|
|
Ymchwil
o bwys
i bwnc dyrys
Taflu goleuni ar drefn ddyrys hen fwrdeistrefi
Oes y Tywysogion
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
|
Ystad y Goron yng Ngogledd Cymru
1282-1849. D.G.Lloyd Hughes, New Inn, Pencader.
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfrol xxxl. Pris 拢7 a
chost post.
Adolygiad Ioan Mai Evans
Er yn byw yn y de ers rhai blynyddoedd un o fechgyn Pwllheli yw鈥檙
awdur ac hefyd yn awdur clasur o lyfr ar hanes y dref honno.
Rhaid cydnabod mai yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf y cawsom
haneswyr a fedrodd daflu goleuni ar ddyrys drefnyddiaeth yr hen fwrdeisdrefi
yn Oes y Tywysogion - a chydio yn un o gymhlethdodau'r cyfnod mae'r
yrnchwilydd yma, sef y term, "Fee farm Rents (Rhenti ffi fferm).
Dyna'r enw ar y rhenti blynyddol a dderbyniai Llywelyn Ap Gruffydd.
Y ffaith i鈥檙 term ymddangos yn hanes yr hen fwrdeisdrefi a sbardunodd
y cyn was sifil i fentro i faes yrnchwil oedd yn galw am gryn ymroddiad.
Mil o flynyddoedd
Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt
a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn
rhan o'r Ystad.
Hawliodd y brenin ragor o daliadau yn ddiweddarach yn gymorthau a
sawl dull nes cyrraedd yr uchafbwynt drwy gau yr Abatai yn yr unfed
ganrif ar bymtheg.
Dull arall oedd sicrhau tiroedd rhai a fu farw heb ewyl1ys, troseddwyr,
eiddo teyrnfradwriaeth fel a ddigwyddodd yn hanes Syr Rhys Ap Gruffydd
a Syr John Perrot.
Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol;
sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn
Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.
Arian dirwyon
Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd
y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal
ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.
Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu
yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.
Cawn wybod hefyd am y taliadau llai a gawsai'r brenin fel y Cymhorthau,Twnc,
a Meis.
Afradlonedd a chostau rhyfeloedd
Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd
Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n
gyfrifol am y gostyngiad ac er i鈥檙 mab, Henry Vlll,godi 拢1,000,000
drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen
ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.
Wrth drafod effeithiau Gwrthryfel Glyndwr cyfeirir at dwyll Thomas
Barnelby y Siamberlen yng Nghaernarfon a gollodd ei swydd ond eto'i
gyd a fu鈥檔 gwnstabl y castell hyd ei farw.
Daw鈥檙 gwendidau gweinyddol i鈥檙 golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau
ym Mhwllheli a Nefyn sy鈥檔 profi sawl pwnc.
Syfrdanol hefyd yw adroddiad Syr Thomas Wyn, Glynllifon, Archwiliwr
Cyfrifon Cymru wedi i'r Llywodraeth gymryd gofalaeth Ystad y Goron.
Dyledion a chamweinyddu
Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y
cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair
Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth
a Brenianllaeth Caer.
Ganddo cawn gyfeiriadau at Eifionydd, Dinbych, Arllechwedd Uchaf,
Llanl1echid a Dwygyfylchi, M么n a Phenrhyn Llyn.
Deil yr erthygl yr un mor ddadlennol i'r diwedd pan fo D.G.Lloyd Hughes,
yn datgan rhyfeddod o feddwl na fu'r derbyniadau o Gymru dros y blynyddoedd
ond ychydig o filoedd pryd yr oedd incwm y brenin dri chan mlynedd
yn 么l tua 拢700,000 yn flynyddol o鈥檙 post brenhinol yn unig
Oes gennych chi sylw i'w wneud?
Ebostiwch i ddweud
|
|
|