´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Bydd yn rhaid cael rhywbeth arall i Anti Gladys!

Golwg ddychanol ar fyd rhyfeddol cysylltiadau cyhoeddus

Dydd Iau, Ionawr 30, 2002

Pi-âr gan Dafydd Meirion. ( Gwasg Carreg Gwalch £4.95).
pedair seren
Adolygiad gan Alun Lenny


"Fe wnewch chi bois jôc am unrhywbeth," medde boi o Shir Benfro wrthai unwaith.

A dyna wna Dafydd Meirion yn ei nofel ddigri Pi-âr - gwneud sbri ar ben bron pawb a phopeth.

Yn eu plith: staff ´óÏó´«Ã½ Bangor, canolfannau celfyddydau, ffermwyr ieuanc, hen ffermwyr, merched y De, merched y Gogledd, perchnogion gwestai, pobol drws nesa, staff a myfyrwyr Coleg Bangor, cynghorwyr, aelodau’r clwb hwylio, celfi MFI ac, wrth gwrs, pobol cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus - y PRs a rydd ei theitl i’r nofel.

Priodas o dri

S’da nhw ddiddordeb mewn dim ond arian, rhyw a diod ac ma eu helyntion yn briodas rhwng nofelau Tom Sharp, ffilmiau Carry On a ffarsus Brian Rix.

Sylwch fod yna dri yn y briodas - sy’n dipyn llai na’r nifer ym mhriodas Gwendolyn Prydderch, un o brif gymeriadau Pi-âr.

Mae’n sôn am y pethau dwl sy’n digwydd i ddau ohebydd sy’n sefydlu cwmni PR ar ôl cael y sac gan y ´óÏó´«Ã½.

Mae’r dyfyniad ar y clawr cefn gan arwr y nofel, Rhys Huws, yn cyfleu’r naws i’r dim:
"Mae’n anodd canolbwyntio ar redeg cwmni cysylltiadau cyhoeddus pan mae rhywun byth a beunydd yn eich hudo am beint. Mae’n anoddach fyth pan rydach chi jyst a marw isio mynd ar gefn Sian. Dydy Gwendolyn y partnar fawr o help chwaith; mae rhywun ar gefn honno’n amlach na mae Rhys yn newid ei drôns…"

Nid i Anti Gladys

Nid dyma’r math a anrheg Nadolig neu ben-blwydd i’ch Anti Gladys ddi-briod. (Heblaw fod honno a chymaint o sgerbydau’n y cwpwrdd a chymeriadau’r nofel.)

Ond os y’ chi’n hoff o hiwmor coch - byddwch yn dwli ar Pi-âr.

Mae’n frith o sylwadau cymdeithasol treiddgar fel : "Byhafia dy hun yn y Seling Club… Dim yfad yn wirion a gneud llanast! Dim i’r ´óÏó´«Ã½ ‘dan ni’n gweithio rwan."
a

"Dydi genod neis ddim am rannu gwely hefo hogia Caernarfon ar noson gynta, siwr Dduw."

Mae’r awdur yn siarad o brofiad helaeth fel un aeth o fyd PR i’r ´óÏó´«Ã½.

Mae’n siwr iddo weld sut mae cwmnïau a chyrff cyhoeddus yn gwario arian cyhoeddus; a faint o’r arian hwnnw sy’n mynd i bocedi tafarnwyr a pherchnogion gwestai.

Cael hwyl

Ond cofiwch taw cael hwyl yw unig nod y nofel. Er bod yr iaith yn aml yn goch, mae wastad yn llyfn ac yn hawdd i’w ddarllen.

Ac yn ddoniol.

Wna’i ddim datgelu, wrth gwrs, sut mae’r cyfan yn gorffen i gwmni Seiont PR - dim ond dweud fod pawb yn cael ei haeddiant !

Holi Dafydd Meirion

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy