´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Bywyd llawn drama i anterliwtiwr

Cyhoeddi tri o anterliwtiau Huw Jones, Llangwm, gyda chyflwyniad i'w waith a'i gyfnod

Dydd Iau, Mawrth 29, 2001


• Anterliwtiau Huw Jones o Langwm. Golygydd, A Cynfael Lake. Barddas. £14.95.


Adolygiad gan Aneirin Karadog

Cyfrol yw hon sy’n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed ganrif.

Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.

Dywedir fod y gwr hwn, yn ei ddydd, yr un mor adnabyddus â Thwm o’r Nant, ein hanterliwtiwr mwyaf ni fel Cymry.

Mae’n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy’n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.

Mae’n drueni mawr hefyd i gynnyrch Huw Jones o Langwm fynd yn angof yn hanes ein llên. Felly, ni ellir ond cymeradwyo cyfrol sy’n mynd i ddatgelu mwy o berlau’r iaith Gymraeg i’w siaradwyr presennol.

Baledwr a chyhoeddwr hefyd

Ynghyd â’r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.

Yn wir, cyhoeddodd y gwr hwn waith nifer o feirdd o Fôn - l Goronwy Owen er enghraifft.

Ond yn ôl at y rhagymadrodd:
Ynddo, yn gyntaf, ceir hanes ei fywyd gan gyfeirio at nifer o englynion gan amryw o feirdd fel John Jones Caeronw, a luniwyd er coffâd iddo adeg ei farwolaeth.

Serch hynny, gan fod llawer o wybodaeth amdano wedi mynd ar goll gyda threigl amser, nid oes modd bod yn hollol sicr ynglyn â rhai o ffeithiau ei fywyd.

Er enghraifft, yn wahanol i’r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones ei eni tua 20au neu 30au’r ddeunawfed ganrif.

Y cysylltiad â Llangwm

Er y dywed A. Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.

Dywed sut yr aeth Huw Jones i’r carchar a sut y byddai teulu’r Morisiaid yn ei ddifrïo a’i alw’n nifer o bethau angharedig fel, ‘Llymgi ³¢±ô²¹²Ô²µ·É³¾â€™, ‘³¦³ó·É¾±²µ¾±â€™, ‘cettog o ddyn rhwydd diniwed’, ynghyd â rhai eraill na ddylid eu hynganu cyn deg o’r gloch y nos!

Dwy gyfrol bwysig

Yn ail, yn y rhagymadrodd, sonnir am y ddwy gyfrol bwysig a gyhoeddodd.

Y gyntaf oedd Dewisol Ganiadau yr Oes Hon ym 1759 ond yn ôl Mr Lake nid oes llawer o wybodaeth ynglyn â hon ond y mae mwy o wybodaeth am ei ail gyfrol, Diddanwch Teuluol, a gyhoeddwyd ym 1763.

Mae hon yn cynnwys gwaith beirdd o Fôn, fel Goronwy Owen, Lewis Morris a Huw Huws y bardd coch ynghyd ag ambell i gerdd gan Robin Ddu, Sion Owen, Richard Morris ac eraill.

Yr oedd cyhoeddi yr adeg honno yn fenter gostus gydag ymateb y bobl fel arfer yn llugoer a dweud y lleiaf.
Dyma englyn a luniodd Huw Jones yng nghastell y Waun oherwydd i’r meistr a’i weision wawdio ei ymdrechion llenyddol:

Y castell a’r saws sy’n costio ae’n danwydd
a’r dynion sydd ynddo
ar holl gyfoeth boeth y bo
a chebyst i’r sawl ai achybô.


Enwog am ei faledi

Wedi i’r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy’n ddealladwy ac apelgar i’r ysgolhaig ac i’r darllenydd cyffredin.

Er i’r anterliwtiwr dawnus hwn gyhoeddi cyfrol y gellir ei hystyried yn arloesol, o waith beirdd eraill, a chyfrol o’i waith ei hun, yr oedd yn llawer enwocach am ei faledi.
Yr oedd yn ei elfen ac ar ei enwocaf tua 60au/70au’r ddeunawfed ganrif.

Mae’r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.

Eglwyswr selog

Aiff Mr Lake ymlaen i sôn am yr anterliwtiau eu hunain - canolbwynt y gyfrol hon i bob pwrpas - a chynhwysir tri anterliwt a gyhoeddwyd rhwng 1762 a 1783, Hanes y Capten Ffactor, Histori’r Geiniogwerth Synnwyr, Protestant a Neilltuwr.

Yn naturiol, ceir yn y rhan o’r rhagymadrodd sy’n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o’r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i’r nifer o benillion a ddosbarthai’r anterliwtiwr i’w hactorion.

Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn. Maent yn ffraeth, yn ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.

Gan mai Cymraeg y ddeunawfed ganrif yw Cymraeg yr anterliwtiau cynhwyswyd geirfa yn y cefn sydd yn hwyluso'r darllen gymaint.

Mae hwn yn llyfr sy’n profi fod y dywediad Saesneg, "don’t judge a book by its’ cover" yn wir - nid fod y clawr yn gwbl anapelgar ychwaith!

• Ydych chi wedi darllen y llyfr hwn?
Ebostiwch eich barn
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy