|
|
Cyfle
i chi ddewis
eich llyfr y flwyddyn
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi rhestr
fer Llyfr y Flwyddyn - pa un fyddech chi'n ei ddewis?
Dydd Iau, Mai 3, 2001
|
Y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau鈥檙 chwe llyfr sydd
ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.
Bydd enwau鈥檙 llyfr Cymraeg a鈥檙 llyfr Saesneg buddugol yn cael eu cyhoeddi
yng Ngwyl y Gelli ar Fai 28.
Yn y cyfamser mae cyfle i ddilynwyr Llais Ll锚n ddweud pwy
maen nhw鈥檔 ei feddwl ddylai ennill - neu hyd yn oed ddewis llyfr nad
yw ar y rhestr fer.
Gallwch ebostio eich awgrym trwy glicio yma
Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai
gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.
Mae鈥檙 wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i鈥檙 llyfr a ddewisir
gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y
Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.
Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o
拢3,000 yr un i鈥檙 enillwyr ym mhob categori a 拢1,000 yr un hefyd i鈥檙
awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. .
Yr awduron Cymraeg yw:
Owen Martell Gwasg Gomer. Nofel gyntaf awdur, a fagwyd ym Mhontneddfechan ac
sy鈥檔 byw bellach yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn adran chwaraeon
大象传媒 Cymru.
Y nofel hon fu鈥檔 fuddugol yng Nghystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer.
Mihangel Morgan , Y Lolfa. Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur
gwreiddiol a beiddgar". Yn frodor o Aberd芒r, y mae鈥檔 byw yn Nhal-y-bont
ger Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol
Aberystwyth.
Jerry Hunter Soffestri鈥檙 Saeson Gwasg Prifysgol Cymru.
Ymdriniaeth ddadlennol 芒 chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes
y Tuduriaid.
Magwyd yr awdur yn Ohio; y mae鈥檔 byw yng Nghaerdydd.
Yr awduron ar y rhestr fer Saesneg yw:
Desmond Barry The Chivalry of Crime Jonathan Cape.
Nofel am hanes Jesse James, a鈥檌 gymdeithas dreisgar. Magwyd yr awdur
ym Merthyr Tudful ond y mae yn awr yn byw yn New Jersey.
Stephen Knight Mr Schnitzel Viking. Nofel hunan-gofiannol
gan un o feirdd Saesneg amlycaf Cymru. Fe鈥檌 lleolir yn Awstria ac
yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.
Owen Sheers The Blue Book Seren. Y mae Owen Sheers,
o鈥檙 Fenni, eisoes wedi鈥檌 gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y
mileniwm newydd. Dyma ei gasgliad cyntaf.
Dewiswyd y chwe llyfr gan ddau banel o feirniaid: yn Gymraeg,
Harri Pritchard Jones, Gwyneth Lewis ac R. Arwel Jones; ac yn Saesneg,
Bernice Rubens, Peter Florence a Peter Stead.
Cysylltiadau rhyngwladol
Y mae Cyngor y Celfyddydau yn tynnu cryn sylw at gysylltiadau rhyngwladoly
gystadleuaeth hon eleni gan ddweud:
" Mae Desmond Barry, o Ferthyr, yn ysgrifennu am yr Unol
Daleithiau ac yn byw yno;
Jerry Hunter, o鈥檙 Unol Daleithiau, yn ysgrifennu am Gymru,
yn Gymraeg;
Owen Martell yn ysgrifennu am Gymru a鈥檙 Unol Daleithiau;
Mihangel Morgan, yn cwmpasu Efrog Newydd, Paris, Tokyo ac Aberystwyth;
Stephen Knight yn symud rhwng Cymru ac Awstria; ac Owen Sheers
rhwng Cymru a Ffiji."
Ewch ymlaen yn awr i enwi eich dewis chi o lyfr y flwyddyn trwy glicio
yma
|
|
|