|
|
Drysu
efo'r enw
Nofer antur yn gafael - ond enw'r prif gymeriad yn newid!
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
|
Yr Arth Grisli gan Gary Paulsen (addasiad Esyllt
Nest Roberts). Gwasg Carreg Gwalch. £2.99.
Adolygiad gan Meirion Puw Rees, 12 oed.
Ail lyfr yng nghyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen ydi’r
Arth Grisli ac mae’r stori wedi ei chyfieithu o’r Saesneg i’r
Gymraeg gan Esyllt Nest Roberts.
Mae’r cyfieithiad yn un da ac yn defnyddio iaith addas fel nad ydi’r
stori yn darllen fel cyfieithiad - ond, dylai’r cyhoeddwr fod yn ofalus
gan fod Justin, y prif gymeriad, wedi ei alw’n Jason
yn rhan fwyaf cyffrous y llyfr!
Stori arswyd
Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae hon yn stori arswyd sydd yn sôn am
arth grisli. Mae’r plot yn y stori yma yn un addas i stori arswyd
ac yn symud yn sydyn.
Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar
fferm ei ewythr Mac a phan fo’r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid
ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae
o am ddial.
Ond, fel mae Justin yn darganfod, nid yw’r arth grisli yma yn arth
arferol ac mae’n profi’n sialens iddo.
Tydi’r stori ddim yn hir ac mae digon yn digwydd ym mhob pennod i
gadw diddordeb y darllenwr.
Y rhan orau o’r llyfr i mi oedd pan oedd Justin yn meddwl ei fod o’n
hela’r arth pan oedd yr arth yn ei hela fo mewn gwirionedd.
Gwendid y llyfr yw ei fod yn rhy fyr ac felly does dim digon o gig
ar yr asgwrn!
Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant 7 –11.
Gweler hefyd -
|
|
|