|
|
Hen
gymdeithas llethrau'r Wyddfa
Cwyno
na fu arian ar gyfer cyhoeddi llyfr am hanes cymdeithas unigryw |
Adolygiad:
Pobol Tu Ucha鈥檙 Giat - Hanes hen deuluoedd Gwaun Cwm Brwynog
a Chapel Hebron gan Rol Williams. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn,
Caernarfon, Pris 拢6.
Dyma'r bumed cyfrol Rol Williams.
Yma mae'n diogelu cefndir cymdeithas unigryw Cwm Brwynog a Chapel
Hebron o amgylch yr Wyddfa - rhywbeth a oedd yn "rheidrwydd"
ar ei ran meddai yn ei gyflwyniad.
Cawn ganddo ddarlun manwl o鈥檙 rhannau rhamantus hyn a golwg ar oes
araf y teithiwr a'r ferlen fynydd cyn bo tr锚n ar gael i gludo pobl
i gopa'r Wyddfa.
Er yn unigryw, doedd Capel Hebron ar y llethrau ddim yn unig gyda
bron i gant yn byw yno ar ddechrau'r ganrif.
Ymestyn yn ôl chwe chanrif
Mae yma dameidiau blasus am gymdeithas yn ymestyn yn 么l bron i chwe
chan mlynedd - trigolion sefydliad canoloesol y gwelodd CADW yn dda
i ddiogelu yr hyn sydd ar 么l o sefydliad oedd gyda'r mwyaf yng Nghymru
ac o fewn cyrraedd Castell Dolbadarn ac Oes y Tywysogion.
Ymhlith y cymeriadau difyr y mae:
Foulk Ty Du a fedrai gario heffer ar ei gefn;
dynes fel Catherine Roberts, Cae Newydd, doctores ddail o oes
y gannwyll frwyn pan oedd adnoddau naturiol y mawndir a chorgan y
gwenyn fel pe'n gwarchod cymdeithas.
Si么n Wheldon yn priodi merch Cae Esgob, a chael gwybod am gysylltiadau
Ieuan Gwyllt, Syr Wynn Wheldon a Syr Huw Wheldon a'r gymdogaeth.
Eiddo Stâd yr Wyddfa
St芒d y Faenol oedd biau Chwarel Dinorwig a'r rhan fwyaf o'r chwarter
cant o dyddynnod yng Nghwm Brwynog. Ffermydd gydag enwau hunan awgrymog
fel Penyceunant, Helfa Fain, Helfa Fawr, Ty Mawn a Chae'r Fran.
Hanner y ffordd drwy'r gyfrol mae map hwylus er adnabod yr union fannau
ac y mae lluniau hefyd.
Mae鈥檙 gyfrol yn dilyn helyntion y tiroedd gydag Asiant y Faenol ac
y mae cyfeiriad at lyfr y Parch.H.D. Hughes, tad yr Arglwydd Cledwyn
o Benrhos - Y Chwarel a'i Phobl.
Y diweddglo yw ocsiwn St芒d y Faenol yn 1968. Ymysg y m芒n ddaliadau
yr oedd Lot No125: Substantial stone and slate building formerly
Capel Hebron and ideal for a Climbing Hut or Bunk House.
Disgrifiad sy'n "dal i beri poen dirdynnol."
gan Ioan Mai Evans
Dim ond defaid a meini ar ôl
Wrth s么n am y gyfrol ar Dros fy Sbectol ar 大象传媒 Radio Cymru
dywedodd John Roberts Williams:
"Pobl y llyfr oedd y gymdeithas wledig y tu hwnt i giât y mynydd
sydd rhwng Llanberis a' r hen fywyd a a fu yng Ngwaun Cwm Brwynog
a'r aelodau a fu yng nghapel Hebron ar lethr uchel yr Wyddfa. Cymdeithas
ar dro'r hen ganrif, bron i gant ohonynt mewn rhyw ddau ddwsin o dyddynnod.
Dyma hynafiaid i Syr Wyn a Huw Wheldon, a'r Arglwydd Cledwyn. Does
dim ar eu holau erbyn heddiw ond defaid ac ambell i segur faen.
Neb ar 么l ychwaith lle bu'r miloedd yn gweithio yn y chwareli islaw
yn y Wynedd dlawd.
Cyfrol ddiddan sy'n dyfal ddilyn hanes llanw a thrai cymdeithas arbennig.
Hanes y bywyd a'r difodiant. Hanes cilcyn sy'n rhan o'r darlun cenedlaethol
a'n hanes fel cenedl. Math o gyfrol sy'n apelio yn ei bro ond yn un,
ysywaeth, na chafodd grant y Cyngor Llyfrau i helpu, am yr ystyrid
hi yn rhy leol.
0nd lleol ydi sylfaen hanes a da fuasai gweld y Cyngor Llyfrau yn
cydnabod hynny drwy wneud cyfrol o'r fath yn fwy posibl."
|
|
|