|
|
Adnabod
Awdur:
Hywel Teifi Edwards
Awdur Merthyr a Thaf
Dydd Iau, Awst 2, 2001
|
Enw:
Hywel Teifi Edwards - hanesydd eisteddfodol ac awdur y gyfrol
ddiweddaraf yng Nghyfres y Cymoedd - Merthyr a Th芒f
- a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Bu鈥檔 ateb cwestiynau ar Raglen Nia Roberts, ar Radio
Cymru.
Ble gawsoch chi鈥檆h geni a phryd?
Yn Llanddewi Aberarth ar Hydref 15, 1934.
P鈥檜n oedd atgof melysaf eich plentyndod?
Y bore hwnnw pan aethon ni i Aberystwyth mewn tacsi i gwrdd 芒 nhad
oedd yn dod gartre o鈥檙 Almaen lle鈥檙 oedd e wedi bod yn garcharor rhyfel.
Roeddwn i rywle tua 6 neu 7 oed. Roedd 鈥檔had wedi bod yn garcharor
rhyfel ers 1941 am ddwy flynedd a hanner. Roedden nhw鈥檔 cyfnewid carcharorion
a fe gath e ddod adre cyn y diwedd. Ar y m么r oedd e, a dyn o Aberaeron
oedd capten y llong gafodd ei suddo gan yr Almaenwyr a roedd nifer
o bobol o鈥檙 ardal arni hefyd.
Roedd e鈥檔 un o鈥檙 rhai gafodd eu cyfnewid cyn diwedd y rhyfel oherwydd
cyflwr ei iechyd e.
Oes hob茂au gennych chi?
Tr茂o heneiddio yn rasol - celwydd yw hwnna!
Mae gen i ddiddordeb ym mhob math o chwaraeon - gwylio nhw ar y teledu
fydda i nawr. P锚l-droed - socer - wrth gwrs. Socer oedd y g锚m yn Sir
Aberteifi. Fe dd锚s i ymddiddori mewn rygbi ar 么l mynd i fyw yn y de,
ond socer oedd y ng锚m i.
Ac Arsenal oedd y nh卯m i. Roedd yna bedwar o Gymry yn whare i Arsenal
pan o鈥檔 i鈥檔 yr ysgol. A Wally Barnes oedd y capten - Cocni rhonc ond
bod e wedi cael ei eni yn Aberhonddu pan oedd ei dad yno yn y fyddin.
Rwy鈥檔 cefnogi Arsenal o hyd ac yn llawenhau fod Patrick Vieira yn
mynd i aros yno. Dwi erioed wedi bod yn Highbury - dwi eisie cadw鈥檙
rhith, mae鈥檔 debyg.
Buaswn i wedi dwli bod yn John Charles - y rhyfedda ohonyn nhw i gyd.
Rhyw Fendigeidfran o wariwr socer. Roedd ei gampe fe鈥檔 rhyfeddol.
O鈥檔 i鈥檔 dwli ar griced a thenis hefyd. Rwy鈥檔 cofio Lew Hoad a Ken
Rosewall yn dod o Awstralia i whare yn Wimbledon am y tro cyntaf.
O鈥檔 i鈥檔 addoli Hoad.
Dyw tenis ddim beth oedd e. Mae鈥檙 g锚m wedi mynd yn llawer mwy boring
- roedd llawer mwy o artistiaid yn y g锚m ers talwm. Roedd y g锚m gymaint
芒 hynny鈥檔 fwy araf a hyfrytach i鈥檞 gwylio. Doedd y racets ddim beth
ydyn nhw nawr - ddim mor hi-tech - a roeddech chi鈥檔 cael mwy
o shots hyd yn oed yn g锚m y dynion. Roedd hi鈥檔 llawer mwy sgilgar.
Er bod McEnroe a Borg yn chwaraewyr rhyfeddol hefyd. Ond Lew Hoad
oedd yn arwr i.
Beth sy gyda chi yn eich poced?
Dim arian yn sicr - mae鈥檙 wraig yn mynd 芒鈥檙 rheini! Allweddi鈥檙 car
a macyn - rhag ofn bydda i鈥檔 mynd lefen yn ystod y sgwrs yma!
Oes rhywbeth rydych chi wedi difaru amdano?
Roedd byd y g芒n yn bwysig i ni fel teulu. Roedd Mam - sy鈥檔 93 ac yn
dal yn fyw, bendith arni - yn soprano hyfryd. A roedd fy wh芒r yn gyfeilydd
tan gamp. Enillodd hi ar ganu鈥檙 piano yn Eisteddfod y Rhos, 1945.
Fi yw鈥檙 unig lob yn y teulu na wnaeth ddysgu darllen y node. Rwy鈥檔
cofio鈥檔 wh芒r yn tr茂o 鈥檔ysgu i - y cwbwl o鈥檔 i eisie o鈥檇d mynd m芒s
i gico p锚l. Rwy i wedi difaru nad ydw i wedi dysgu canu鈥檙 node. Dyw
nghlust i ddim yn ddrwg, ond allwch chi ddim dibynnu ar eich clust
bob amser.
Mae gen i edmygedd dibendraw a llatheidi o genfigen at gerddorion.
Clywed y lleisiau godidog - llais go-iawn rwy鈥檔 feddwl - rhywun yn
medru sefyll ar lwyfan a medru canu gerbron y byd.
Ble bysech chi鈥檔 caru bod y funud hon?
Dwi ddim yn grwydrwr. Fe g锚s i helyntion iechyd ddechre鈥檙 saithdegau
ac yn yr wythdegau a rhyw bethe digon diflas o鈥檇d yn gallu 鈥檔haro
i鈥檔 ddirybudd ac i ryw radde fe wnaeth hynny gaethiwo fy awydd i grwydro.
Bues i yn America y llynedd - gwlad wallgo, ro鈥檔 i鈥檔 falch dod 鈥檔么l.
Mae dyn yn canmol ei lwc a diolch i鈥檞 Dduw bod e fel ag y mae e.
Fe ddechreues i fynychu鈥檙 Llyfgell Genedlaethol gyda Gwenallt pan
o鈥檔 i鈥檔 gwneud ymchwil yn y pumdegau.
Un o bleserau bywyd i fi hyd heddi yw mynd i鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol.
Mae cael mynd drwy bapurau a chyfnodolion Oes Fictoria, pori yn rheini
a dilyn ambell drywydd wrth fy modd i a鈥檙 amser yn hedfan.
Pwy oedd y person diwetha wnaethoch chi siarad gydag
e ar y ff么n?
Dafydd Lloyd Hughes ddoe. Byddwn ni鈥檔 cwrdd am ambell sgwrs yn y Ram
yng Nghwman a chael ambell lasied o orenj jiws. Mae鈥檔 well gen i weld
rhywun wyneb yn wyneb na siarad ar y ff么n. Mae鈥檔 g芒s gen i鈥檙 dechnoleg
fodern, yr e-bostio yma. Rwy鈥檔 credu fod pobol wedi cael eu gwneud
i gwrdd 芒鈥檌 gilydd a siarad 芒鈥檌 gilydd.
Pwy gymeriad hanesyddol fuasech chi鈥檔 hoffi ei gyfarfod?
Mae hanes Cymru鈥檔 llawn ohonyn nhw. Un yn sicr fuase William Williams
Pantycelyn. Licien ni ofyn iddo beth fydde fe鈥檔 ofyn i fi sen i鈥檔
cael fy nal mewn Seiat gydag e. A gofyn iddo fe wedyn a fydde fe鈥檔
debyg o lunio emyn ar sail yr hyn weden i wrtho fe.
Roedd cynifer o鈥檌 emynau e yn emynau profiade鈥檙 Seiat. Dyna sy鈥檔 wneud
e mor fendigedig. Pechaduriaid yn dod ato fe i gyffesu yn y Seiadau
a鈥檌 awen ynte鈥檔 troi鈥檙 cyffesiadau hynny yn emynau sy鈥檔 ein gwaed
ni.
Rwy鈥檔 arbennig o hoff o鈥檙 emynau hynny sy鈥檔 s么n am bererin a phererinion.
Mae鈥檔 debyg y cawn i driniaeth galed gydag e mewn Seiat.
Ydych chi鈥檔 ymfalch茂o o weld eich mab yn darllen
y newyddion ar 大象传媒1 am chwech o鈥檙 gloch?
Bydden i鈥檔 anferth o gelwyddgi 鈥檚en i鈥檔 dweud bo fi ddim. Rwy鈥檔 gobeithio
mai balchder naturiol yw e o weld rhywun yn gwneud ei job yn weddol
gymen. Yn fwy na dim rwy鈥檔 rhyfeddu bod pobol yn dweud ei fod e鈥檔
debyg i fi.
Pan yw e鈥檔 dweud ei stori, mae鈥檔 debyg bod yna leisiau yn ei glust
yn dweud pob math o bethe wrtho fe. Petae hynny鈥檔 digwydd i fi fe
fydde yna atalnodau o fath gwahanol iawn yng nghanol y geiriau. Fydden
i ddim yn para diwrnod yn y job. Mae ei fam yn fwy nerfus na fi drosto
fe.
Oes gennych chi g芒n rydych chi鈥檔 ei chas谩u?
Oes nifer ohonyn nhw. Land of Hope and Glory yn bennaf.
Mae honno鈥檔 codi o fy niddordeb i yn Oes Fictoria pan oedd hi ar ei
mwyaf brochus a sarhaus.
Mae鈥檔 dda gen i fod Edward Elgar ei hunan yn cywilyddio at yr anthem
imperialaidd yna. Fel alaw mae鈥檔 hyfryd ond am eiriau cableddus -
Duw a鈥檔 gwaredo.
Fe fydda i鈥檔 gwrando ar rai o berfformiadau鈥檙 Proms - ond ddim
y wedd yna.
Mae鈥檙 Saeson yn mynnu glynu wrth honna - dyna i gyd sy 鈥檇a nhw ar
么l o鈥檜 blydi ymherodraeth erbyn hyn!
|
|
|