn modd cadarnhaol iawn.

Elfen arall i'w chanmol yw defnydd helaeth yr awdur o lythyrau'r gwrthrych ac o ohebiaeth ei gydnabod, sydd yn fodd effeithiol iawn o ddangos y dyn yn ei gyd-destun.

Llwyddiant nid bychan yw, i allu tywys y darllenydd i mewn i fyd a chyfnod sydd yn prysur ddod yn dywyll o safbwynt 么l-grefyddol yr unfed ganrif ar hugain, a gwneud hynny mewn modd sydd yn cyfleu angerdd ac ymdeimlad y byd hwnnw fel pe bai'n gyfoes.

Yn sicr, mae'r gyfrol hon yn gyfrwng i ail-gyflwyno bywyd a gwaith Pennar Davies i'r genedl. Rwy'n sicr hefyd y'i hystyrir yn ymdriniaeth deilwng iawn gan ddarllenwyr sydd eisoes yn gyfarwydd 芒'r gwrthrych ac y'i hystyrir yn gyflwyniad effeithiol tu hwnt gan rai na chafodd hyd yn hyn y cyfle i adnabod y ffigwr pwysig hwn yn iawn.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy