|
|
Y
sêr yn
ein llygaid
Llyfr difyr am y berthynas rhwng Cymru ac America
Dydd Iau, Gorffennaf19, 2001
|
Gweld Sêr - Cymru a Chanrif America.
Golygydd, M. Wynn Thomas.
Cyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, Golygydd Cyffredinol, John Rowlands.
Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.
Sylwadau Glyn Evans
Yn ei lyfr difyr, The Summing Up, y mae gan W. Somerset
Maughan bennod bwysig yn canu clodydd arddull rymus ac egnïol awduron
rhyddiaith Americanaidd.
Sgrifennu Americanaidd
Y mae’n bennod o bwys gan nofelydd a storïwr byr Saesneg uchel iawn
ei barch.
Craidd ei ddadl yw fod rhyddiaith yr Americaniaid yn rymusach ac yn
fwy cyhyrog ac apelgar oherwydd na ddaeth yr awduron hynny dan ddylanwad
arddulliau estron y Beibl i’r un graddau a sgrifenwyr a fagwyd ar
fron y traddodiad Seisnig yn Lloegr.
Mi fydda i’n mwynhau darllen y bennod honno oherwydd y mae tuedd ynom
i ystyried yr hyn sy’n dod o’r America, boed yn llyfrau neu’n rhaglenni
teledu, yn iselach na'r hyn a gynhyrchir ym Mhrydain.
Y mae dweud fod rhywbeth yn Americanaidd gystal â dweud ei
fod yn ddisafon neu o leiaf yn gwrs ac yn amrwd ac yn haeddu dim ond
amharch.
Ond eto - hoffi’r peth neu beidio - y mae dylanwad diwylliant a chelfyddyd
y wlad honno yn fawr arnom ac yn aml yn destun mwynhad difesur - yn
enwedig ei chelfyddyd boblogaidd.
Y mae tuedd - rhy barod, yn aml - i feirniadu hyn trwy gyhuddo’r Americaniaid
o imperialaeth ddiwylliannol a diau fod rhywfaint o wir yn hynny.
Ond nid dyna’r gwir i gyd.
Nid yw cyfrol Gymraeg sydd newydd ei chyhoeddi yn gymaint canu clodydd
y diwylliant Americanaidd - er bod yna rywfaint o hynny hefyd - ond
y mae yn pwyso a mesur ac yn tanlinellu ei ddylanwad nid yn unig arnom
ni fel pobol ond hefyd ar ein llenorion, ein sgrifenwyr ac eraill
sy’n ymhel a’r celfyddydau.
Cyffyrddir a’n dylanwad ni arnyn nhw hefyd megis ym mherson y pensaer
Frank Lloyd Wright.
Yn gymysg oll i gyd
Yr hyn a ddaw yn amlwg o Gweld sêr - Cymru a Chanrif America
a olygir gan M. Wynn Thomas yw fod y diwylliant Americanaidd yn bellgyrhaeddol
- yn imperialaidd o bellgyrhaeddol os mynnwch chi - a hefyd yn llawn
cymysgedd, cymhlethdod a chroesddweud.
Yn fuan iawn yn y gyfrol sylweddolwn nad ydym yn mynd i gael un darlun
twt a thaclus o’r berthynas a’r dylanwadau.
Rhywbeth sy’n gymysg oll i gyd ydyw ac o’r herwydd yn ddiddorol.
Fel y dengys Simon Brooks - ac eraill - yn ei gyfraniad ef i’r gyfrol
gallwn, ar y naill law, gasau a ffieiddio "wleidyddiaeth America a
chyfalafiaeth gan ddilyn patrwm clasurol y chwith Ewropeaidd."
Ond, ar y llaw arall, cawn ein hunain yn "chwennych America yn ddiwylliannol."
Dengys Simon Brooks fod llenyddiaeth a cherddoriaeth boblogaidd Gymraeg
"yn frith o gyfeiriadau cynnes at yr Unol Daleithiau" pe na byddai
ond yn y gân ysgafn Anti Henrietta o Chicago a briodola ef
i Hogia Llandegai.
Y mae o’n mynd cyn belled â dweud "yn ddi-os" mai "rhagoriaeth yr
Unol Daleithiau i’r Cymry yw ei bod, er yn rhan o’r byd Saesneg, eto’n
meddu ar arwahanrwydd oddi wrth Loegr" - er y mae’n amheus gen i a
yw pobl wedi rhesymoli eu hymateb i’r graddau hynny.
Dylanwad y poblogaidd
Ta beth y mae Mr Brooks yn crynhoi yr hyn a ddywed sawl un o’r 12
cyfrannwr arall i’r gyfrol pan ddywed mai trwy gyfrwng diwylliant
poblogaidd yr ydym yn ymgyfranogi’n bennaf o’r diwylliant Americanaidd.
Dywed Gwyn Thomas mai dyna nerth y diwylliant Americanaidd a hynny
oherwydd bod yno yr arian i’w greu - achos fel y gwyddom, y mae’r
llwyddiannus boblogaidd yn ddrud i’w gynhyrchu.
Nid a cheiniog a dimai y mae cynhyrchu stwff sâl da Dafydd
Glyn Jones ’slawer dydd. Does ond eisiau gwylio S4C i sylweddoli hynny.
Daeth M. Wynn Thomas - Athro yn adran y Saesneg yn y brifysgol yn
Abertawe - a deuddeg o wahanol bobl at ei gilydd nid yn unig i ddadansoddi’r
dylanwadau a’r berthynas Gymo-Americanaidd ond hefyd i sôn am ddylanwad
America arnyn nhw yn bersonol - ac y mae America yn y cyd-destun
hwn gyfystyr a'r Unol Daleithiau er cymaint o gyrn y gall llaw-fer
o'r fath eu sathru!
Mewn cwt sinc
Gwyn Thomas, er enghraifft, yn dweud mewn ysgrif, sy'n deffro atgofion
cyffredin i nghenhedlaeth i, iddo ef ddod i adnabod America gyntaf
mewn cwt sinc o sinema pan yn blentyn ym Mlaenau Ffestiniog sy’n golygu
fod ei adnabyddiaeth gyntaf o’r wlad a’i diwylliant drwy gowbois ac
arwyr ffilm eraill.
Heb wirioni ar lenyddiaeth y wlad
Ond er cymaint o gyffro fu hynny iddo ni fyddai ef yn cydfynd a’r
hyn a ddywedodd Maughan am nofelwyr a storïwyr y wlad.
"Nid yma mae’r brif America i mi," meddai am lên y wlad.
"Rwyf wedi darllen (nid astudio) pethau gan yr enwau mawr, yn nofelwyr,
beirdd a dramodwyr, ond - gydag eithriadau - heb wirioni arnynt. Yr
argraff sy gen i . . . ydi fod llawer o lenyddiaeth y wlad, fel y
dywedir bod llawer o’i phoblogaeth, yn rhy flonegog. Mae yna, i mi,
ormod o wmffiau o eiriau . . ."
Daw i’r casgliad:
". . . mai mewn pethau mwy poblogaidd y mae clywed America. Mae’r
llais yn llawer cliriach i mi yn Raymond Chandler, neu’n fwy clir
fyth - am y rheswm syml fy mod wedi bod yn gyfarwydd ag o am gymaint
mwy o amser - yn Edgar Rice Burroughs" awdur llyfrau Tarzan.
Tarzan, yn greadigaeth y mae Gwyn Thomas yn ei disgrifio fel creadigaeth
dychymyg "sy’n nes at y dychymyg a greodd ein Mabinogi ni na chymeriad
mwy cyfewin lenyddol."
Mae natur adnabyddiaeth Gwyn Thomas ac M. Wynn Thomas yn agos iawn
at ei gilydd fel mae’n digwydd - un yn y gogledd a'r llall yn y de
- ac mae pennod y naill a rhagymadrodd y llall yn agoriad gwych i
gyfrol hawdd ymgolli ynddi.
Dywed Wynn Thomas mai bwriad ei gyfrol "oddrychol" yw canolbwyntio
ar "y modd y bu i Gymry’r ugeinfed ganrif greu America ar eu llun
a’u delw hwy eu hunain."
Ac meddai wrth egluro’i gyfrol:
"Prif bwnc y llyfr yw’r moddau gwahanol y mae’r Cymry Cymraeg wedi
ymddiddori yn America yn yr ugeinfed ganrif."
Y mae’r gwahanol ymateb yn gwneud hon yn gyfrol nid yn unig amrywiol
ond yn un eithriadol o ddifyr hefyd.
Cymysglyd ac amrywiol
Darlun cymhleth sy’n ymrithio o’i dalennau ac mor gymysglyd ag yw
agweddau o America o amrywiol. Achos does yna ddim un America
y gellir ei pharselu'n dwt.
Mae'r edmygedd o arwriaeth eofn ffilmiau cowboi, o’r pwyslais ar ryddid
ac o wrthdystiadau hawliau sifil y duon yn gwrthdaro'n benben ag imperialaeth
fyd-eang gwlad sydd am wthio Coke i lawr corn gwddf y byd ac a fu’n
trin mor drahaus frodorion gwreiddiol y cyfandir mawr yr agorodd gwysi
datblygiad ar ei draws.
Dywed M. Wynn Thomas a chyfrannwr arall mai yr awdur Cymraeg cyntaf
- annsigwyl o bosib - "i gynnig inni yr olwg ar America sy’n cynganeddu
orau ag ymateb awduron ein cyfnod ni" yw T. H. Parry-Williams ac mae’r
ymdriniaeth honno yn un ddadlennol.
Dau draddodiad mewn sgwar bocsio
Daniel Williams yn gweld dau draddodiad yn dod ynghyd "pan ddringodd
Tommy Farr (o’r Rhondda) i mewn i’r sgwâr yn Yankee Stadium
i wynebu (Joe) Louis yn 1937" a’r berthynas yn cael ei selio
flwyddyn wedyn gydag ymweliad Paul Robeson ag Aberpennar.
"Yn ganwr clasurol ac yn sosialydd, unir y traddodiadau modernaidd
aruchel a phoblogaidd, sosialaeth a hunaniaeth, yn ffigwr urddasol
Paul Robeson. Ac fe unir y Coch a’r Du - Harlem a Chymru," meddai.
Tir niwtral i fardd adnabod ei hun
I’r bardd, Gwyneth Lewis, bu America yn "dir niwtral hollbwysig i
alluogi i mi glywed rhythmau fy llais fy hun, ar wahân i rythmau cryfion
y Gymraeg."
"Wrth gwrs," meddai, "rhaid priodi’r ddau beth ond roedd harddwch
y traddodiad Cymraeg yn rhy agos ata’ i yng Nghymru i’m galluogi i
weld gwirioneddau anghysurus y foment bresennol. A dyna un o gryfderau
mawrion America a’r Americaniaid, eu parodrwydd i geisio gweld gwirionedd
unrhyw sefyllfa, waeth pa mor anhrefnus neu annymunol. Mewn barddoniaeth,
y mae ffurf gwirionedd yn bwysicach nag unrhyw brydferthwch, yn enwedig
pan fo’n mynd yn groes i ewyllys y bardd ei hun - ac mae hynny bob
tro yn arwydd o rywbeth da yn digwydd"
Rhywbeth i greu cil arno fan yna.
A hynny mewn cyfrol sydd - er yn ysgolheigaidd - ag apêl sicr at y
darllenydd cyffredin bondigrybwyll hefyd pe na byddai ond am y rheswm
syml fod dylanwad America mor bellgyrhaeddol ag i’n cyffwrdd ni i
gyd.
Achos fel y dywed Simon Brooks:
"Gan fod gafael yr Unol Daleithiau ar y rhwydweithiau sy’n traddodi
diwylliant mor gadarn mae bron y cwbl o’n profiadau diwylliannol newydd
yn Americanaidd eu tarddiad."
Dim rhyfedd felly i’r angen am gyfrol fel hon gael ei weld mewn cyfres
yn dwyn y teitl cyffredinol, "Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig."
Y cyfranwyr i gyd:
M. Wynn Thomas (golygydd); John Barnie, bardd a golygydd Planet;
Simon Brooks, golygydd Barn; Menna Elfyn, bardd; Jerry Hunter
darlithydd o Cincinnati; Gwyneth Lewis, bardd;; Iwan Llwyd, bardd
a darlledwr; Mihangel Morgan, awdur ac ysgolhaig; J. Geraint Roberts,
pensaer; C. W. Sullivan III, Athro Saesneg yn Nwyrain Carolina; Gwyn
Thomas; bardd a beirniad llenyddol; Daniel Williams, darlithydd.
|
|
|