´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Sgrech Rhyfel
Rhyfel nad yw'n darfod

Cyfrol o straeon byrion grymus yn darlunio sawl math o ryfel.

Dydd Iau, Chwefror 14, 2002

Sgrech Rhyfel gan Martin Huws. Gwasg Carreg Gwalch, pris £5.50.

Pedair seren

Adolygiad gan Alun Lenny

Fe ddylai darlun Edvard Munch The Scream fod ar glawr y llyfr hwn. Byddai'n cyfleu naws Sgrech Rhyfel i'r dim. Mae'r ugain stori fer yn sôn am wallgofrwydd a chreulondeb bywyd.

Mae'r rhyfeloedd yn digwydd ar Ynysoedd y Falklands, strydoedd y Rhondda, mewn cartref ac ysgol, ac yn fwy na dim ym meddwl dyn. Y neges yw - d'yw'r rhyfel byth ar ben: "Mae dyn mor ddyfeisgar. Hyd yn oed ar ôl y rhyfel daethon o hyd i ffyrdd o ladd ein gilydd."

Dyn fu mewn rhyfel go iawn
Mae'r stori gynta'n sôn am ddyn fu mewn rhyfel go iawn, yn y Falklands. Cyn-filwr a'i gariad ar wyliau hyfryd ar lannau Mor y Canoldir. Ond mae'r uffern brofodd yn y rhyfel o'i fewn o hyd - a'r gwyliau rhamantus yn troi'n hunllef.

Mae'r ymosodiadau o banig yn cyrraedd penllanw ar ddiwedd y stori: "Clywodd wynt cig eidion rhost yn llifo'n ysgafn o ffenest fach y gegin a theimlodd bwysau ar ei fola a'i ysgyfaint. Gwelodd grwyn ei ffrindiau ar y Syr Galahad yn tasglu fel saim mewn sosban. Clywodd eu sgrechiadau gwallgof yn llosgi'n fyw, a rhedodd i'r ty bach." Na, dyw hwn ddim yn llyfr i'r gwan-galon.

Mae'r straeon yn gynnil iawn. Chwe tudalen yw eu hyd ar gyfartaledd. Yn wir, dim ond wyth llinell yw'r un fyrraf !

O ran iaith ac arddull mae'n llyfr hawdd i'w ddarllen. Newyddiadurwr yw Martin Huws ac mae'n cyfuno'r grefft honno gyda'i ddawn i lenydda. Mae'n creu delweddau lliwgar yn ei ddychymyg ac yn defnyddio fframwaith moel yr arddull newyddiadurol.

Teimladau ar ffurf darluniau
Mae'n ymdrechu i gyfleu teimladau pobol ar ffurf darluniau: "R'oedd ei hunanhyder fel darnau llestri tsienia ar chwâl ar lawr cegin; byddai ateb yn lleddfu'r lo's sy' fel craig finiog yn hwpo mas o'r môr ; r'oedd y cancr fel ci'n cnoi asgwrn ; r'oedd yn nofio ar fôr o forffin…"

Mae'r awdur yn defnyddio'r un arddull - sy'n llwyddo i fod yn gynnil ond yn lliwgar ar yr un pryd - i ddisgrifio cymeriadau a golygfeydd yn ei straeon : "Sion 'run shwt oedd Stanley, yn dilyn ei rych nes tynnu ei bensiwn ; gwelwn drempyn yn gorwedd ar fainc yn llawn gwynt cas.Mae'r ia'n rhewi ei farf coch; y llanciau a'r jins carpiog a'r dannedd pwdwr, a bysedd eu traed yn hwpo mas drwy eu daps ; camu araf milwyr coch yn hebrwng arch llawn blodau."

Nid yw'r delweddau'n taro deuddeg bob tro, wrth gwrs nad 'dy nhw. Ni all yr un awdur fentro heb fethu weithiau.

Creu argraff ddofn a phwerus
Ond ar y cyfan, mae'r straeon yn creu darluniau credadwy, sy'n gwneud argraff ddofn a phwerus. Mae'r awdur yn gyn-weithiwr dur, sy'n amlwg wedi "profi ei ddur yn ffwrnais bywyd" fel y dywed un o'i gymeriadau.

Daw dau deimlad cryf i'r wyneb drwy'r straeon.

Cydymdeimlad yw'r cyntaf - gyda sefyllfa druenus dynoliaeth. Mae'n ceisio deall - ac yna esbonio i ni - pam fod llanc ifanc yn lladd hen filwr yn ei gartref. Mae'r ddau mewn rhyfel, lle mae clwyfo a lladd yn digwydd o hyd. Boed hynny yn ffosydd y Somme neu yng nghymoedd y De.

Yr emosiwn arall yw dicter. At y rhai sy'n camdrin pwer. Y rheolwr sy'n diswyddo ei staff ; y gwr sy'n pwno'i wraig "Fi yw'r bos. Paid anghofio hynny" a phennaeth y cwmni trên sydd â bywydau teithwyr yn ei law "yn mesur a phwyso ac yn casglu fod hyn-a-hyn o bobol yn mynd i farw bob blwyddyn, doed a ddelo ." A dicter at ffawd, sy'n gwneud bywyd pawb yn loteri.

Ydy, mae Sgrech Rhyfel yn stwff cryf. Yfwch e' gan bwyll.



Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy