大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Delweddau'n aros yn y cof

Casgliad o waith Gwenlyn Parry - dramodydd a fentrodd i fyd newydd

Dydd Iau, Awst 30, 2001

Dramâu Gwenlyn Parry, y Cagliad Cyflawn
Gwasg Gomer
Pris £19.95
Adolygiad Catrin Jones
Pum Seren


Roeddwn i'n hynod falch clywed fod cyfrol o waith Gwenlyn Parry yn mynd i gael ei chyhoeddi.

Dyma ddramodydd pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg diweddar a syndod i mi wrth fynd ati i ddarllen ei waith ychydig flynyddoedd yn 么l oedd darganfod mor anodd oedd dod o hyd i gop茂au o'i waith.

Roedd y dram芒u cynharaf allan o brint a dim ond o fod yn ddigon ffodus i ddod ar eu traws mewn llyfrgell yr oedd modd eu darllen.

Does dim rhaid poeni mwyach oherwydd dyma gasgliad newydd sbon o'i holl ddram芒u.

Cyhoeddwyd y gyfrol i nodi dengmlwyddiant marwolaeth Gwenlyn Parry ar ddiwrnod Guto Ffowc 1991.

Ar y tudalennau cyntaf ceir rhagymadrodd priodol iawn i gyfrol o'r fath gan Annes Gruffydd.

Gwenlyn yn hoelio sylw

I ddechrau mae'n mynd ati i s么n am Gwenlyn y dyn:

"Dyna lle byddai o'n ista - yn llygad sylw'r cwmni, nid am ei fod yn hawlio sylw ond am ei fod yn hoelio sylw. Efo'i lais mwyn, tawel, a'i fwstas walrys, gan sychu'i wyneb 芒'i law, yn llwyr o'i dalcen i'w 锚n, fel pe bai'n sychu atgof gwneud drygau enbyd ddigywilydd."

Rydw i'n hoffi'r ffaith ein bod ni'n cael ein cyflwyno i'r dramodydd fel person o gig a gwaed ar y dechrau fel hyn, wedi'r cwbl mae deall personoliaeth yr awdur yn bwysig er mwyn deall ei waith. Mae'r elfen bersonol yn effeithiol hefyd am mai cyfrol i goff谩u yw hon.

Doliau Woolworth!

Mae Annes Gruffydd yn mynd ati wedyn i drafod ei waith. Cawn wybod mai gweld rhes o ddoliau ar silffoedd Woolworth a ysbrydolodd Gwenlyn i ysgrifennu Saer Doliau ac mai rhoi lifft i weinidog anghyffredin a ysbrydolodd Y Ffin.

Mae hefyd yn pwysleisio mai lluniau sy'n bwysig yn nram芒u Gwenlyn. Y delweddau sy'n aros; "dram芒u ydyn nhw nid i'r pen ond i'r galon a'r glust a'r llygad." Dylid cadw hyn mewn cof wrth ddarllen y gyfrol.

Hoffwn ganmol Annes Gruffydd am ragymadrodd sy'n deilwng iawn i un o brif ddramodwyr Cymru. Mae'r awdur wedi llwyddo i drafod sawl elfen o fywyd a gwaith Gwenlyn Parry ac ar yr un pryd ennyn chwilfrydedd ynom ni'r darllenwyr a'n hannog i ddarllen ymhellach a mwynhau.

Yn nhrefn amser

Mae'r dram芒u wedyn wedi'u gosod mewn trefn gronolegol. Roedd hyn yn llwyddiannus yn fy marn i gan fod modd i ni weld y datblygiad yng nghrefft a them芒u'r dramodydd trwy ei yrfa.

Y dram芒u byrion a geir i ddechrau sef Hwyr a Bore, Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol nad ydynt mor adnabyddus 芒''r gweddill ond mae dawn Gwenlyn fel dramodydd i'w weld yn amlwg yma yn y modd y mae wedi llunio'r cymeriadau a'r ddeialog naturiol.

Portread o'r ddynoliaeth?

Wedyn fe'n tywysir i weithdy'r Saer Doliau, lleoliad ei ddrama fawr gyntaf.

Yma, mae Ifans yn gweithio'n hapus gan ei feio Fo yn y seler am bopeth aiff o'i le a ffonio'r Giafffar i ofyn am gymorth.

Gellir dadlau mai portread o'r ddynoliaeth a geir yma ac mai dynion yw'r doliau sy'n cael eu trin gan y saer ac yntau yn galw ar Dduw am gymorth.

Ond a oes rhywun y pen arall i'r lein ff么n?

Caban ar dywod

Caban wedi'i adeiladu ar dywod yw lleoliad y ddrama nesaf, Ty ar y Tywod.

Gwr y Ty sy'n byw yma ac o gwmpas ei gartref mae ffair enfawr. Mae'r caban yn rhwystr i Wr y Ffair sydd am ehangu ei diriogaeth ac mae brwydr yn datblygu rhwng y ddau.

Ar ddiwedd y ddrama mae Gwr y Ty yn gorfodi Gwr y Ffair i gyfnewid dillad ag ef ac felly mae Gwr y Ty yn troi'n Wr y Ffair.

Dyma gyfleu'r ddynoliaeth eto yn ysu am rym a'n materoldeb ac fe ddaw'r gynulleidfa'n rhan o ffair bywyd yn niwedd y ddrama.

Tyndra rhwng yr hen a'r ifanc
Caban yw lleoliad Y Ffin hefyd ond y tro hwn ar ochr mynydd. Ceir tyndra rhwng yr hen a'r ifanc wrth i Wilias yr hen wr geisio cyd fyw â'i gyfaill ifanc Now.

Mae dyfodiad y ferch i'r caban yn chwalu'r berthynas gan arwain at adeiladu ffin drwy ganol y cwt.

Darlunio'r berthynas rhwng dau berson a wneir yn Y Twr hefyd, ond y tro hwn perthynas gwr a gwraig. Portread o daith bywyd a geir yma wrth i'r ddau ddringo'r twr hyd angau. Gwelwn hwy'n heneiddio ac mae'r dieithrwch yn amlwg ac yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.

Byw heb fwyd

Drama wedi'i seilio ar ddigwyddiad hanesyddol yw Sal am ferch ifanc yn byw am gyfnod hir heb fwyd.

Llys barn yw'r lleoliad a cheir erlynydd ac amddiffynydd sy'n symbol o'r crediniwr a'r anghrediniwr.

Ni'r gynulleidfa yw'r rheithgor ac wedi marwolaeth y ferch yn niwedd y ddrama y ni sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan.

Drama ar ddwy lefel
Mae gan y gynulleidfa ran allweddol yn Panto hefyd. Hon yw drama olaf y gyfrol ac yma mae dawn Gwenlyn fel dramodydd wedi datblygu'n llawn.

Yn fy marn i dyma'r ddrama orau o ran technegau theatrig.

Mae yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a'r ystafell wisgo gyda'r cyd-chwarae rhwng y ddau yn gweithio'n berffaith i gyfleu emosiynau a bywydau'r prif gymeriadau. Mae llawer o eironi a hiwmor yn deillio o'r berthynas hon.

Dyma ddrama wych i gloi casgliad arbennig o ddram芒u symbolaidd gan ddramodydd a fentrodd i fyd newydd lle roedd y ddrama Gymraeg yn y cwestiwn, byd Samuel Beckett a'i debyg.

Cyfrol gwerth ei drallen
Dyma gyfrol gwerth ei darllen. I rai sydd eisoes yn gyfarwydd 芒 gwaith Gwenlyn Parry mae'n gyfrol sy'n werth ei chael ar y silff lyfrau, ochr yn ochr 芒'r ddwy gyfrol swmpus o waith Saunders Lewis.

Dywed Annes Gruffydd amdano fel storiwr "roedd hi'n hyfrydwch clywed stori fwy nag unwaith" ac mae hyn yn wir am ei ddramâu hefyd. Dyma ddramâu i'w darllen a'u mwynhau dro ar ôl tro.

I'r rhai nad ydych wedi darllen y dram芒u o'r blaen dwi'n sicr na chewch chi mo'ch siomi oherwydd dyma awdur sy'n deall posibiliadau'r theatr ac yn feistr ar iaith a deialog.

Un o ddramodwyr mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy