´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Ar drywydd lladron defaid

Stori wedi ei haddasu ddim cystal ag un wreiddiol gan T. Llew Jones

Dydd Iau, Gorffennaf 26, 2001

Lladron Defaid gan Alison Morgan. Addasiad, T Llew Jones. Gwasg Gomer. £4.50
Tair seren
Adolygiad gan Meirion Puw Rees

Mae stori Lladron Defaid yn cychwyn yn gyfoes mewn cartref hen bobol. Hen wr sy’n adrodd y stori wrth griw o blant ysgol gan gofio ‘nôl pan oedd o’n ddeg oed ac yn gwerthu defaid hefo’i dad bob blwyddyn.

Cychwyn da

Dwi’n hoffi hyn ac yn teimlo fod y sefyllfa gyntaf yma yn sefyllfa dda i gychwyn y stori hen ffasiwn sy’n dilyn.

Mi fedrwch chi weld y plant yn eistedd ac yn gwrando ar yr hen wr.

Ffarmwr defaid ydi tad Alun ac mae’r daith i werthu y defaid yn cychwyn fel bob blwyddyn arall, ras i lawr i’r Garth i werthu y defaid i’r porthmyn, ond mae Alun a’i dad yn cyrraedd yn rhy hwyr y tro yma ac mae’n rhaid iddynt fynd ar ôl y porthmyn.

Wrth geisio osgoi y brodyr Morgan, lladron defaid enwog, mae tad Alun yn torri ei goes ac ynghanol y cyffro mae’r dihirod yn dwyn Top y ci a’r defaid. Mae’n rhaid i Alun gymryd lle ei dad ac mae’n cychwyn ar antur sy’n chwalu cynlluniau y brodyr Morgan.

Hawdd ei darllen

Mae’r stori yn un hawdd i’w darllen ac mae yna olygfeydd cyffrous yma.

Wrth geisio osgoi y brodyr Morgan mae tad Alun yn croesi’r defaid trwy’r afon pan yw un ddafad yn mynd lawr hefo’r dwr ac wrth drio ei hachub mae tad Alun yn cael damwain.

"Roeddwn i’n gwylio fy nhad yn dringo i fyny dros y graig. Roedd hi’n wlyb, a mwsogl gwyrdd, llithrig yn tyfu drosti i gyd. Gwelais ef yn llithro ac yn cwympo. Rhedais i lawr gyda glan yr afon. Roedd e’n gorwedd fan’ny rhwng dau ddarn o graig ac roedd un o’i draed wedi ei dal rhwng y ddau, ac ni allai symud."

Ar ei ben ei hun

O hyn allan mae Alun ar ei ben ei hun, y defaid a’r ci wedi eu dwyn ac mae’n rhaid iddo fo fynd ar eu hôl i Aberhonddu.

Mae yna hiwmor yn y stori hefyd. Yn y tywyllwch ar y ffordd i Aberhonddu mae Alun yn cael braw.

"Yna clywais swn anadlu trwm yn y cysgodion, er na allwn weld dim byd. Yna clywais swn symud yn y dail crin y tu arall i’r clawdd.

"Sefais yn stond a ‘nghalon yn curo fel morthwyl. Rown i’n teimlo cymaint o ofn yn funud honno fel na allwn symud cam ymlaen nac yn ôl. Ond wedyn daeth ‘Mw!’ uchel o’r tu arall i’r clawdd. Dim ond hen fuwch ddiniwed oedd yno wedi’r cyfan!"

Codi ofn

Mi ges i ofn wrth ddarllen y darn yma hefyd ond er mai sefyllfa ofnus oedd hon, fe orffennodd yn sefyllfa ddigri, ac roeddwn i yn chwerthin.

Mae Alun yn cael lot o lwc ar ei ffordd i Aberhonddu, ffendio’r defaid, ffendio Top y ci ‘fy nghyfaill gorau’ yn ôl Alun.

Dwi’n hoffi y syniad yma ac mae’r awdur yn rhoi sail i’r dywediad mai ‘ci yw ffrind gorau dyn’.

Yn Aberhonddu mae’n dod o hyd i’w ddau ewythr yn cael pris da am y defaid ac yn cael pas am adre. Mae’r daith adre yn cychwyn yn iawn ond pan fo Jo, gwas y Wern sy’n teithio hefo Alun, yn penderfynu aros mewn tafarn dros nos mae Alun yn cychwyn am adre ar ei ben ei hun hefo Top.

Anodd ei gredu

Eto mae’n dod ar draws y brodyr Morgan ac yn cael ei ddal. Er iddo gael damwain ei hun y tro hwn wrth geisio dianc, mae un o’r brodyr yn arbed ei fywyd ac yn mynd a fô adre yn saff!!

Dwi’n ffendio hyn braidd yn anodd i’w gredu.

Dynion drwg yw’r brodyr Morgan a go brin y bysa nhw yn mynd ac Alun adra ar ôl iddo ddwyn y defaid yn ôl a chuddio y pres oddi wrthyn nhw.

Gan nad T Llew Jones sydd wedi ‘sgwennu y llyfr tydi o ddim mor fywiog a chyffrous a’i lyfra fo ei hun, ond oherwydd ei fod yn yn sôn am y porthmyn ar adegau fe allech chi feddwl mai un o’i straeon ô ydi Lladron Defaid.

Syml a difyr

Mae’r stori hon yn un syml a difyr ac yn ddigon cyffrous ond efallai fod y diwedd pan mae dihiryn fel un o’r brodyr yn gneud yn siwr fod Alun yn cyrraedd adref yn saff yn ei difetha braidd!

Mae yna ddigon yn digwydd yn y stori a gan mai 72 o dudalennau sydd yn y llyfr fe fyddwch wedi ei darllen mewn chwinc.

Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant 7 –10






Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy