´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cof Cenedl
Hen helynt sy'n dal yn gyfarwydd

Pan oedd Butlins yn fwgan - golwg ar lyfr o ysgrifau hanes
Dydd Iau, Gorffennaf19, 2001

Cof Cenedl XVI - Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H. Jenkins. Gomer. £7.95.


Gwelai’r gwrthwynebwyr y cynllun fel bygythiad i Benrhyn Llyn fel "perfeddwlad symbolaidd a gwir Gymreig".

Yr oedd y Cyngor sir, yntau, yn ofni pwysau difaol ddylanwadau estron ar ardal yr oedd ei ffermydd bychain yn barod yn cael eu prynu gan Saeson.

Ond er mor debyg y geiriau, nid rhyw ddadl oedd hon a fyddai’n peri i arweinydd Plaid Cymru gael ei gornelu ar Question Time oherwydd yr hyn a ddywedodd un o’i aelodau.

Wrthi ers talwm

Ond y mae hanes y gwrthwynebiad i sefydlu gwersyll Butlin’s ym Mhen Llyn yn fodd i’n hatgoffa pa mor hir fu’r gymdeithas a’r diwylliant Cymraeg yn ceisio eu hamddiffyn eu hunain rhag dylanwadau estron anghydnaws.

Mae’r hanes i’w gael yn y rhifyn diweddaraf o’r gyfres glodwiw yna o ysgrifau hanes, Côf Cenedl sy’n gael ei golygu gan Geraint H. Jenkins.

Nid oes amheuaeth o gyfraniad aruthrol y gyfres hon yn trafod mewn ffordd ddifyr a dealladwy wahanol agweddau ar hanes Cymru.

Gydag o leiaf bum erthygl ym mhob rhifyn y mae ymhell dros 800 o bynciau wedi eu trafod erbyn hyn a hithau newydd gyrraedd ei hunfed cyfrol ar bymtheg.

Pynciau'r gyfrol

Y pynciau sy’n cael sylw yn y gyfrol hon yw:
Y bardd a’i noddwr yn yr Oesoedd Canol diweddar gan Bleddyn Owen Huws.
Cyfraniad hynafiaethwyr oes y Stiwartiaid i ddiwylliant Cymru gan Nesta Lloyd.
Papurau Howell Harris gan Geraint tudur.
Gyrfa yr addysgwraig Elizabeth P. Hughes gan w. Gareth evans.
Argyfwng tryweryn a gwleidyddiaeth yr amgylchedd gan Owen Roberts.

A hanes y gwrthwynebiad i sefydlu gwersyll Butlin ym Mhen Llun yn ystod blynyddoedd olaf y tridegau a dechrau’r pedwardegau gan Pyrs Gruffudd.

Codi braw

Mae’r bennod hon a’r un am Dryweryn yn codi braw o wneud inni sylweddoli ein bod hyd at heddiw yn ymladd yr un brwydrau ac yn gwrthsefyll yr un bygythiadau i’r winllan y dywedodd saunders Lewis a roddwyd i’n gofal.

Y mae rhai pethau a ddywedir gan pyrs Gruffudd yn arbennig o arwyddocaol a’n senedd genedlaethol yn ei chlytiau.

Meddai:
"Ond y ddadl fwyaf grymus, o bosibl, oedd y galw am ddatblygiad cenedlaethol i Gymru - hynny yw, y dylai pob penderfyniad cynllunio a datblygiad economaidd fod yn seiliedig ar undod gwleidyddol, economaidd a daearyddol Cymru ac yn ei gryfhau."

Ond "yr oedd presenoldeb y gwersyll a’i ddefnydd arfaethedig yn arddangos diffyg pwerau cenedlaethol Cymru mewn cyfnod pan oedd llu o benderfyniadau eraill yn tanseilio statws cenedlaethol ei thiriogaeth."

Yn symbol o hawliau

Yn wir: "Daeth y gwersyll . . . yn symbol o hawliau - neu ddiffyg hawliau - cenedl y Cymry dros ei thiriogaeth ac felly yn rhan o’r galw am fesur o hunanlywodraeth."

Yr un, flynyddoedd wedyn, oedd yn wir am Dryweryn hefyd wrth gwrs a bu’r helynt Seimon Glyn a’r mewnfudwyr a helynt y cnydau GM yn arwyddion diweddar nad yw pethau’n dal yn iawn er efallai wedi gwella.

Bu cynlluniau Billy Butlin a’i weledigaeth am wyliau rhad i’r lliaws yn drech na dymuniadau pobl leol gyda Phwyllgor Amddiffyn Llyn (enw sy;’n dal mewn bodolaeth heddiw) yn awyddus i droi’r safle yn goleg yn hytrach na gwersyll gwyliau.

". . . daeth gwersyll Butlin’s yn bwnc llosg yng Nghymru am rai blynyddoedd ac yn symbol o broblemau cadwraethol ac o’r galw am hamdden a gwyliau . . . yr oedd hefyd yn symbol o’r ofnau moesol a diwylliannol a fodolai yng Nghymru ac a leisid yn aml pan awgrymid y dylid ‘datblygu’ rhannau o Gymru."

Yn ateb

O’r ochr arall gwelwyd gwersyll gwyliau fel un ateb i’r broblem o "ddatblygiadau anhrefnus" ar yr arfordir.

Yr oeddynt hefyd yn ffyrdd o sicrhau gwyliau i rai nad oedd ganddynt y modd ariannol i fynd dramor ond cyffelybodd y athronydd C. E. M. Joad y gwersyll i fferm garthion a fyddai’n cadw gyda’i gilydd elfennau annymunol a fyddai fel arall yn halogi cefn gwlad Llyn yn gyffredinol.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy