|
|
Adnabod
Awdur:
Glenys Lloyd
Awdur sydd newydd ei gyhoeddi
Dydd Iau, Awst 23, 2001
|
Enw:
Glenys Mair Lloyd
Beth yw eich gwaith?
Awdures, i fod
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes Saesneg
0 ble鈥檙 ydych chi鹿n dod? Powys
Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Talybont, Bangor
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do a naddo, ond dwi'n ddyledus iawn i rai o'm hathrawon
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Ysbrydoliaeth gobeithio. Mae hi'n nofel i blant am fachgen dewr
yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Heldir y Diafol, hanes taith i'r Artig ac mae Bargen
y Brenin, nofel i'r arddegau ar fin cael ei chyhoeddi. Yna mae
gen i dri arall sy'n cael eu golygu ar y funud.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Y Mabinogion a Chwedlau Cymru, addasiad wrth gwrs.
A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?
Byddaf, yn eitha' rheolaidd yn enwedig y lluniau rhamantus.
Pwy yw eich hoff awdur?
Ar y funud Kathy Reichs. Patholegydd fforensig archaeolegol
sy'n ysgrifennu nofelau am ei phrofiadau mewn arddull feistrolgar.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Hanes Cymru, John Davies. Mae'n crynhoi popeth, egluro
popeth ac yn ffynhonnell benigamp ar gyfer ymchwil, ac mae'r iaith
yn glasurol, caboledig.
Pwy yw eich hoff fardd?
Gerard Manley Hopkins. Dysgodd y Gymraeg yn Nyffryn Clwyd, a'r
cynganeddion a defnyddiodd y dechneg yn ei gerddi megis The Wreck
of Deutschland. Offeiriad oedd o, wrth gwrs ac efallai iddo ddioddef
oherwydd hynny.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Morte D'Arthur, Tennyson.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
Heb dân, heb wely.
Wylaf wers; tawaf wedy."
Rhybudd i ni yng Nghymru heddiw, o bosib.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Doctor Zhivago gan David Lean ac unrhyw raglen
ddogfennol hanesyddol ar 大象传媒 2.
Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Natasha yn War and Peace, Tolstoi
Ar y funud, y Brenin yn Bargen y Brenin.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Y calla' dawo
Pa un yw eich hoff air?
Cariad, cariad teuluol
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Unrhyw ddawn wyddonol neu fathemategol. Mi rydw i'n hynod o dwp
i'r cyfeiriad yna.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Does gen i ddim syniad. Gas gen i feddwl amdana fi fy hun.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan?
Arfer a bod yn fyrbwyll fyddwn i braidd ond mi rydw i'n hollol
i'r gwrthwyneb rwan.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a
pham?
Y Fam Teresa, am resymau amlwg.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Yr Ymosodiad ar Balas y Gaeaf, Rwsia 1917, ond go brin. Cefais
yr hanes unwaith gan hen, hen wr o Abergele a welodd y cyfan pan oedd
o'n lanc ac yn ysgubo'r lonydd o flaen y Czar.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth
fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Elisabeth y Cyntaf. Dweud wrthi ei bod hi'n drasiedi iddi arwyddo
gwarant-grogi John Penri a gofyn iddi'n ddigywilydd os oedd John Perrot
y Morleidr o Sir Benfro yn hanner-brawd go iawn iddi?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Tros Hen Bont Menai ac ar hyd Lôn Penmynydd i Langefni ac yna
ar hyd Lôn Llanfihangel-Tre'r-Beirdd i weld y Teulu, ac yna
ar hyd y ffordd adref.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Hwyaden 'di rostio mewn hylif oren a brandi, dyna ein hateb ni
i broblemau BSE, fy nghymar a minnau, efo botel o win Califfornia.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen a mynd am dro efo Wil, a siarad.
Pa un yw eich hoff liw?
Glas
Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd, diolch byth.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwarchod bywydau plant yma a thrwy'r byd yn grwn.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes.
Beth fyddai鈥檙 paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Geiriau sy'n crynhoi'r thema yn gynnil ac yn eich tynnu chi i
mewn i'r stori'n syth.
i ddarllen adolygiad o
Rhyfel Sam
|
|
|