|
|
Nofel
gyntaf sy'n haeddu cael un arall i'w dilyn
Stori
am fyd papurau newydd lleol yn Nofel y Mis - a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r
Byd yn holi'r awdur
Dydd Iau, Mawrth 1, 2001
|
Adolygiad
gan Glyn Evans:
Dilyn 'Sgwarnog gan Annes Glynn. Gwasg Gwynedd. £5.95.
Ychydig yn betrus y trois i at ddarllen Nofel y Mis ar gyfer
Mawrth.
Nofel gyfoes gan newyddiadurwraig am fywyd ar bapur newydd lleol yw
hi a chan i'r awdur a minnau gydweithio ar y fath bapurau yr oedd
gen i, yn naturiol, ofn braidd gweld myfi fy hun ymhlith y cymeriadau
- a pheidio a lecio yr hyn a welwn!
Wnes i ddim; er imi adnabod sawl un arall o ran teip (maddeuwch y
mwysder) ond nid fel unigolion cyfain dim ond elfennau ohonyn nhw
wedi eu cyfuno i greu cymeriadau credadwy!
Galwad ffôn ddienw
Cychwyn y dilyn ’sgwarnog yw galwad ffôn ddienw i Saran yn swyddfa’r
Journal un prynhawn diflas ar drothwy'r Nadolig yn addo "uffar
o stori" iddi ond iddi gyfarfod y galwr.
Er bod hynny yn ei harwain ar hyd sawl trywydd ‘newyddiadurol’ diddorol
wrth iddi geisio dod o hyd i’r gwir y tu ôl i’r alwad a’r tu ôl i
farwolaeth llanc ifanc mewn damwain car y mae llawer iawn mwy i Dilyn
’Sgwarnog na bod yn nofel bapur newydd ystrydebol.
Wedi bod yn newyddiadurwraig ei hun y mae gafael Annes Glynn ar y
cefndir yn sicr gyda’r cymeriadau a’r awyrgylch yn taro deuddeg.
Llwydda i gyfleu syrffed yn ogystal a chyffro bywyd papur newydd.
Caernarfon ydi'r dre
Digwydd hynny oherwydd i’r awdur dynnu ar brofiadau, pobl a sefyllfaoedd
y mae yn gwbl gyfarwydd a hwy. Bu’n ohebydd nid yn unig ar Y Cymro
ond hefyd ar Bapurau’r Herald yng Nghaernarfon ac nid oes cuddio’r
ffaith mai Caernarfon yw’r dref yn y nofel a phobl Caernarfon yw ei
phobl.
Mae’r afael ar eu natur a’u iaith yn sicr.
Hyd yn oed cyn ei chyhoeddi yr oedd Dilyn ’Sgwarnog wedi ei
phrofi ei hun gan iddi ennill Coron Eisteddfod Môn y llynedd i’r awdur.
Meddai Jane Edwards yr adeg honno: "Nofel i’w darllen ar un eisteddiad
gan awdur sy’n gwybod i’r dim sut i gynnal a chadw diddordeb, mewn
iaith sy’n llifo ac yn blasu fel hen win."
Ni fydd neb yn dadlau â hynny gan fod y stori yn cydio a gafael Annes
ar iaith a deialog yn un sicr iawn.
Y mae dwy brif stori yn rhedeg ochr yn ochr - ymchwil Saran i’r dirgelwch
y tu ôl i’r alwad ffôn ac hefyd ddigwyddiadau erchyll ym mywyd Jan
sy’n cael ei herlid gan lerciwr. Dyfais ddiddorol yw ei defnyddio
hi sydd yn gymeriad mewn nofel y mae Saran yn ei darllen.
Ar ben hynny plethir i’r stori elfennau ym mywyd y mân gymeriadau
eraill. Saran ei hun, er enghraifft, nid yn unig yn ceisio dygymod
a thrychineb yn ei gorffennol ond hefyd ei pherthynas fregus a’i chariad
Gwyn. Er yn gymeriad ymylol i’r stori y mae i amgylchiadau trist bywyd
Idw, un o weithwyr y Journal, eu lle yn adeiladwaith y stori.
Mae’r cyfan yn cyfuno’n dusw difyr a gafaelgar gyda sawl golygfa gyffrous
megis yr un rhwng y merched yn y clwb nos.
Nofel y mis ganmoladwy ar gyfer Dydd Gwyl Dewi sydd hefyd yn Ddiwrnod
y Llyfr.
Trueni, erbyn meddwl, nad oeddwn i ynddi a finna'n ffansi gymaint
bod yn Lew Grant. Tro nesa efallai; achos mae'r nofel gyntaf hon yn
haeddu cael un arall i'w dilyn.
Holi Annes Glynn - cliciwch Yma
|
|
|