|
|
Geiriau'r
wlad
Codi hiraeth wrth fynd a ni'n ôl mewn amser
Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001
|
Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 4: Sabrina - Zetor gan
Huw Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £10
Adolygiad gan Glyn Evans
Pa sawl math o dir sydd?
Yn ôl pedwaredd gyfrol y Cydymaith Byd Amaeth y mae yna o leiaf 85!
Dyna faint o gyfeiriadau sydd gan Huw Jones dan y gair Tir
yn yr olaf o gyfrolau ei eiriadur amaethyddol rhyfeddol.
Mae’r cyfeiriadau dan Tir yn amrywio o tir agored i
dir caib, o tir coch i tir ffaeth a thir ystent -
85 ohonyn nhw i gyd a hynny’n adlewyrchiad o drylwyredd y gwaith
uchelgeisiol hwn.
Blagurodd y gwaith yn 1994; cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1999 ac
yn awr, 18,000 o eiriau neu ymadroddion yn ddiweddarach, y mae’r gyfrol
olaf wedi gweld golau dydd o fewn dwy flynedd i’r gyntaf sy’n adlewyrchu’n
dda ar y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, gan fodi pob cyfrol oddeutu
400 tudalen ac i gyd hefyd wedi cadw at y pris o ddecpunt yr un.
O wair i dractor
Mae’r bedwaredd yma yn rhychwantu’r geiriau annisgwyl, Sabrina
a Zetor - y cyntaf yn fath o wair a’r llall yn fath o dractor!
Mae crwydro drwy’r cyfrolau yn gymysgedd o fynd am dro i gefn gwlad
ac o deithio yn ôl mewn amser.
Ac yn hynny o beth y maen nhw yn gyfrolau digon trist achos darlunio
y maen nhw gyfnod sydd wedi darfod gyda llawer o’i eiriau a’i ymadroddion
yn anarferedig erbyn hyn.
Y maen nhw hefyd yn adlewyrchiad o gyfoeth geiriol gwladwyr a’u hathrylith
mewn trin iaith. Ni ellir diolch digon i Huw Jones - gweinidog wrth
ei alwedigaeth ond a gychwynnodd ar ei yrfa mewn llofft stabal - am
ei lafur a’i gyfraniad.
Addysg ac atgofion
Y mae’r cyfrolau yn gymysgedd o addysg acl atgofion.
Mae pleser arbennig mewn cael eglurhad o darddiad geiriau aml eu defnydd
yma.
Er enghraifft byddwn i’n cael fy nghyhuddo yn aml pan yn blentyn o
"sbeuno drwy bethau" rhywun ac er yn deall yn iawn beth a olygai hynny
rhaid imi gyfaddef na chroesodd fy meddwl beth oedd tarddiad yr ymadrodd.
Mae’r gair sbeuno (sbaena, sbaeno) yn y gyfrol hon gyda’r eglurhad
mai dull criw o weithwyr o dorri yd â chryman yw hwn ac yn wahanol
i’r dull arferol gyda phladur.
"Mae ansicrwydd am darddiad y gair sbaeno; ‘span’ medd rhai,
sef agor y llaw a gafael am dusw o’r yd wrth ei dorri . . . ond o
‘swp’ y daeth medd eraill . . ."
Mae traddodiad hefyd mai dull gynaeafu yd o Sbaen yw wedi ei gyflwyno
i’r Cymry gan Sbaenwyr y drylliwyd eu llong ar ein glannau.
Yn ffigurol daeth i olygu "chwilio, chwilota, prowla o gwmpas ty rhywun
arall, e.e. disgrifir pobl hel haearn yn sbeuna."
Synau anifeilaidd
Yn y gyfrol hon hefyd y mae’re awdur yn sôn nid yn unig am y synau
y mae anifeiliaid yn ei wneud ond y synau a ddefnyddir gan ffermwyr
i alw ar ac i yrru yr anifeiliaid hynny.
Ceffylau yn gweryru, teirw yn rhuo, buguno a pheuo er enghraifft;
moch yn rhochian; gwyddau yn clegar a ieir yn clowcian, clochdar,
trydar a chlwcian - er rwy’n synnu nad yw’n cynnwys rhodresu hefyd
ymhlith y synau a wneir gan ieir.
Y mae’r swn a wneir i alw ar ac i yrru anifeiliaid yn amrywio o le
i le:
Bwwch, bwwch, bwwch, oedd ein galwad ni yn ne Môn ar wartheg
ond yn cael ei ddefnyddio mewn rhan arall o'r ynys yn ôl y gyfrol
hon yr oedd trwboch, trwboch, trwboch.
Ym Maldwyn yr alwad fyddai, trw’i, trw hop.
Yng Nghaerfyrddin gelwid ar ieir gyda’r swn dic,dic-dic-dic ond ym
Môn siwc, siwc-siwc-siwc fyddai’r alwad a chico, chico-chico, chico
dic, chico dic yn Edeirnion!
Er mwyn gyrru ieir y swn fyddai shww, whishww-shw a gwaith diflas
oedd eu gyrru hefyd, pa bynnag swn a ddefnyddiwyd.
Yr oedd suntur yn air cyfarwydd i mi am fath arbennig o dir ac yr
oedd hi bob amser yn rhywfaint o dorcalon cyrraedd y suntur hwnnw
wrth dorri twll. Eglurir mai cyfuniad yw o swnd a tir ac yn cyfleu
y tir caregog hwnnw dan y pridd.
Dwy ochr i'r clawdd
Ymadrodd cyffredin iawn yw "tu cleta’r clawdd" gyda dweud fod rhywun
"y tu cleta i’r clawdd" mewn rhyw ddadl neu anghaffael yn golygu ei
fod yn y lle cryfaf neu ddiogelaf.
Tybiwn ar un adeg mai ffurf o "caled" oedd "cletaf" ond y mae Huw
Jones yn cadarnhau mai o clyd y mae’n dod ac o’i roi ar bapur yn ymddangos
fel y tu clytaf i’r clawdd sef yr ochr fwyaf clyd i glawdd ac yng
nghysgod y tywydd.
"Ymadrodd cyffredin am ochr y cysgod i’r clawdd, yr ochr bellaf o’r
gwynt a’r glaw a’r storm. Gradd eithaf clyd (diddos, cysgodol) . .
."
Ychwanegiadau difyr at ei eglurhad o eiriau ac ymadroddion yw’r enghreifftiau
mynnych ohonyn nhw yn cael eu defnyddio ac yn yr achos hwn mae ganddo’r
enghraifft:
"Trystiwch chi’r porthmon i fod y tu clyta i’r clawdd bob amser."
Ac o WH Roberts yn dweud: "Colli peth, ennill peth oedd enw’r gêm,
a gobeithio bod y tu clytaf i’r clawdd ar ddiwedd yr wythnos."
Ymadroddion llawn ystyr
Ymadrodd sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw yw "rhoi llond ei chratsh"
i rywun ond tybed faint sy’n sylweddoli wrth ei ddefnyddio mai rhan
o drol ydi cratsh. O wybod pa ran mae ei ddefnydd yn llawn synnwyr
cyffredin.
Ymadrodd ystyrlawn arall ydi tywydd grifft - sef y math hwnnw o dywydd
gwlyb a thamp yr ydym yn ei gael pan fyddo llyffantod yn bwrw eu grifft
- er wn i ddim faint sy’n gyfarwydd a’r gair grifft y dyddiau hyn
achos mewn un llyfr ysgol gwelais ddefnyddio jeli llyffant amdano.
Nid yw’r cydymaith, fodd bynnag, yn cyfyngu ei hun i hen eiriau ac
ymadroddion ac adlewyrchir datblygiadau mwy diweddar gydag adran arbennig
i weiriau newydd ac ymadroddion fel Tir Cymen a Thir Gofal yn cael
eu hegluro.
Darllenwch hefyd:
Holi Awdur -
Cyfrol 3 -
|
|
|