|
|
Bywyd
yn
safnau uffern!
Cymro yn son am ei fywyd mewn carchardai tywyll du
Dydd Iau, Ebrill 26, 2001
|
Adolygiad o:
Mewn Carchar Tywyll Du gan D. Morris Lewis. Cyfres
Dal y Gannwyll; golygydd, Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwlach.
£3.99.
Er gwaetha'r holl ganrifoedd o garcharu mae’r ddadl ynglyn â phwrpas
carchar yn un sy’n dal i gael ei gwyntyllu.
Yn dal heb ei setlo gyda ffasiynau mewn trin troseddwyr yn pendilio'n
gyson.
Dial a diwygio
I rai mae’r ateb yn un digon hawdd. Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr
yw eu carcharu a’u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.
Mae eraill, mwy eangfrydig, am i garcharau fod yn sefydliadau diwygio
yn gyntaf gan ddefnyddio dealltwriaeth a chydymdeimlad i weddnewid
troseddwyr
Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt
- cyfuno’r awydd naturiol i gosbi a dial a’r duedd llai greddfol i
ddiwygio.
Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael
eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr.
Pa mor aml, ydym ni’n clywed y feirniadaeth nad yw carcharau y dyddiau
hyn ddim amgen na gwersyll gwyliau?
Diddordeb arbennig
Yn wyneb safbwyntiau o’r fath bydd diddordeb arbennig mewn llyfr sydd
newydd ei gyhoeddi gan gyn swyddog carchar.
Mae
teitl cyfrol D. Morris Lewis yn y gyfres Dal y Gannwyll dan
olygyddiaeth Lyn Ebenezer yn addas iawn, geiriau’r emynydd, "Mewn
Carchar Tywyll Du."
Ni chredaf y byddwn yn gwneud unrhyw gam a’r awdur trwy ei ddisgrifio
yn fwy o swyddog traddodiadol nag yn un o’r to newydd mwy rhyddfrydol.
Dyna awgrym holl naws y llyfr a diau y bydd ambell un mwy eangfrydig
yn gwrido braidd wrth rai o’r sylwadau.
Gallai’r awdur, fodd bynnag, ateb yn ôl trwy ddweud ei bod yn hawdd
i rai heb brofiad uniongyrchol o garcharau a charcharorion siarad!
Rwyf yr un mor sicr y byddai D. Morris Lewis yn bersonol yn ei ddisgrifio
ei hun fel realydd yn hyn o beth yn hytrach nag yn hen ffasiwn.
Yn sicr, ni ellir ei gyhuddo o edrych ar y byd trwy sbectol rosliw.
Dysgodd oes o brofiad iddo beidio a gwneud hynny yw un neges yn y
gyfrol.
Llawn o bobl annymunol a pheryglus
Mae’n ei gwneud yn glir fod carcharau yn llawn o bobl annymunol -
a pheryglus, yn aml.
"Cawsom bob un bastwn, chwisl a chadwyn , allweddi, ynghyd â llawlyfr
rheolau a gorchmynion. Dynoda’r pastwn ein bod mewn lle peryglus ac
fe wnâi’r chwisl ein hatgoffa y byddai arnom, o bryd i’w gilydd, angen
help," meddai yn gynnar yn y gyfrol.
Mae’n manteisio ar y cyfle i wneud y pwynt hefyd:
"Cred y cyhoedd mai dim ond un pwrpas sydd mewn carcharu, sef diwygio’r
troseddwr. Ond fedrwch chi ddim diwygio rhywun os nad yw ef ei hun
yn dymuno cael ei ddiwygio."
Bachgen o gefn gwlad hyfryd Dyffryn Teifi yw D. Morris Lewis gyda’i
deulu a’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Llandyfriog - a nifer ohonynt
wedi bod yn blismyn.
Doedd ef ddim yn ddigon tal i’w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed
am heddlu’r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol"
ar ei gyfer.
'Safnau uffern o'm blaen'
Roedd y cychwyn yn ddigon â dychryn unrhyw un:
"Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld carchar. Ar ôl curo ar y
drws anferth, teimlwn fod safnau uffern yn agor o’m blaen," meddai.
Yr oedd hyn ddiwedd y tridegau pan oedd carcharau yn
garcharau fel y byddai’r mwy traddodiadol yn ein plith yn dweud.
"Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel.
Heddiw, mae’r gwasanaeth Prawf yn bodoli, ynghyd â dedfrydau gohiriedig,
rhyddhau amodol a rhyddhau diamod. Cyn dyfodiad y dyfarniadau newydd
hyn byddem yn cau carchardai ac yn agor capeli. Heddiw mae’n fater
o agor carchardai a chau capeli. Mae’n rhaid fod yna wers yn rhywle,"
meddai gan osod y cywair ar gyfer y gyfrol gyfan.
Ond y mae’n cydnabod nad carchar yw y lle i bawb sydd yno.
"Mae carchar yn lle rhyfedd. Mae’n cynnwys llawer o garcharorion na
ddylent fod yno. Ar y llaw arall mae’n cynnwys llawer na ddylent fyth
gael eu rhyddhau. Ac mae llawer y tu allan a ddylai fod tu mewn."
Defnyddio'r gath
Cafodd D. Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith
ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel
swyddog carchar. Yr oedd hefyd, meddai, yr uwch swyddog olaf i fod
yn dyst i’r defnydd o’r ‘gath’ i gosbi carcharorion.
".
. . defnyddiais y wialen fedw ddwywaith a’r ‘gath’ unwaith. Câi swyddog
a ddefnyddiai’r ‘gath’ neu’r wialen fedw hanner-coron o dâl ychwanegol.
Doedd y gwaith ddim yn un yr edrychwn ymlaen ato. Ond gwyddwn pe gwrthodwn,
y byddai’r llythrennau LMF yn cael eu nodi mewn coch ar ymyl f’adroddiad
. . . ‘lack of moral fibre’, a byddai’n cyfrif yn erbyn rhywun."
Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae’n agor cil y drws ar fyd sydd,
diolch i’r drefn, yn ddieithr i’r rhan fwyaf ohonom.
Mae’n ddiddorol, a dweud y lleiaf, cael cwmni un sydd a barn bendant
a diwyro am garcharau a charcharu.
A fyddwn yn cydweld a chroesawu rhai o’r safbwyntiau, sy’n beth arall
ond mae’n sicr yn ddifyr darllen amdanyn nhw er bod y gyfrol yn aml
yn rhy agos at yr ‘adroddiad swyddogol’ o ran arddull.
Efallai y byddai yn rhagorach cyfrol o fod wedi closio at arddull
y nofel, dyweder.
|
|
|