|
|
Adnabod
Awdur:
Esyllt Nest Roberts
Awdur Yr Arth Grisli stori antur i blant
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
|
Enw:
Esyllt Nest Roberts
Beth yw eich gwaith?
Ar fin cwblhau cwrs coleg i fod yn athrawes ysgol gynradd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Golygydd Gwasg Carreg Gwalch.
0 ble'r ydych chi¹n dod? O Bencaenewydd yn
Eifionydd yn wreiddiol.
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Bethesda.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do – y cyfnodau difyr hynny pan nad oedd gen i ddarlithoedd na thraethodau.
Dywedwch ychydig am eich llyfrau?
Wedi cyhoeddi cyfres o lyfrau chwedlau i blant,
Cyfrol am draddodiadau yn ymwneud a Santes Dwynwen,
Cyfrol o straeon byrion (ar y cyd a dwy arall),
Cyfres newydd o addasiadau o straeon antur i blant.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Teulu'r Cwpwrdd
Cornel.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Roddy Doyle.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Birdsong gan Sebastian Foulkes.
Pwy yw eich hoff fardd?
T.H. Parry-Williams,
Myrddin ap Dafydd,
Gerallt Lloyd Owen,
Guto'r Glyn.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Fy Ngwlad, Gerallt Lloyd Owen.
A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Pob un llinell bron o'n hen benillion!
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm:The English Patient;
Rhaglen deledu: C'mon Midffild ac unrhyw raglen goginio.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?
Teg edrych tuag adref.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn
awdur?
Mwynhewch.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i fedru dysgu ieithoedd eraill.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dim synnwyr ffasiwn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy niffyg amynedd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Angharad Tomos oherwydd ei gwaith ymgyrchu diflino a'i dawn lenyddol.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Noson canlyniadau'r Refferendwm yng Nghaerdydd.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr
"Tyrd yn d’ôl."
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i Enlli, am ei bod bob tro yn newydd.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Swp pys Mam efo golwythau o ham cartra ynddo fo, a tharten afal I
ddilyn.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Bwyta, darllen, coginio, bod yng nghwmni ffrindia da.
Pa un yw eich hoff liw?
Oren.
Pa liw yw eich byd?
Amryliw.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mwy o lyfrau yn y gyfres Byd o Beryglon.
Beth fyddai'r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Cyn i Gymru ddod yn Gymru rydd ...
Yr Arth Grisli -
|
|
|