|
|
Darlunio
hen ffordd o fyw
Cyfrol o atgofion gan Gymry'r Wladfa
Dydd Iau, Awst 2, 2001
|
Agor y Ffenestri
Cyfrol o lenyddiaeth y Wladfa er y flwyddyn 1975.
Golygwyd gan Cathrin williams.
Cymdeithas Cymru-Ariannin. 拢6.50.
Adolygiad gan Glyn Evans
"Pan oeddwn i ym Mhatagonia dro'n 么l yr ateb yr oeddwn i'n ei gael
yn amlach na pheidio wrth geisio cymell Cymry i sgrifennu oedd, "Fedrwn
ni ddim sgwennu" gyda rhai yn ychwanegu nad oedd eu Cymraeg ddigon
da.
Fodd bynnag, pan fyddai'r rhain yn ildio i bersw芒d nid yn unig yr
oedd eu Cymraeg yn "ddigon da" ond yr oedd ganddyn nhw arddull naturiol
a lifai'n braf dros y ddalen.
O ran cynnwys y duedd oedd i hel atgofion. Wn i ddim pam oedd hynny
yn fy synnu a hwythau yn rhan o gymuned oedd yn ceisio dal gafael
ar ei gwreiddiau a hanes eu gorffennol yn un mor gyfoethog.
Atgofion gwefreiddiol
Cefais straeon ac atgofion gwefreiddiol gan rai fel Esther a Gwladys
ac Aira yn Esquel a Gweneira , Moelona , Eurgain, Owen Tydur a sawl
un arall yn y Dyffryn - ac yr ydw i wrth fy modd gweld enwau rhai
ohonyn nhw yn awr wrth ysgrifau a cherddi mewn "cyfrol o lenyddiaeth
y Wladfa er y flwyddyn 1975" sydd newydd ei chyhoeddi.
Cathrin Williams - sydd wedi gwneud cymaint i asio'r berthynas newydd
sy'n bodoli rhwng Patagonia a Chymru yw golygydd y gyfrol.
Fe'i cyhoeddwyd yn swyddogol gan Gymdeithas Cymru-Ariannin mewn cyfarfod
yn Y Bala ar Orffennaf 28 fel rhan o ddathliadau blynyddol Gwyl y
Glaniad - diwrnod y gwladfawyr i ddathlu glaniad y Cymry cyntaf hynny
ar draeth lle tyfodd rhwng y m么r a'r paith dref hardd Porth Madryn
maes o law.
A'r cwestiwn y mae Cathrin yn ei ofyn - ac y bydd sawl un a fydd yn
troi at y gyfrol yn ei ofyn - yw beth sy'n peri i rai "na chawsant
ddim manteision addysg Gymraeg na Chymreig" ac a "fagwyd ymhell iawn
o swn yr iaith mewn cyfnod pan oedd wedi dechrau edwino yn y Wladfa"
lenydda mewn iaith sydd yn "hynod leiafriol" yn eu hachos hwy.
Cadw Cymreictod
Mae'n ateb ei chwestiwn trwy ddweud mai llenydda y maen nhw "er mwyn
cynnal traddodiad, er mwyn cadw Cymreictod ac er mwyn rhoi mynegiant
i'w hunaniaeth."
Ac fel y gofynnodd Maldwyn Thomas o Wasg Pantycelyn, yr argraffwyr,
yn ystod y cyfarfod yn y Bala pa resymau gwell gellid meddwl amdanynt
tros sgrifennu mewn unrhyw iaith.
Tuedd i fod yn atgofus sydd yna ymhlith holl sgrifenwyr y Wladfa a
pha syndod hynny a hwythau wedi gweld eu diwylliant yn edwino ac mewn
peryg o ddiflannu yn llwyr mewn m么r o Sbaeneg.
Trosglwyddo hen werthoedd
Peth arall sy'n gyffredin i sgrifenwyr Cymraeg y wladfa yw eu bod
yn tueddu i berthyn i'r genhedlaeth hynaf a honno â'i bryd ar
drosglwyddo hen werthoedd a hen ffordd o fyw i'r cenedlaethau sy'n
eu dilyn.
Prin yw'r ifanc sy'n sgrifennu ond y mae'n galonogol fod yna unwaith
eto adfywiad yn y diddordeb mewn pethau Cymraeg a Chymreig ymhlith
rhai o'r to ieuengach ac efallai y daw cyfrol a mwy o'u cynnyrch hwy
maes o law.
O sylweddoli hyn oll nid yw'n syndod mai sgrifennu sy'n sawru o'r
tir a'r bywyd amaethyddol fel ag yr oedd sydd yma gan rai sy'n cofio
mai dofi a dyfrio'r tir diffaith i godi anifeiliaid a chnydau a wnaeth
yr hen wladfawyr gyda rhai yn symud maes o law i borfeydd mwy gwelltog
llechweddau'r Andes a hyfrydwch Cwm Hyfryd.
Cyfaredd arbennig
Darlunio hen ffordd o fyw yw llawer o'r sgrifennu felly a rhyw gyfaredd
arbennig yn perthyn i hynny. Y mae Moelona Roberts de Drake mewn ysgrif
ddadlennol yn trafod bob yn ddiwrnod o'r wythnos fywyd "cartrefi gwledig"
y Wladfa.
Menyn yn cael ei wneud ddwywaith yr wythnos a'i gludo i'r dref gan
wraig y ty i'w werthu ar y Sadwrn. Dydd Mercher, wedyn, yn ddiwrnod
trwsio a gwnio.
Yr oedd godro, wrth gwrs, yn waith bob dydd ac yn cael ei wneud gan
y merched yn yr awyr iach haf a gaeaf, glaw neu beidio.
Traddodiad amaethyddol
Mae Esther Evans de Hughes hefyd yn cofio'r traddodiad amaethyddol.
"Ffermio oedd pawb bron yn y cwm lle c锚s i fy magu. Ar y tir gwastad
byddai gwenith yn cael ei dyfu, a diwedd haf edrychai'r caeau aeddfed
fel m么r euraidd yn symud efo'r awel. Deuai'tr peiriant mawr o fferm
i fferm i ddyrnu, a'r gwenith yn cael ei gludo i felin y dre, i'r
lle'r oedd pawb yn dod i brynu blawd. . .
"Ar y ffermwydd ar ochrau'r mynyddoedd, roedd mwy o gadw anifeiliaid,
gwartheg a defaid."
Nid yw'n syndod darllen ganddi hi mai "aros yn y cartre" yr oedd pob
gwraig yr adeg honno "a pharatoi ei merched i fod yn wraig ty oedd
cyfrifoldeb pob mam" ac yn ystod y tywydd oer "treuliai'r merched
lawer o amser o flaen y t芒n yn gwau, cwiltio, trwsio sanau neu baratoi
plu ar gyfer gwneud gobennydd."
Geiriau calonogol
Yn cael ei chydnabod yn brif lenor y Wladfa nid yw'n syndod fod yma
ddetholiad helaeth o waith Irma Hughes de Jones, golygydd a pherchennog
Y Drafod a bydd llawer yn falch o ddarllen ei geiriau calonogol hi
ynglyn 芒 dyfydol y Gymraeg yn y Wladfa:
"Yn wir," meddai hi, "mae'r Wladfa heddiw mewn llawer gwell mantais
i gadw'r Gymraeg a'r cwbwl a berthyn iddi nag erioed o'r blaen. Ers
amryw flynyddoedd mae yna ddosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal
yn gyson ac athrawon o Gymru yn teithio yma i roi eu llafur gwirfoddol
i helpu trigolion y Wladfa i gadw'r heniaith yn fyw, a rhagor na hynny
i ymgydnabod 芒 bywyd Cymru, ei llenyddiaeth a'i hanes."
Sylwi ar newidiadau
Ond y mae hi hefyd yn sylwi ar newidiadau nad ydynt er gwell mewn
rhai cylchoedd;
"Mae'r ffermydd a fu gynt yn gynhyrchiol erbyn hyn yn ddi-raen a llawer
o'r tir yn cael ei adael i redeg yn wyllt eto'n 么l i''w stad gyntefig.
Mae bron yn amhosibl cael dynion i weithio ar y tir ac er fod cwyno
oherwydd diweithdra 'does na neb yn barod i fentro i'r wlad i chwilio
am waith ac maen nhw'n hollol ddiamcan am y gangen yma o lafur. Gynt
byddai bechgyn ifanc yn awyddus i ddysgu'r grefft o ffermio . . .
ac roedd amser cynhaeaf, torri'r gwair, ei gario, codi'r tatws ac
ati, heb son am y dyrnu, yn amser difyr iawn. Doedden ni ddim yn teimlo
ei fod yn waith trwm o gwbl rywsut, nid fel heddiw, pan mae popeth
yn pwyso'n drwm ar ysgwyddau'r ychydig sydd o hyd ar eu ffermydd.
A'r rheini'n bobl mewn oed y rhan amlaf ac yn teimlo'n ddigon trist
yn aml o weld yr hyn a feithrinwyd ganddynt yn dirywio o flwyddyn
i flwyddyn."
Er na thynnir sylw at y peth y mae'n amlwg hefyd mai merched yw'r
rhan fwyaf o awduron y gyfrol hon gyda dim ond pedwar o ddynion wedi
cyfrannu a dim ond un o'r rheini wedi sgrifennu rhyddiaith - y lleill
yn feirdd gan gynnwys Osian Hughes sydd yr unig un sydd yn parhau
i gynganeddu yn y Wladfa gan ddilyn yn 么l troed ei dad, Morris ap
Hughes.
|
|
|