|
|
Amrywiaeth heb ddyfnder
Angen mwy na chan tudalen i wneud cyfiawnder â Roy Noble
Dydd Iau, Awst 23, 2001
|
Bachan Noble, Roy Noble
Adolygiad Nia Wyn Jones
Llyfr hunangofiannol rhyw ychydig dros gan tudalen yw hwn.... llyfr
cymharol denau, hawdd ei ddarllen mewn un eisteddiad.
Mae'r grynodeb ar y clawr cefn yn dweud y cawn 'Gyfle gwych i gael
cipolwg ar y dyn y tu 么l i'r barf'.
A'r hyn gawn ni yw cyfres o feddyliau difyr yn symud yn gyflym
o un i'r llall.
Arddull a iaith braidd yn gymysglyd
Ond mae arddull a iaith y llyfr braidd yn gymysglyd, a dweud y lleiaf.
O fewn dim i'r dechre fe gewch : 'Ro'dd y bathroom yn hongian acha
hoelen tu fas i ddrws y bac' ond hefyd fe geir ffurfioldeb 'traphont'
am viaduct ac 'Fe g芒i'r bwyd ei weini.....' .
Yn anffodus, roedd hyn yn amharu ar y darlleniad i mi. Hwyrach na
fydd eraill yn cytuno.
Yr argraff gyffredinol a geir o'r llyfr yw mai nifer o olygfeydd byrion
sydd yma - hanes y Clwb rygbi, y pwll nofio, sinema, y carnifal a'r
operetta a mwy, a hynny'n gyflym ar 么l ei gilydd.
Cysylltiadau'n anodd eu deall
Mae'r cysylltiad rhwng rhai o'r golygfeydd yma yn anodd ei ddeall
weithiau - fe symudwn yn gyflym o hanes y graffiti yn nhoiledau ysgol
y Bontfaen i gysgu mewn pabell ger Llangors!
Yn wir, lleoedd yn hytrach na phobol sy'n llywio'r 'daith'
drwy'r llyfr yma.
Fe fyddwn i wedi hoffi cael mwy o gig ar y disgrifiadau o rai o'r
bobol, yn hytrach na chael catalog o enwau'n unig. Er enghraifft,
mae'n disgrifio dirywiad a marwolaeth trist ei fam ond hoffwn petawn
i wedi cael ei hadnabod yn well cyn hynny.
Mae'r un peth yn wir hefyd am ambell ddigwyddiad allweddol yn ei fywyd.....
mae'n swta iawn wrth son am ei gyfnod yn Hewl y Mynydd.
"A fues i'n hapus dros ben yno," yw'r cyfan a gawn wybod
ganddo!
Tair rhan i'r llyfr
Mae'r llyfr wedi ei rannu'n dair rhan:
Brynaman (dyddiau cynnar),
Caerdydd (dyddiau coleg)
ac Aberd芒r (y presennol).
Mae'r ail ran, Caerdydd, yn adrodd ei hanes yn fyfyriwr ond
rydw i'n siwr y gallai'r straeon yma fod yn wir am ganran helaeth
o'r myfyrwyr oedd yno ar y pryd.... ond am ambell hanesyn, fel yr
un am sut y byddai Roy yn llwyddo i gael tocynnau gemau rygbi gan
Bill Clement!
Stori ddifyr sy'n siwr o roi syniadau i eraill!
Y wraig a'r cartref
Wedyn symud i Aberd芒r.
Yma cawn wybod am ei wraig, Elaine, a'r cartre a hynny ar 么l cael
hanes genedigaeth eu mab, Richard, gryn ddwsin o dudalennau ynghynt!
Yn y rhan yma o'r llyfr y cawn un o'r darnau mwyaf teimladwy yn y
llyfr - lle mae Roy yn cofio Rhydwen Williams.
Felly f'argraff o'r llyfr?
Cymysg a bod yn onest.
Gallaf glywed Roy yn adrodd yr hanesion yma - ac maen nhw'n
ddigon difyr - ond teimlaf nad oes dyfnder yma.
Mae wedi gwneud llawer yn ystod ei fywyd ac rydw i'n credu fod angen
mwy na chan tudalen i wneud cyfiawnder 芒'r bywyd lliwgar hwnnw.
|
|
|