大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cymru annibynnol gyda chymorth y Natsïaid

Chwedl ddychanol, ffantasïol sy'n mynd â ni ar drywydd cwbl annisgwyl.

Dydd Iau, Medi 20, 2001

Ein Llyw Cyntaf, Jan Morris, Addasiad Twm Morys, Gwasg Gomer, £5.95
Pedair Seren
Adolygiad Aneirin Karadog


Gan fod cymaint o lyfrau o natur ddychanol i weld yn cael eu cyhoeddi ar y foment, braf yw gweld nofel sy'n mynd ar drywydd hollol annisgwyl o ran cynnwys ac arddull gan gynnig ffresni i'r darllenydd.

Stori ddychan ffantas茂ol a geir yma lle mae Cymru yn cael ei hannibyniaeth drwy nawdd a chymorth y Nats茂aid o dan arweinyddiaeth Hitler, wedi iddo sgubo'i elynion o'r neilltu ac ennill y rhyfel.

Y Cymry'n achosi poendod

Serch hynny, mae gan y pyped o arweinydd a osodir yn bennaeth ar 'Cymru Newydd', sef Dr Llywelyn Parry-Morris, gynlluniau eraill sydd yn mynd yn groes i gynlluniau dieflig Hitler; dyna ni'r Cymry'n achosi poendod i'n gormeswyr unwaith eto!

Mae'r nofel wedi ei rhannu'n benodau ond hefyd yn nifer o is-benodau sy'n dwyn teitl sydd 芒 rhyw berthynas 芒'r is-bennod hwnnw.

Ceir hefyd ragair a elwir yn 'Rhagair y Chwedleuwr' gan ychwanegu elfen chwedlonol os nad hudol i'r nofel.

Mae hyn yn cyd-glymu'n dda oherwydd yr arddull fabinogaidd o adrodd y stori a geir ar brydiau, ychwanegiad sy'n unigryw i'r addasiad Cymraeg rwy'n siwr.

Yn gwrthgyferbynnu gyda'r rhagair hudol ei naws, ac yn wir gyda holl gynnwys y nofel hyd hynny, y mae'r diweddglo, sef 'Diweddglo'r Realydd'.

Diweddglo effeithiol
Mae bodolaeth y diweddglo yn effeithiol yn fy marn i gan ychwanegu efallai at werth gwleidyddol, neu arsylwadol wleidyddol a dychanol y llyfr heb halogi na dinistrio'r nofel o gwbl.

Er bod y stori braidd yn araf yn cychwyn yn y penodau neu is-benodau agoriadol, buan y try'n stori afaelgar sy'n rhoi chwant i'r darllenydd (yn enwedig i ddarllenydd o Gymro) i wybod beth yw tynged Cymru-Newydd, ei phobl a'i harweinydd, Dr Llywelyn Parry-Morris sy'n arbenigwr ar Ganu Mawl yr Oesoedd Canol.

Nid yn unig mae'n ddiddorol gweld sut beth y gallai ein gwlad fach ymdebygu iddi 芒'i hannibyniaeth sofran ei hun, ond mae hefyd yn ddiddorol gweld sut y byddai Cymru'n dygymod ar ei phen ei hun.

Yn fwy na hynny, o ran arddull, nid dim ond yr is-benodau hyn sy'n cynnig newydd-deb ond ceir gwahanol arddulliau o siarad gan wahanol gymeriadau ac i gynrychioli gwahanol ieithoedd (Yr Almaeneg yn bennaf).

Arddull ddifyr
Difyr iawn yw'r arddull a ddefnyddir i gyfleu'r sgyrsiau lle mae'r Almaenwyr yn bresennol, am fot yr Almaenwyr mae'n debyk yn siarat fel hyn ac zim fel popl Simrw, ymziheuriadau, Kymru nid Simrw!

Yn ogystal 芒 hyn, rhoir ffont gothig i Hitler pan mae ef yn siarad gan bwysleisio ei arddull ymosodol neu fygythiol o siarad, o bosib.

Mae lleoliad pencadlys y Nats茂aid ym Mhrydain, wedi iddyn nhw oresgyn yr ynys hefyd yn lled-chwedlonol am mai yng nghanol yr ynys (yn 么l y dewin Myrddin) yn Rhydychen y'u lleolir.

O gofio traddodiad y Cymry o fynd i Rydychen ac o feddwl fod Parry-Morris ei hun yn diwtor ac Athro yno, unwaith eto gwelir elfennau sy'n clymu'r stori ynghyd yn dwt.

Yn wir, ceir nifer o gyfeiriadau manwl at Rydychen ym mhenodau cynnar y nofel drwy s么n am furluniau, enwi colegau sy'n rhan o'r brifysgol a chyfeirio at yr arfer sydd gan nifer o diwtoriaid (ac ambell fyfyriwr yn 么l y s么n) o yfed Port.

Dychanu'r Cymry
Ond dychenir y Cymry hefyd wrth i Parry-Morris gymryd ei r么l fel arweinydd cenedl sofran newydd ychydig ormod o ddifri efallai (yng ngolwg yr Almaenwyr) drwy wisgo homar o genhinen (nid cennin pedr!) yn ei Lapelle a dod i wisgo gwisg a seiliwyd ar wisg yr archdderwydd (er bod ei dorch wedi ei gwneud o gardbord!), nid peth anodd yw dychmygu wynebau pobl y tu allan i'r wlad a fyddai'n cwrdd ag arweinydd o'r fath.

Efallai ichi sylwi mai 'Cymru-Newydd' a elwir y wlad newydd sydd wedi ei sefydlu o fewn yr Ewro-Reich newydd.

Mae'r dychan wrth gwrs yn eithaf amlwg i'w weld yma ond y rheswm dros y newid enw hwn yn y stori yw bod y Nats茂aid wedi tocio rhyw ychydig ar ein tiriogaeth, galw'r Cymru alltud i gyd yn 么l i'r famwlad a chael gwared ar bawb nad ydyn nhw'n Gymry o'r wlad.

Yn ogystal 芒 hynny, adeilada'r Brotectoriaeth Ffasgaidd wal enfawr yn amgylchynu'r wlad newydd sydd dim ond yn cynnwys, Machynlleth, Dolgellau a Llanidloes o fewn ei ffiniau gyda'r senedd yn 么l ym Machynlleth.

Dyma roi syniad o wir fwriad Hitler gyda'r Cymru, ond rhaid darllen y llyfr er mwyn gwybod ei rhesymau dros wneud hyn.

Ymateb i refferendwm 1999

Ymateb y mae'r llyfr hwn i fuddugoliaeth yr ymgyrch 'Ie Dros Gymru' yn y refferendwm ar Fedi'r 18fed, 1999, ond mewn modd difyr a gwreiddiol iawn.

Pwysleisir mai dim ond mesur "chwerthinllyd a dirmygus" fel y byddai Llywelyn Parry-Morris yn ei ddweud, ond bod y potensial gyda ni ac fel y mae Hitler yn ei ddweud (mae'n debyg), "mae ffawd yn ein dwylo ni".

Mae'r nofel hon yn addas i'r cenedlaetholwyr a'r gwleidyddion yn ein plith, yn Gymry ac yn Brydeinwyr a hefyd i'r rhai ohonoch sydd ond am ddianc am ennyd i fyd ffantasi rhag straen a strach bywyd a chael anghofio am y cyfan heb orfod edrych o dan yr wyneb am yr ystyron dyfnach.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy