´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Dwy nofel i ddysgwyr



Dydd Iau, Ionawr 10, 2002

Clymau Ddoe a Blodwen Jones a’r Aderyn Prin.
Tair seren
Adolygiad gan Catrin Jones

Cyfres i ddysgwyr yw Nofelau Nawr sy’n addas i rai sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy.

Clymau Ddoe a Blodwen Jones a’r Aderyn Prin yw’r ddwy nofel ddiweddaraf yn y gyfres.

Yr oeddwn yn amheus iawn ar y dechrau a fyddwn i’n mwynhau nofelau oedd wedi eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer dysgwyr.

Roeddwn i’n poeni y byddai’r arddull yn rhy syml, y stori’n rhy arwynebol ac - yn fwy na dim - yr eirfa a’r nodiadau ar gyfer y darllenwyr yn mynd ar fy nerfau.

A doedd darllen clawr cefn Blodwen Jones a’r Aderyn Prin yn lleddfu dim ar fy amheuon gan fod yno gyfieithiadau Saesneg yn britho’r testun ac yn amharu ar rediad y cyflwyniad.
Roeddwn i’n ofni, felly, mai tasg digon diflas oedd o’m blaen.

Ond dwi’n falch o ddweud imi gael fy mhlesio’n fawr gyda’r nofelau hyn ac yn sicr fe fwynheais eu darllen. Roedd yr arddull yn llyfn a’r straeon yn afaelgar.

Mae’r ddwy nofel yn wahanol iawn ac mae’n beth braf gweld bod Nofelau Nawr yn cynnig arlwy amrywiol iawn i ddysgwyr Cymraeg.

Lladd mewn damwain car

Nofel ddwys yw Clymau Ddoe gan Alys Jones - r hanes Llinos, merch dwy ar bymtheg oed sydd yn byw yng Nghaernarfon.

Mae wedi ei magu gan ei thaid a’i nain ers marwolaeth ei rhieni mewn damwain car pan oedd yn fabi. Ond mae bywyd Llinos yn newid dros nos wrth iddi ddarganfod cyfrinach fawr am ei gorffennol.

Dechreua’r cyfan pan aiff Llinos i’r Llew Du un nos Wener a chyfarfod Steff, bachgen golygus y mae’n gwirioni’n lân ag ef.

Agor hen greithiau

Mae Steff yn taeru ei fod wedi gweld merch yn edrych yn union fel Llinos yng Nghaerdydd lle y mae ef yn y coleg. Aiff Llinos gydag ef i Gaerdydd y dydd Sul canlynol i weld trosti ei hun. A dyma ddechrau cloddio’r gorffennol ac agor hen greithiau.

Er mai nofel fer, llai na chan tudalen, yw hon mae digon yn digwydd a chynhelir diddordeb y darllenydd o’r bennod gyntaf a does dim gwastraffu geiriau.

Mewn un penwythnos caiff bywyd Llinos ei droi wyneb i waered.
Efallai nad yw hyn i gyd yn gwbl gredadwy. A fyddai merch ifanc fel Llinos yn ddigon byrbwyll i fynd i Gaerdydd gyda bachgen nad yw prin yn ei adnabod dim ond am ei fod ef yn honni iddo weld merch yr un ffunud a hi mewn tafarn yn y ddinas?

Dwi’n ei chael hi’n anodd iawn credu hynny. Ond o ystyried mai nofel i ddysgwyr oedd hon i fod ac felly nofel syml a hawdd ei deall, doedd gan Alys Jones fawr o ddewis mewn gwirionedd.

Doedd dim lle i ysgrifennu stori faith yn llawn disgrifiadau anodd i’w dilyn.

Os am stori gyffrous felly rhaid oedd plymio i’r dwfn yn syth heb wastraffu geiriau yn egluro’r cefndir neu’n gosod y nofel yn ei chyd-destun.

Yn sicr mae hon yn nofel gyffrous ac o’r eiliad yr aiff Llinos i Gaerdydd mae popeth yn digwydd yn gyflym. Rhaid canmol Alys Jones am gynllun manwl y nofel a’i saernïaeth dynn.

Lliwgar a doniol

Clawr Mae Blodwen Jones a’r Aderyn Prin ar y llaw arall yn nofel go wahanol.

Dyma nofel ddoniol ar ffurf dyddiadur, dilyniant i’r nofel Bywyd Blodwen Jones. Yn wir mae’n atgoffa rhywun o ddyddiadur Bridget Jones.

Mae Blodwen ym mhen ei thrafferthion a’i bywyd yn lliwgar iawn oherwydd hyn. Merch ddi-briod ydyw a chawn hanes ei bywyd carwriaethol sydd ymhell o fod yn berffaith.

Dysgu Cymraeg y mae Blodwen hithau ac mae hyn yn gymorth i wneud arddull y nofel yn ddealladwy i ddysgwyr.

Yn hytrach na defnyddio geiriau Cymraeg a fyddai’n anodd i ddysgwyr mae Bethan Gwanas yn ysgrifennu yn union fel y byddai Blodwen ei hun yn meddwl: "Ro’n i wedi gyrru ffilm i gael ei – beth yw develop?- ble mae’r geiriadur Aha – datblygu".

Digon yn digwydd

Dyddiadur deufis a geir yma ond yn y cyfnod byr hwn mae digon yn digwydd ym mywyd Blodwen. Ar ddechrau’r nofel cawn wybod fod perthynas Blodwen â Hywel wedi dod i ben wedi iddi ei weld yng nghwmni merch arall mewn tafarn un noson.

Wedi hyn mae Blodwen yn gwneud ei gorau i’w anghofio a byw ei bywyd hebddo.

Ond nid yw bywyd yn hawdd i Blodwen druan. Mae wedi diflasu’n llwyr ar ei gwaith yn llyfrgell y dref, mae’n poeni am ei phwysau a dydi mynd ar ddeiet ddim yn gweithio.

Ond yn fwy na dim mae anifeiliaid Blodwen yn creu tipyn o helyntion iddi – HRH y gath yn cario chwain i’r ty a Blodeuwedd y fuwch yn bwyta blodau’r gerddi cyfagos gan wneud ei pherchennog yn amhoblogaidd iawn.

Pethau ddim yn hawdd

Ar ben hyn i gyd mae Blodwen yn ymdrechu’n galed i ddysgu Cymraeg. Ond dydi pethau ddim yn hawdd yn y dosbarthiadau nos chwaith yn enwedig gan fod Jean, dysgwraig arall, yn mynnu ei bychanu bob cyfle.

Ond mae taith i Ynys Enlli yn gweddnewid bywyd Blodwen wrth iddi hi syrthio mewn cariad â Siôn Prys. Ond ai Siôn Prys yw’r dyn perffaith ac a fydd llwybr cariad yn llyfn i Blodwen y tro hwn? Wna i ddim datgelu mwy ond yn sicr dyma lyfr i’w fwynhau.

Mae’n rhaid i mi ddweud felly i mi fwynhau’r ddwy nofel. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n darllen llyfrau oedd wedi eu llunio ar gyfer dysgwyr yn unig.

Mae Clymau Ddoe wedi ei ysgrifennu mewn iaith safonol ond er hyn ni ddefnyddir brawddegau rhy hir a chymhleth.
Roedd Blodwen Jones a’r Aderyn Prin ar y llaw arall wedi ei hysgrifennu mewn iaith mwy anffurfiol a llafar ac er y defnyddir nifer o eiriau, idiomau a brawddegau Saesneg fel "impressed", "actually" a "can’t be bothered" roedd hynny’n iawn yn y cyd-destun hwn gan mai dysgwraig yw Blodwen.

Wedi’r cyfan fyddai’r nofel ddim yn gredadwy pe bai Blodwen yn siarad Cymraeg perffaith.

Ychydig o ddryswch

Er hyn efallai y bydd yr arddull lafar yn peri ychydig o ddryswch i rai dysgwyr nad ydyn nhw’n gwbl gyfarwydd â darllen Cymraeg llafar.

Defnyddir ffurfiau fel "°ù´Ç‵µ" yn hytrach na "roeddwn" a »å´Ç‵µ yn lle "nid oeddwn".

Nid oes unrhyw eglurhad yn y llyfr mai berfau wedi eu cywasgu yw y rhain ac efallai y byddai dysgwyr llai profiadol wedi cael trafferth deall.

Er hyn mae’r ddwy nofel yn gwneud ymdrech dda i ddarparu ar gyfer dysgwyr. Yn ogystal â’r cyfieithiadau o eiriau Cymraeg anodd ar waelod pob tudalen, mae nodiadau yng nghefn y nofelau sy’n egluro rhai amrywiaethau yn y defnydd o ferfau yn iaith y de a’r gogledd.

Fe fuaswn i’n argymell rhywun i ddarllen y nofelau hyn boed yn ddysgwr/wraig
neu’n rhugl yn y Gymraeg.

Dydyn nhw ddim yn nofelau swmpus y medrwch chi ymgolli ynddyn nhw gan nad oes yma ddisgrifiadau manwl na phlot cymhleth ond maen nhw’n nofelau ysgafn y gellir eu darllen ar un eisteddiad - delfrydol i’w darllen ar draeth neu ar siwrnai nad yw’n rhy faith.

Oes gennych chi farn am y llyfau hyn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy