|
|
Prifardd
sy'n gwrthod galw'i hun yn fardd!
Mae rhywbeth yn ymhonnus iawn, iawn, mewn dweud Dwi'n fardd,"
meddai Tudur Dylan
Dydd Iau, Mawrth 08, 2001
|
Rhywbeth terfynol mewn cynghanedd
Mae sgrifennu cynghanedd fel gwneud jig-so - un ai mae o’n iawn neu
dydy o ddim," meddai'r Prifardd Tudur Dylan Jones.
"Mae lot o bobol yn dweud pethau yn erbyn y canu caeth, yn dweud,
o ie, mae’n lot rhy hawdd i sgrifennu cynghanedd oherwydd dilyn rheolau
ydach chi," meddai wrth siarad â Beti George ar y rhaglen
radio, Beti a'i Phobl.
"Mae yna reolau pendant i’w dilyn ac os ’dach chi’n gwneud llinell
sy’n iawn yn gynganeddol - ac yn swnio’n iawn - ’dach chi’n gwbod
bod hi’n iawn.
"Ond os ’dach chi’n sgrifennu darn o farddoniaeth rydd, wel, allech
chi fod yn newid honna o hyd a dal ddim yn siwr a ydy hi’n iawn.
"Mae yna rywbeth terfynol mewn sgrifennu llinell o gynghanedd neu
mewn sgrifennu englyn."
Geiriau cyntaf yn proestio
A oedd geiriau cynta Tudur Dylan mewn cynghanedd holodd Beti. "Oeddan,"
atebodd y bardd, "‘Wa wa’ - ond yn anffodus roeddan nhw’n proestio
a wnaeth dad roi slap i fi am bo fi wedi proestio mor gynnar!"
Ei dad yw'r cyn archdderwydd, John Gwilym Jones, Bangor.
"Fedra i ddim meddwl pryd ddysgais i gynganeddu - rwy’n meddwl mai
darllen llyfr wnes i. Cael llyfr yn anrheg. Falle bo nhw wedi gweld
bod rhyw ddileit barddoni yndda i.
"Mae tadau fel arfer yn rhoi Mecano neu Subutio i fechgyn
adeg Nadolig, ond roth o lyfr cynganeddion i fi.
"Dwi i erioed yn cofio fo’n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy
Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.
I'r bookmakers am lyfr
"Pan ro’n i tua wyth oed, oedd gen i ryw uchelgais i gyhoeddi llyfr.
Rhwng y ty a Chapel Pendre oedd yna ryw siop o’n i’n meddwl fuase’n
handi i wneud y llyfr - Mecca Bookmakers. Dwi’n cofio
mynd i’r capel ryw ddiwrnod a gofyn i ’nhad, ‘ga i fynd fewn fan’na
i wneud llyfr’. Rwy’n cofio’i ateb o hyd heddiw - ‘na, maen well i
ti beidio mynd i fan’na’."
Ei gadeirio gan ei dad
Fel
gweddill y teulu yr oedd Tudur Dylan yn eisteddfotwr o ddyddiau ifanc.
Yn adroddwr a chanwr.
"Mae yna fwy o gythraul canu nag sy yna o gythraul adrodd - a rwy’n
falch iawn o gael dweud - mae yna lai fyth o gythraul barddoni."
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995, yr enillodd Tudur Dylan
ei Gadair Genedlaethol - gyda'i dad, fel Archdderwydd, yn ei gadeirio.
Enillodd a’i ewythr, T. James Jones, y Goron yn yr un Eisteddfod.
"Fe fu’r mis cyn yr Eisteddfod honno yn fis o bwysau mawr arna i.
Roedd fy nhad wedi cael gwybod ddeuddydd o fy ’mlaen i ’mod i wedi
ennill.
"Fe ddaeth rhyw bobol o’r Eisteddfod a dweud wrtho, ‘mae gynnon ni
newydd da i chi, mae eich brawd wedi ennill y Goron’. Roedd o wrth
ei fodd, wrth gwrs, a mi fuon nhw’n trafod y peth am rhyw bum munud
neu ddeg.
"Ac fel o’n nhw’n mynd allan o’r stafell - neu dyna’r fersiwn dwi
wedi glywed gan fy nhad - dyma un ohonyn nhw’n dweud, ‘O, a chyda
llaw, mae’ch mab wedi ennill y Gadair, hefyd’.
"Dwi’n meddwl bu raid iddo eistedd lawr am ryw ddeng munud. Roedd
tipyn o bwysa arno fo, wedyn. Petai’r stori wedi mynd allan mi fuase
wedi sbwylio pob peth.
Gorfod dweud celwydd
"O’dd yna ambell un wedi dod ata i yn ystod yr Eisteddfod a dweud
‘buase’n neis tase ti’n ennill y Gadair ddydd Gwener a dy wncwl wedi
ennill y Goron’. A finna’n dweud yn hollol gelwyddog - ‘na ,dwi ddim
wedi trïo’.
"Dwi’n meddwl mai’r unig amser fedrwch chi ddweud celwydd yn hollol
ddi-flewyn ar dafod yw pan rydych chi wedi ennill y Gadair!"
Gwrthod galw'i hun yn fardd
Y mae Tudur Dylan yn berson sy’n gwrthod yn lân a galw ei hun yn fardd.
"Mae yna rywbeth ymhonnus iawn, iawn, mewn dweud ‘Dwi’n fardd’.
"Mae fyny i bobol eraill ddweud os ydw i’n fardd neu os ydw i’n sgrifennu
barddoniaeth o safon.
"Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen a Dic Jones - dyna’r tri rydw i wedi
trïo eu hefelychu nhw.
"Mae gan Gerallt Lloyd Owen ddyfnder ym mhob peth mae
e’n ddweud, mae o’n gryno, mae’r cynildeb yna yn ei waith o. Mae o’n
gallu dweud mewn englyn neu gywydd byr yr union beth mae o isio’i
ddweud.
"Mae Dic Jones yn gwbl wahanol. Mae rhyw ddawn arbennig yn
perthyn iddo, mae o mor rhwydd. Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod
hi’n rhwydd iddo fo, ond dwi’n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy
hi yn ei hanes o.
"Alan Llwyd wedyn - mae rhychwant ei ganu fo yn eang iawn,
iawn. Mae rhyw ddyfnder bob tro yn ei ganu fo. ’Dach chi’n mynd ati
i chwilio am bethau gwahanol yn ei gerddi o a ’dych chi’n cael rhyw
bethau arall bob tro ’dach chi’n mynd ’nôl at ei farddoniaeth o.
"Rydw i’n gosod y tri yna yn uchel iawn.
Bardd talcen slip . . .
"Fy nhad? Argoel na, talcen slip ydy hwnnw! Na, fe ddyle nhad fod
wedi cyhoeddi llawer, llawer mwy. Mae gen i barch mawr, mawr, at ei
waith o ac at ei farn o.
"Pan fydda i wedi sgrifennu englyn mae’r hen demtasiwn yna, i
ffonio fe a gofyn ei farn.
"Os ydy o’n dweud dim, mae hynny’n meddwl nad ydy o’n meddwl rhyw
lawer o’r englyn neu mae o eisio newid rhywbeth.
"Ond pan mae o’n chwerthin, mae hynny’n arwydd ei fod o’n meddwl bod
yr englyn yn un da. Mae o’n chwerthin hyd yn oed pan fo’r englyn yn
un trist!
"Fydda i ddim yn ei glywed o’n chwerthin ar y ffôn yn rhy aml."
|
|
|