´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Trydedd nofel Pam Fi Duw?

Cysgod helynt yr awdur dros y gwaith

Dydd Iau, Rhagfyr 06, 2001

Pam Ni Duw? gan John Owen.
Lolfa. £6.95.

Pedair Seren

Adolygiad gan Glyn Evans


John OwenNid oes amheuaeth, ni fydd pobl yn darllen y gyfrol hon yn yr un ffordd a phe byddai wedi ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl.

Bydd yn cael ei darllen mewn ffordd wahanol i’r ffordd y darllenwyd y ddwy gyfrol gyntaf yn y gyfres, Pam Fi, Duw?, Pam Fi a Pam Fi ETO, Duw? - dwy gyfrol a enillodd wobrau Tir na n-Og i’r cyn athro o Ysgol Rhydfelen.

Cyhuddiadau difrifol

Yr oedd hynny cyn i gyhuddiadau difrifol yn erbyn John Owen fod yn destun trafod cyhoeddus; cyn yr achos llys a fwriadwyd a chyn darganfod corff yr awdur mewn carafan ym Mhorthcawl.

Y mae’n ymddangos fod hanes yr awdur ei hun yn fwy dyrys nag unrhyw beth a roddodd ar bapur.

Gyda’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud ag ymyrryd â phlant ysgol bydd yn amhosib darllen y gyfrol hon fel llyfr arferol.

Bydd gwybod hyn yn siwr o liwio ymateb rhywun i rai pethau yn y llyfr gan y bydd yn amhosib ymwrthod a’r demtasiwn i chwilio yn y gwaith llenyddol am arwyddion a fyddai’n atgyfnerthu’r cyhuddiadau difrifol a wnaed yn ei erbyn.

Bydd yn amhosib ysgaru’r cyhuddiadau a’r llyfr.

Baeddwyd y dwr i’r fath raddau y penderfynodd S4C ohirio dangos cyfres deledu. Penderfynodd Y Lolfa beidio a dilyn yr un trywydd gyda’r nofel.

Gallai hynny fod yn benderfyniad masnachol buddiol ac yn fodd i ddenu darllenwyr na fyddent fel rheol am ddarllen y llyfr.

Ydio'n benderfyniad call sy'n beth arall.

Canmol yr awdur

Prin gyfeirio at y busnes arall y mae’r gyfrol. Mewn bywgraffiad o’r awdur ar y clawr ni ddywedir ei fod yn farw hyd yn oed.

Mewn cyflwyniad y cyfan a ddywedir yw: "Bu farw John Owen dan amgylchiadau trasig rai wythnosau cyn cyhoeddi’r nofel hon, ei nofel olaf" heb egluro beth oedd yr "amgylchiadau" hynny.

Mae’r cyhoeddwyr yn mynd rhagddynt wedyn i ganu clodydd eu hawdur:

"Nid yw athrylith yn ormodiaith i ddisgrifio afiaith creadigol ei waith, a’i ddawn i ysbrydoli cenedlaethau o blant mewn dosbarth ac ar lwyfan. Trafododd bynciau fel na wnaeth yr un awdur arall. Gwthiodd ffiniau’r iaith Gymraeg i’r eithaf gan gythruddo llawer, ond cariad a pharch at yr iaith a’i taniodd, ac ysfa i’w throsglwyddo i genedlaethau newydd yng nghymoedd y De," meddan nhw.

Gall y bydd rhywun yn tagu ar y geiriau yna maes o law.

Ddim yn fusnes adolygydd?

Byddai rhai yn dadlau nad oes a wnelo adolygydd â’r straeon am yr awdur a’r chyhuddiadau hyll y disgwylid iddo eu hwynebu mewn llys ond, mewn gwirionedd, gan eu bod yn ymwneud â phlant a’r llyfr hefyd yn bennaf ar gyfer plant byddai'n rhaid bod yn fwy na meidrol i fedru anghofio amdanyn nhw.

Yn anorfod, bydd darllenwyr yn dod i gasgliadau cam neu gymwys wrtth ddarllen rhai pethau yn y llyfr - yn enwedig gyfeiriadau rhywiol mynych - ac yn synfyfyrio a oes arwyddocad dyfnach, hyllach, i’r hyn a sgrifennwyd.

Dyddiaduron dau blentyn

Nofel ar ffurf dyddiaduron ydi Pam Ni Duw? - un yn cael ei gadw gan Idris a’r llall gan Sara, merch bymtheg oed yn yr un ysgol ag ef, Ysgol Glynrhedyn yn Y Rhondda.

Dydi hi ddim yn gyfrol hawdd ei darllen - fel rhai eraill Pam Fi Duw? mae'n debyg - i’r sawl sy’n anghyfarwydd a’r dafodiaith - tafodiaith sydd wedi ei galw yn Rydfeleneg ar ôl yr ysgol lle bu John Owen yn athro.

Yn nwylo’r awdur, dydi hi ddim yn arddull lefn mewn print. Yn un haws gwrando arni na’i darllen.

Mae’r gyfrol yn frith o ymson rhywiol gyda’r iaith yn fras ac yn amrwd ar adegau a hynny, byddai’r awdur yn dadlau, oherwydd mai fel yna y mae disgyblion ysgolion uwchradd yn siarad ac yn ymddwyn.

Y mae sawl cyfeiriad amrwd at aelodau rhywiol bechgyn sy'n cael eu disgrifio fel Mr Spam Javelin, polyn telegraff ac fel braich babi yn dala orange er enghraifft.

Daw obsesiwn pobl ifainc - beth bynnag am yr awdur ei hun - ynglyn â rhyw yn amlwg yn fuan iawn a’u tuedd i siarad yn gignoeth a bras.

Er yn barod i dderbyn mai fel hyn y mae pobl ifainc yn ymddwyn ni ellir peidio a sylwi ar y prinder tynerwch sydd yna wrth drafod rhyw. Offeryn chwant nid cardiad ydi o.

Bod yn feiddgar

Yng ngwaith awdur iau byddai rhywun yn gweld hyn fel ymdrech i fod yn feiddgar - i siocio. Sgrôtym ydi llysenw un o’r cymeriadau.

Dyma ran o’r "gwthio ffiniau" y mae cefnogwyr John Owen yn cyfeirio ato mae’n debyg.

Byddai eraill yn ei gyhuddo o fod yn lled-bornograffig.

Fflachiadau o hiwmor a dwyster

"Ffyni set o ffrindiau on ‘dyn ni," meddai un o’r cymeriadau ac y mae hynny, yn sicr, yn wir ac fe fyddai yn annheg imi roi’r argraff mai dim ond cybolfa chwantus mewn iaith amrwd yw’r llyfr.

Y mae fflachiadau o hiwmor ac o ddwyster sy’n cyffwrdd hefyd wrth i gymeriadau wynebu profedigaeth.

Dyma sgwrs y mae rhywun yn amau iddi hi ddigwydd yn go iawn:

"Saunders Lewis," meddai Clive.
"Ffyni enw for a man - Sandalls Lewis," meddai Madge.
"Sauders Madge. Saunders dim sandalls, for God’s sake."
Ac meddai Madge: "
"Oh well it’s all Dr Marten’s to me. . ."

Mae’r Rhydfeleneg yn ddoniol ynddi ei hun weithiau wrth i idiomau gael eu cyfieithu fel ag yn: "O, ddis langwij yn gwneud pen fi mewn."

Wrth basio; un peth diddorol am hynt y Gymraeg yn y cymoedd hyn yw i’r Saesneg, wrth ei disodl, gadw llawer o deithi’r Gymraeg. Yn awr mae’r Gymraeg adferedig, yn ei thro, yn cyfieithu’n ôl idiomau Saesneg gan greu patrwm iaith hynod ddiddorol.

Yr iaith yn hanfodol

Bu’r awdur yn byw yng nghanol Rhydfeleneg ac y mae’n hanfodol i’w lyfrau.

Weithiau yn Pam Ni Duw?, fodd bynnag, y mae yna, anghysondebau yn y sgwrsio gyda’r un cymeriad yn siarad ‘bratiaeth’ ar un ddalen ond Cymraeg digon derbyniol ar ddalen arall gan beri i rywun holi ai adlewyrchu;r hyn sy’n digwydd y mae John Owen ynteu arddangos diffygion fel sgwennwr dialog.

Byddai wedi bod yn braf medru darllen y nofel hon dan amgylchiadau gwahanol. Heb y cefndir "trasig" a'r tryblith cyhuddiadau yn berwi ym meddwl rhywun.

Ond dyna fo, dewis y cyhoeddwyr oedd cyhoeddi doed a ddel a rhaid i ninnau dderbyn hynny.

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
ni.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy