|
|
Tâs
o lyfrau plant
Anna-Marie Robinson yn holi tybed oes yna ormod o anifeiliaid
fferm ar gyfer plant bach . . .
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
|
Y llyfrau sy'n cael sylw:
Bocs Teganau Smot a Tywydd Smot
Swn pwy? Pwy sy 'na?, Alli di weld?
Glywi di?
Lawr i'r Fferm Aeth Pam a Fi
Beth Wela i ar y Fferm?
Yr Afr Flin a Mochyn Ar Goll
Bocs Teganau Smot a Tywydd Smot gan Eric Hill. Gwasg Gomer,
拢2.95 yr un.
t
yr un
Dau Lyfr Bwrdd Bach ar gyfer y plant fenga, gyda lluniau lliw dros
ddwy dudalen a brawddeg o stori i gyd-fynd a phob llun.
Llyfrau syml iawn, yn cyflwyno gwahanol deganau a thywydd sylfaenol
gyda pwt o frawddeg yn disgrifio'r llun ar y top.
Mae Smot ei hun yn hen ffefryn gyda phlant o bob oed, ac mae croeso
mawr bob tro mae na lyfr newydd gyda Smot ynddo fo - er nad dim straeon
am Smot yw'r ddau lyfr yma, yn hytrach rhestrau o deganau a gwahanol
dywydd.
Ar y cyfan maen nhw'n lyfrau bwrdd bychan sy'n hawdd i ddwylo bach
afael ynddyn nhw gyda digon o wrthrychau adnabyddus i'r darllenwr
ieuenga.
Swn pwy?,
Pwy sy 'na?,
Alli di weld?
Glywi di?
Gwasg Gomer, 拢2.99 yr un.
yr un
Dyma hwyl. Cyfres newydd a'i gelwir yn Pi-po - a dyna'r union
sydd gennym yn y pedwar llyfr yma.
Ar them芒u gwahanol, sef clywed a gweld, mae'r llyfrau yma'n annog
blant bychain i ddyfalu pa swn mae nifer o wahanol anifeiliaid yn
ei wneud, yn ogystal a dyfalu pa anifail sy'n cuddio tu 么l i wahanol
wrthrychau.
Er mwyn gweld pa anifail sy'n cuddio, mae'n rhaid llithro rhannau
o'r tudalennau cadarn i un ochr. Mae g锚m pi-po fel'ma wastad yn mynd
lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r
llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll
bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.
Cyfres wych, sy'n hwyl i rieni hefyd!
Un o bob un i ty ni plis.
Lawr i'r Fferm Aeth Pam a Fi, Gwasg Gomer, 拢3.50, darluniau
gan Jane Chapman, Addasiad Gordon Jones.
Llyfr lluniau yw hwn yn y bon, yn dangos taith Pam a "Fi" o gwmpas
y fferm.
Un bennill sydd ar bob tudalen, sef "Lawr i'r fferm aeth Pam a fi,
Buwch ddaeth draw am sgwrs a ni. Dyma'r geiriau glywson ni...MWW!
MWW! MWW!" (neu clwc, clwc, clwc, mee,mee, mee, wff, wff, wff..........)
Mae'r lluniau lliwgar yn hyfryd gyda digon o fanylder i gadw diddordeb
plentyn bychan yn y cymeriadau a'r anifeiliaid.
Mae'r un frawddeg yn cael ei hailadrodd ar bob tudalen er mwyn cyflwyno
synau anifeiliaid gwahanol mewn ffordd sy'n gyfarwydd - ac mae'n gweithio.
Ond does ddim byd gwreiddiol yn cael ei gynnig yma.
Beth Wela i ar y Fferm? gan Caroline Anstey, Addasiad Emily
Huws, Gwasg Gomer, 拢3.50
Ac mi ryda ni ar fferm eto - syrpreis syrpreis!
Pam fod cymaint o lyfrau plant bach wedi eu lleoli ar fferm dwch?
Mae'n wir deud fod plant bychan yn hoff o anifeiliaid ond mae stori
yn bwysicach i'w harwain drwy lyfr.
Mae yna ferch yn y llyfr yma ond does na ddim enw iddi (nac, ychwaith,
enw i'r ferch yn llyfr Pam a Fi, uchod), na stori ychwaith.
Mae plant wastad yn hoffi cymeriad maen nhw'n eu hadnabod o lyfrau
eraill (fel Smot, Tecwyn), ac er bod cefn y llyfr hwn yn awgrymu ei
fod yn addas i blant o ddwy i fyny, credaf ei fod yn addas i blant
llawer ieuengach na hynny, sydd yn dechrau adnabod anifeiliaid.
Lluniau gwych eto, ar ffurf "sbecian drwy dwll" i weld pa anifail
sydd dros y ddalen.
Yr Afr Flin a Mochyn Ar Goll, Cyfres Cae Berllan gan Heather
Amery a Stephen Cartwright, 拢2.95 yr un, Gwasg Gomer. Addasiad Emily
Huws. Ymgynghorydd Iaith, Betty Root.
yr un
Cafodd
Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o stor茂au byrion, eu sgwennu
mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.
Fferm yw'r thema unwaith eto, gyda'r un cymeriadau, Mari Morgan a'i
phlant, Cadi a Jac, ym mhob llyfr, sydd yn help i gadw diddordeb plant
wrth iddyn greu pherthynas a dod i adnabod eu ffrindiau newydd.
Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r
profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r
stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn
ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen
i'r rhiant ei darllen allan.
Mae cyflwyniad gan yr ymgynghorydd iaith, Betty Root, tu mewn i'r
clawr, yn egluro bwriad y gyfres a rhoi syniadau i'r rhiant ar sut
i ddarllen y llyfr gyda'u plant. Cyfres gwerth ei chael.
|
|
|