|
|
Dirgelwch
i ddysgwyr
Dwy nofel am ferched gan ferched i ddysgwyr
Dydd Iau, Mai 24, 2001
|
Pwy Sy’n Cofio Siôn, gan Mair Evans
Gwendolin Pari P.I.’, gan Meleri Wyn James.
Gwasg Gomer.
Adolygiad Ben Thomas
Yn
ôl ffrind sy'n dysgu'r Gymraeg ers rhyw ddwy flynedd, mae llyfrau
i ddysgwyr yn syrthio, fel arfer, i un o ddau gategori.
Unai maen nhw'n rhy hawdd ac yn ymylu ar fod yn blentynnaidd eu hiaith
a'u stori, neu maen nhw’n or- uchelgeisiol ac mae unrhyw fwynhad o'u
darllen yn cael ei golli yn yr angen i chwilota mewn geiriadur bob
yn ail gair.
Os rhywbeth, mae'r ddau lyfr bach yma yng nghyfres Nofelau Nawr,
Gwasg Gomer, yn tueddu i gyfeiriad yr ail gategori.
Yr hyn sy'n eu hachub yw'r stôr arbennig o eirfa ar waelod pob tudalen.
Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o’r
Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth
ein hiaith.
Dirgelwch
Mae'r ddwy nofel wedi'u seilio ar ddirgelwch.
Yn Pwy Sy'n Cofio Siôn? cawn hanes Leni, cyflwynydd radio ifanc,
sy'n gobeithio cychwyn gyrfa lwyddiannus wrth fynd ar drywydd y seren
bop Siôn Tremthanmor.
Diflannodd y canwr flynyddoedd yn ôl ac ar ei thaith i ddysgu ei hanes
mae Leni yn cyfarfod â nifer o gymeriadau digon anarferol.
Mae Mair Evans yn grefftus yn ei phortread o Leni fel merch hunanol
a didostur yn ei hawydd i ddod o hyd i'r gwirionedd ond mae hyn yn
ennyn diddordeb y darllenwr i weld a ydy hi'n llwyddo ai peidio.
Newyddiadurwraig deledu yw Gwendolin Pari. Mae'r ail stori yn dechrau
wrth iddi hi a'i mam-gu fynd am wyliau i Blas yn y gogledd sy'n cuddio
ambell i gyfrinach.
Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna
ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.
Rhwng de a gogledd
Mae Meleri Wyn James hefyd wedi gwneud defnydd da o'i chymeriadau
deheuol yn cwrdd â rhai o'r gogledd.
Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd
sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn
gallu ei greu.
"Sut dach chi?" meddai Mr Edward Windsor, perchennog y gwesty, wrth
i ni gyrraedd. Bonheddwr yw Mr Windsor.
"Beth ddwedodd e?" gofynnodd Mam-gu i fi. Gwnaeth hi anwybyddu Mr
Windsor.
"Mae e'n gofyn 'sut mae'?"
"Pam na ddwedodd e hynny?"
"Mae'n siarad iaith y gogledd, Mam-gu"
"Eich nain yw hon?" gofynnodd Mr Windsor.
Atebodd Mam-gu drosta i.
"Nage. Ei Mam-gu hi ydw i."
Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn
ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.
Serch hynny, mae'r hanesion yn ddifyr ac yn cadw diddordeb y darllenwr
tan y diwedd ac mae'r cynnwys ieithyddol yn ddigon swmpus i roi her
i ddysgwr sydd o ddifri am wella'i afael ar y Gymraeg.
Gweler:
|
|
|