大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Bagad gofalon

Ffynnon sy'n dal i gynnal buarth

Dydd Iau, Ionawr 17, 2002

Shamus Mulligan a'r Parot gan Harri Parri.
pedair seren
Adolygiad gan Dei Tomos

"Tasa rhywun wedi rhoi tenner each way ar bo rywun yn sgwenu hanas fi Shamus O'Flaherty Mulligan sy'n byw ar Morfa tu allan i Porth yr Aur faswn i di deud no way! Ond na fo dwi wedi bod yn rong o'r blaen a ma siwr bydda fi'n rong eto. Ti'n gweld ma 'Bos' capal ni wedi sgwenu llyfr arall, a ma enw fi'n part o teitl y llyfr yma."

Mae'n debyg y bydda hi'n dipyn o strygl i'r hen Shamus druan ysgrifennu brawddeg fel 'na ond fe fedra i'n hawdd ddychmygu y byddai wrth ei fodd o weld ei enw'n ymddangos ar glawr llyfr diweddara Harri Parri.

Eglwys heb ei thebyg

Dyma gyfrol arall sy'n olrhain troeon yr yrfa i'r gweinidog ifanc hwnnw a ddechreuodd fugeilio ym mhentre Carreg Boeth, ond sydd bellach ers tro, er nad fawr callach ym mhethau'r byd, a bagad gofalon Capel y Cei yn crymu ei war.

Does na ddim, neu mae'n anodd gen i ddychmygu fod na, eglwys sy'n debyg iddi yn unlle, ac nad oes gweinidog na corlanaid o braidd mor liwgar a diddorol chwaith.

Eto er eu digrifed, mae eu dweud a'u hymwneud a'i gilydd yn fwy na chredadwy hefyd.

Bellach, os ydach chi wedi dilyn hynt a helynt y Parchedig Eilir Tomos fe fydd y cymeriadau'n gyfarwydd i chi, ac os nad ydyn nhw, buan iawn y dowch chi i'w cyfri nhw yn gydnabod os nad cyfeillion.

Pobl capal a'r ymylon

Mae nhw i gyd yno; pobl y capel a phobl yr ymylon yn lliwgar lenwi dros gant a hanner o dudalennau mewn chwe stori afaelgar.

Mae'n amhosib peidio dotio at iaith yr awdur, mae'n afaelgar ryfeddol, a gwlith y cysegr os nad llwch yr ysgrythur yn drwm arni ar adegau.

Ond ar amrantiad fe glywch chi hefyd ieithwedd dechrau'r ganrif newydd ac mae clust fain yr awdur yn cofnodi'r ddwy mor gywir a'i gilydd gan eu cymysgu'n lobsgows maethlon.

Wfftio a chydymdeimlo

Bob yn ail ac wfftio'r gweinidog rydach chi'n cydymdeimlo wrth i darfferthion a phrofedigaethau lu godi eu pen ac yntau fynd i'w cyfarfod.

Un o boena mawr Capel y Cei ydi'r boelar ac mae trwsio hwnnw a thalu am hynny'n ddigri tu hwnt fel y gwelwch chi.

Mae yma fedydd gwahanol i'r arfer heb s么n am Gwrdd Diolchgarwch sy'n ymdebygu i syrcas ac un o'r sefyllfaoedd mwya 'smala ydi'r dosbarth ioga yn seler y capel, heb anghofio dychweliad y 'mab afradlon'.

"Ffynnon hesb, buarth gwag," meddai rhywun wrthyf yn ddiweddar, wel dim eto yn hanes Harri Parri diolch byth!

Mynnwch gopi o'i ddegfed cyfrol a dowch wyneb yn wyneb 芒 Shamus; Kit Davies, Anglesey View; Cecil Siswrn; y brodyr Howarth; Dwynwen Lightfoot a John Wyn ac fe welwch chithau fod "gwyrthiau'r Arglwydd ar lannau'r Fenai dlawd" yn digwydd o hyd.



Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy