|
|
Triptych
mewn
dwy iaith
Ysgolhaig yn dadlau na chafodd y sylw a haeddai - ond a ydi'r
nofel y'n glasur?
Dydd Iau, Awst 23, 2001
|
Triptych, R. Gerallt Jones
Argraffiad dwyieithog gyda'r trosiad gan yr awdur
Gwasg Gomer
Adolygiad Glyn Evans
Nofel fer - cwta gan tudalen - a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod
Genedlaethol Wrecsam yn 1977 yw Triptych.
Mae hi'n awr newydd ei chyhoeddi mewn cyfres newydd o gyfieithiadau
o 'glasuron' Cymraeg gan wasg Gomer.
Ymddangosodd ochr yn ochr â Hen Dy Ffarm gan D. J. Williams.
Er ddim yn benderfyniad dadleuol nid pawb fyddai'n disgrifio Triptych
yn glasur er yn nofel drawiadol a digon arloesol yn y Gymraeg yn ei
dydd.
Fodd bynnag y mae yn tanlinellu'r ffaith i mi nad yn ddifeddwl y mae
defnyddio geiriau fel clasur.
Un o'r rhai nad oes dim amheuaeth yn ei feddwl mai dyma'r union air
iawn i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r gyfrol ydi Jerry Hunter o Brifysgol
Caerdydd.
Cwyno na chafodd sylw
Mewn rhagair i'r argraffiad newydd o Triptych mae o'n cwyno
na chafodd y nofel hon "y sylw beirniadol a haeddai"
.
Bwriad ei ragair ef ydi gwneud rhywfaint o iawn am hynny.
Yn wyneb sylwadau Jerry Hunter mae'n debyg ei bod hi'n werth cofio
mai blwyddyn go wan oedd 1977 yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith.
Doedd O. E. Roberts, Islwyn Ffowc Elis na Dafydd Rowlands, y beirniaid,
ddim yn rhyw or ganmol hyd yn oed yr adeg honno wrth roi'r wobr i
Triptych.
"Cystadleuaeth siomedig oedd hon ar y cyfan. . . Prin bod unrhyw arbenigrwydd
yn arddull neb ohonynt ac ni cheisiodd neb sgrifennu'n gain. Cystadleuaeth
ddilewyrch, felly," meddan nhw.
Ac wrth roi'r wobr i Triptych mi wnaethon nhw sôn am fân frychau
gramadeg, "nifer o gystrawennau gwael a gormod o briod-ddulliau Saesneg
yn ymwthio i'r wyneb."
Cydnabyddiaeth grintachlyd
Braidd yn grintachlyd y cydnabuwyd:
"Ond fe greodd yr awdur hwn gelfyddydwaith â Chymraeg heddiw
fel y mae, a rhaid canmol ei gamp."
Ond pa fath o ganmol ydi peth felna?
Dyddiadur chwaraewr rygbi rhyngwladol, John Bowen, sydd wedi darganfod
fod ganddo fo ganser, ydi'r nofel.
Pan recordiais eitem ar gyfer y rhaglen radio, Diolch yn Fawr Mr
Gee, yr oedd gwahaniaeth barn rhyngddo fi a dau adolygydd arall
ynglyn â'r nofel hon.
Gwnaeth gryn argraff ar Bethan Gwanas a Branwen Cennard a oedd yn
hael eu canmoliaeth ond y nofel heb fy ngwir gyffwrdd i.
Ond y mae elfennau y gallwn innau eu gwerthfawrogi fel gosod ochr
yn ochr â dadfeiliad y chwaraewr rygbi cydnerth, arwrol, yma ddadfeiliad
y gymdeithas gefn gwlad draddodiadol y mae o'n dianc iddi hi i dreulio
ei ddyddiau olaf.
Methu uniaethu na chydymdeimlo
Ond methais yn fy myw ag uniaethu â Bowen na chydymdeimlo a fo yn
ei ing.
Hynny oherwydd na ddaeth yn gymeriad byw imi. Dydio ddim yn rhywun
yr ydw i'n cyd-ddiodda efo fo.
Mewn gwirionedd doedd hi ddim gwahaniaeth gen i y naill ffordd neu'r
llall beth fyddai ei dynged
Ma'n ddrwg gen i.
A fuo darllen Jerry Hunter ddim help o gwbwl i mi:
"Gwelir gwir gamp y nofel yn y modd y mae'n troedio gwahanol lwybrau
disgyrsiol ar yr un pryd. Mae'n cyfuno realaeth sy'n frawychus o gignoeth
ar adegau - a thrafodaeth alegorïaidd ar rawd Pobun.
"Mae'r ffaith nad yw'r traddodiad beirniadol wedi gwneud cyfiawnder
â gwead amlhaenog y nofel yn egluro'r ffaith na chafodd hyd yn hyn
ei sylw beirniadol haeddiannol," medda fo.
Stwnsh beirniadaeth lenyddol
Ond mae hynna'n swnio'r fath o stwnsh beirniadaeth lenyddol i mi sy'n
iawn ar gyfer seminars colegol ond o fawr o iws i ryw greadur fath
fi sy'n chwilio am lyfr sy'n gafael ac yn cyffwrdd.
Yr oedd y ddau adolygydd arall yn hoffi hefyd arddull ddiaddurn R.
Gerallt Jones ond i mi cadarnhawyd yr hyn a ddywedodd beirniaid y
Fedal Ryddiaith am ddiffyg arbenigrwydd mewn arddull a diffyg ymdrech
i sgrifennu yn gain.
Yn wir mae'r arddull yn fy atgoffa fi ar adegau o adroddiadau swyddogol
yn hytrach na gwaith llên:
"Yn yr holl bentref, lle roedd unwaith ysgol a swyddfa bost a siop-bopeth
a phrysurdeb plant a phobl yn mynd o gwmpas eu gwaith, mae yna un
ar hugain o dai haf, a dim ond dwsin o dai annedd sy'n gartrefi naturiol
gydol y flwyddyn. Mae'r bws Crosville wedi peidio â galw yma …"
Mi fedrwch chi gael peth felna mewn adroddiad i Gyngor Sir Gwynedd.
Y ddwy iaith ochr yn ochr
Dydw i ddim yn siwr chwaith ynglyn â'r busnes yma o gyhoeddi testunau
Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â'i gilydd.
Mae yna rhyw ddiddordeb i'w gael o gymharu sut mae rhywbeth
yn cael ei ddweud yn y naill iaith a'r llall.
Gyda mwy o ddiddordeb na'r arfer yma gan mai trosiad R. Gerallt Jones
ei hun ydi'r Saesneg.
Ond rhyw hen fyrath academaidd gwirion ydi cymharu un fersiwn yn erbyn
y llall fel'na - ac yn cael ei ganmol yn y rhagair.
I ddarllenydd mae cael pob yn ail ddalen yn Saesneg yn fwy o niwsans
nag o werth - er rhaid imi gyfadda na fu'n dramgwydd o bwys imi ac
imi gael rhai pycsiau o ddarllen y Saesneg ac wedyn ddychwelyd at
y Gymraeg.
Ond mae'n debyg ei fod o werth i ddysgwyr ond dydio ddim yn rhwbath
y byddwn i ishio gweld llawer ohono fo.
|
|
|