|
|
Bedwyr yn frwd a beiddgar
Darlithoedd ac ysgrifau beirniadol Bedwyr Lewis Jones yn hawdd
i'w darllen
Dydd Iau, Mawrth 14, 2002
|
Tua’r Dalar gan William Owen. Gwasg Carreg Gwalch. £6.95.
Adolygiad gan Glyn Evans
Reit ar gychwyn y gyfrol hon y mae’r awdur yn rhoi clets i rhyw "oracl"
ar Radio Cymru a adolygydd yn feirniadol un o’i gyfrolau eraill.
Tynnu sylw yn "llawn gwynt" a wnaeth yr un oedd "yn ffansio ei hun
fel tipyn o adolygydd" at y modd y bu i’r awdur anwybyddu tlodi a
chaledi y cyfnod yr oedd yn ei ddarlunio yn ei lyfr.
Er bod William Owen yn cyfeirio at y feirniadaeth hon fel rhagfarn
mi alla innau ddeall beth oedd gan yr adolygydd nas enwir dan big
ei gap - ac y mae mwy o’r un peth yma!
Cychwynnodd taith hunangofiannol William Owen gyda chyhoeddi Codi
Canol Cefn yn 1974 ac nid yw’n syndod ei fod yn cadw at y ddelwedd
amaethyddol gyda’r gyfrol hon sy’n dod â ni at y cyfnod presennol
yn ei fywyd.
Rhwng y ddau lyfr bu nifer o ddramâu a chyfrolau cofiadwy fel Robin
Rengan Las a Llacio’r Gengal yn darlunio’r hen gymdeithas amaethyddol
fel ag yr oedd ym Môn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Yn amlwg yn ffansio ei hun yn dipyn o Laurie Lee Cymraeg mae’r awdur
wrth edrych yn ôl yn cloriannu ei fwriadau yn rhoi y pethau hyn ar
bapur.
Cyhoeddodd Sommerset Maughan ei Summing Up, William Owen ei
Dua’r Dalar.
Nid oes amau ei ddawn fel sgrifennwr rhyddiaith na’i ddawn ychwaith
fel darluniwr cymeriadau mewn geiriau. Y mae ei Gymraeg yn fwyn ac
yn felys a’i lygaid yn graff, ei glust yn fain.
Mae’r gyfrol olaf hon yn cychwyn gyda’i gyfnod yng Ngholeg y Brifysgol
ym Mangor yn y pumdegau a chyfnod yn athro digon diniwed yn rhai o
ardaloedd tlotaf - neu ddifreintiedig fel y byddem yn cael ein cymell
i ddweud heddiw - Lerpwl. Hen lefydd ryff a defnyddio idiom fy mhlentyndod
innau ym Môn!
Y mae yna lawer o draethu’r cyffredin a’r digon dibwys yn y rhan hon
o’r gyfrol ac er bod ambell i ronynen yma ac acw y mae ynghudd dan
sacheidiau o fanus.
Ydi mae’n ddiddorol cael gwybod am yr Athro A. H. Dodd "yn mynd yn
fân ac yn fuan ar hyd Ffordd y Coleg gan aros a sefyll yn awr ac yn
y man i godi stwmp sigaret, ac wedi iddo edrych o’i gwmpas i sicrhau
nad oedd neb yn ei weld, ei fwrw’n lladradaidd i waelodion poced ei
gôt laes."
Ond y mae manion gwybodaeth arall ac y mae cynifer o straen sy’n cychwyn
yn addawol ond yn mynd i le’n byd erbyn gweld.
Weithiau cawn yr argraff na phasiodd pryf glaw y giât na chafodd ei
enw yn y gyfrol hon.
Yn ystod y cyfnod hwn o ddarllen yr oedd Tua’r dalar yn stryglo i
ennill seren a hanner o ganmoliaeth a phe na byddwn ar ddyletswydd
adolygu mae’n amheus gen i a fyddwn wedi dal ati.
Yn union rhes drwchus o rwdins byddai’r gyfrol hon wedi elwa ar gryn
deneuo tra’n cyrchu tua’r dalar.
O ddal ati i fyny’r rhes, fodd bynnag, cynhesais at y gyfrol ac mi
gefais sawl munud o bleser ymhlith "Pobol Ddiddorol" o ddalen 86 ymlaen.
Mwynheais yn arbennig y portread sylwgar a gonest o J. T. Jones Porthmadog
a gyflawnodd gymaint camp yn cyfieithu rhai o ddramâu Shakespeare
i’r Gymraeg gan gynnwys Hamlet ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod
Genedlaethol Glyn Ebwy, 1958.
Cawn yma ddarlun o gyfuniad rhyfeddol o athrylith eang ei orwelion
ar y naill law a gwr rhywfaint yn rhagfarnllyd a chul ar y llall ac
efallai yn rhywfaint o fwli diwylliannol!
Difyr ac ni ellir ond cytuno â William Owen ei bod yn gawl enbyd ar
ran Meic Stephens i’w adael allan o’i Gydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- yn enwedig o weld ambell un arall llai a salach ei gyfraniad yn
cael ei big i mewn.
Bu William Owen ei hun yn gystadleuydd llwyddiannus ar y ddrama yn
y Genedlaethol - ac aflwyddiannus hefyd fel y datgela mewn stori fach
ogleisiol am ei brofiad gydag un ddrama a thri beirniad.
Pan anfonwyd y ddrama i gystadleuaeth gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yr oedd y beirniad - "yn wr galluog uchel ei barch a thra phrofiadol
yn y maes" - yn llawdrwm iawn arni gan ei disgrifio yn ddim amgen
na sgets estynedig ac yn hiliol a di-chwaeth ar ben hynny.
Am rhyw reswm mae William Owen yn osgoi enwi’r beirniad ond William
R. Lewis oedd o yn Eisteddfod Maldwyn 1981.
Ta beth am hynny, mewn dwy eisteddfod arall cafodd yr union un ddrama
ganmoliaeth ac fe ddaeth yn ail da i ddrama gan T.James Jones gyda’r
beirniad, Hywel Teifi Edwards, yn hael ei ganmoliaeth a’r un modd
J. R. Evans mewn trydedd eisteddfod lle bu’r ddrama yn fuddugol.
"Nid canmol yr ydwyf," meddai William Owen, "ond dywedyd y gwir, wrth
geisio olrhain hynt ac yn arbennig helynt digon cythryblus un ddrama
fer a oedd yn bopeth yr un pryd, yn ddim namyn ‘sgets estynedig’,
yn ‘amlygu dawn bendant’, yn ‘hiliol ac ansensitif’, yn ‘fyrlymus
a hynod lwyddiannus’ ac i goroni’r cyfan, yn ‘hynod o ddi-chwaeth’."
Yn wyneb hynna beth wnawn ni felly o feirniaid steddfodol!
Tuedd i ganmol y rhai y mae’n eu portreadu sydd gan William Owen ond
ni ddylai hynny fod yn syndod gan mai cyfeillion a edmygai a ddewisodd
sgrifennu amdanynt beth bynnag a does dim o’i le yn hynny.
Ond y mae rhywun yn synnu, o ystyried naws y gyfrol, ei weld yn beirniadu
rhywrai eraill am fod yn nawddoglyd ac yn ymosod ar "y dull Cymreig
arferol" o "sheflio sebon" wrth sgrifennu.
Sylw a fydd yn peri i’r geiriau brycheuyn, trawst a
llygaid ddod i feddwl ambell i ddarllenydd rwy’n siwr gan nad
yw ei shefl ei hun yn un sy’n hel rhwd o segurdod.
Ond wedi dweud hynny rhoddodd gyda sawl un o’i gyfraniadau foddhad
i lawer - heb sôn am y pleser y mae sgrifennu yn ei roi i’r sgrifennwr
ei hun.
"Fynnwn i ddim gwadu nad oeddwn i’n ceisio boddhau’r awydd am ryw
fath o ddihangfa a’r awydd am ‘gymundeb’ gyda’r rhai a garwyd ac a
gollwyd felly. Ac os oedd yr hen fywyd ar gilio, roedd yn bwysig rhoi
peth ohono ar gof a chadw er mwyn dangos ei hyfrydwch a’i ragoriaethau.
Roedd yn rhaid ceisio atal, dros dro beth bynnag, y proses tragwyddol
o erydu sy’n digwydd oblegid y mae colli cyfle i roi ar gof a chadw
yn wadiad ar fodolaeth. Yr un pryd roedd yn gyfrifoldeb ar rywun i
wneud a allai i sicrhau . . . fod rhyw gofnod yn aros ‘canys ni welir
mo’u tebyg hwy byth eto’."
A pha ragorach rheswm a chymhelliad sydd ei angen.
Ebostiwch
|
|
|