|
|
Canmolwn
yn awr . . .
Ond braidd gormod o son am y pethau bach . . .
Dydd Iau, Mawrth 21, 2002
|
Tua’r Dalar gan William Owen. Gwasg Carreg Gwalch. £6.95.
Adolygiad gan Glyn Evans
Reit ar gychwyn y gyfrol hon y mae’r awdur yn rhoi clets i rhyw "oracl"
ar Radio Cymru a adolygydd yn feirniadol un o’i gyfrolau eraill.
Tynnu sylw yn "llawn gwynt" oedd trosedd yr un oedd "yn ffansio ei
hun fel tipyn o adolygydd" at y modd y bu i’r awdur anwybyddu tlodi
a chaledi y cyfnod yr oedd yn ei ddarlunio yn ei lyfr.
Er bod William Owen yn cyfeirio at y feirniadaeth hon fel rhagfarn
mi alla innau ddeall beth oedd gan yr adolygydd nas enwir dan big
ei gap. Mae mwy o’r un peth yma!
Bywyd cefn gwlad
Cychwynnodd taith hunangofiannol William Owen gyda chyhoeddi Codi
Canol Cefn yn 1974 ac nid yw’n syndod, oherwydd ei gefndir, iddo
gadw at y ddelwedd amaethyddol gyda theitl y gyfrol hon sy’n dod â
ni at y cyfnod presennol yn ei fywyd.
Rhwng y ddau lyfr bu dramâu a chyfrolau difyr fel Robin Rengan
Las a Llacio’r Gengal yn darlunio’r hen gymdeithas amaethyddol
fel ag yr oedd ym Môn yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Yn amlwg yn ffansio ei hun yn dipyn o Laurie Lee Cymraeg mae’r awdur,
wrth edrych yn ôl, yn cloriannu ei fwriadau yn rhoi y pethau hyn ar
bapur.
Cyhoeddodd Somerset Maughan ei Summing Up, William Owen ei
Dua’r Dalar.
Yn fwyn ac yn felys
Nid oes amau ei ddawn fel sgrifennwr rhyddiaith na’i ddeheurwydd ychwaith
fel darluniwr cymeriadau mewn geiriau. Y mae ei Gymraeg yn fwyn ac
yn felys; ei lygaid yn graff, ei glust yn fain.
Mae’r gyfrol olaf hon yn cychwyn gyda’i gyfnod yng Ngholeg y Brifysgol
ym Mangor yn y pumdegau ac wedyn yn athro digon diniwed yn rhai o
ardaloedd tlotaf - neu ddifreintiedig fel y byddem yn cael
ein cymell i ddweud heddiw - Lerpwl.
Hen lefydd ryff estron ac anghyfarwydd i lanc o gefn gwlad Môn!
Y mae yna lawer o draethu’r cyffredin a’r digon dibwys yn y rhan hon
o’r gyfrol ac er bod ambell i ronynen yma ac acw y manus sy'n mynd
a sylw rhywun.
Ydi mae’n ddiddorol cael gwybod am yr Athro A. H. Dodd "yn mynd yn
fân ac yn fuan ar hyd Ffordd y Coleg gan aros a sefyll yn awr ac yn
y man i godi stwmp sigaret, ac wedi iddo edrych o’i gwmpas i sicrhau
nad oedd neb yn ei weld, ei fwrw’n lladradaidd i waelodion poced ei
gôt laes."
Ond fe'n gorlwythir â manion eraill ac y mae sawl stori sy’n
cychwyn yn addawol ond yn mynd i le’n byd erbyn gweld.
Weithiau, synnwn nad enwir pryfaid glaw a basiodd y giât yn y gyfrol
hon.
Yn ystod y cyfnod hwn o ddarllen yr oedd Tua’r Dalar yn stryglo
i ennill seren a hanner o ganmoliaeth a phe na byddwn ar ddyletswydd
adolygu mae’n amheus gen i a fyddwn wedi dal ati.
Yn union fel rhes drwchus o rwdins byddai’r gyfrol hon wedi elwa ar
gryn deneuo tra’n cyrchu tua’r dalar.
Cyfarfod pobol ddiddorol
O ddal ati i fyny’r rhes, fodd bynnag, cynhesais at y gyfrol ac mi
gefais gryn bleser ymhlith "Pobol Ddiddorol" o ddalen 86 ymlaen.
Mwynheais yn arbennig y portread sylwgar a gonest o J. T. Jones Porthmadog
a gyflawnodd gymaint camp yn cyfieithu rhai o ddramâu Shakespeare
i’r Gymraeg gan gynnwys Hamlet ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod
Genedlaethol Glyn Ebwy, 1958.
Darlunir cyfuniad rhyfeddol o athrylith eang ei orwelion ar y naill
law a gwr rhywfaint yn rhagfarnllyd a chul ar y llall gyda'r awgrym
o fod yn rhywfaint o fwli diwylliannol!
Difyr - ac ni ellir ond cytuno â William Owen ei bod yn gawl enbyd
ar ran Meic Stephens i’w adael allan o’i Gydymaith i Lenyddiaeth
Cymru - yn enwedig o weld ambell un arall llai a salach ei gyfraniad
yn cael ei big i mewn.
Byd cystadleuol
Bu William Owen ei hun yn gystadleuydd llwyddiannus ar y ddrama yn
y Genedlaethol. Ac aflwyddiannus hefyd fel y datgela mewn stori
fach ogleisiol am ei brofiad gydag un ddrama a thri beirniad.
Pan anfonwyd y ddrama hon i gystadleuaeth gyntaf yn yr Eisteddfod
Genedlaethol yr oedd y beirniad - "yn wr galluog uchel ei barch a
thra phrofiadol yn y maes" - yn llawdrwm iawn arni gan ei disgrifio
yn ddim amgen na sgets estynedig, hiliol a di-chwaeth.
Am rhyw reswm mae William Owen yn osgoi enwi’r beirniad ond William
R. Lewis oedd o a hynny yn Eisteddfod Maldwyn 1981.
Ta beth am hynny, mewn dwy eisteddfod arall cafodd yr union un ddrama
ganmoliaeth gan ddod yn ail da i ddrama gan T.James Jones gan Hywel
Teifi Edwards hael ei ganmoliaeth.
Ar drydydd cynnig, dyfarnwyd y ddrama yn fuddugol gan J. R. Evans.
"Nid canmol yr ydwyf," meddai William Owen, "ond dywedyd y gwir, wrth
geisio olrhain hynt ac yn arbennig helynt digon cythryblus un ddrama
fer a oedd yn bopeth yr un pryd, yn ddim namyn ‘sgets estynedig’,
yn ‘amlygu dawn bendant’, yn ‘hiliol ac ansensitif’, yn ‘fyrlymus
a hynod lwyddiannus’ ac i goroni’r cyfan, yn ‘hynod o ddi-chwaeth’."
Yn wyneb y fath amrywiaeth barn beth wnawn ni felly o feirniaid steddfodol?
Canmolwn yn awr y rhai enwog!
Tuedd i ganmol y rhai y mae’n eu portreadu sydd gan William Owen ond
ni ddylai hynny fod yn syndod gan mai cyfeillion a edmyga a ddewisodd
sgrifennu amdanynt beth bynnag - a does dim o’i le yn hynny.
Ond y mae rhywun yn synnu, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol, y'i
weld yn beirniadu rhywrai eraill am fod yn nawddoglyd ac yn ymosod
ar yr hyn y mae'n y'i alw "y dull Cymreig arferol" o "sheflio sebon"
wrth sgrifennu.
Sylw a fydd yn peri i’r geiriau brycheuyn, trawst a
llygaid ddod i feddwl ambell i ddarllenydd rwy’n siwr gan nad
yw ei shefl ei hun yn un sy’n hel rhwd o segurdod.
Ond wedi dweud hynny rhoddodd gyda sawl un o’i gyfraniadau foddhad
i lawer - heb sôn am y pleser y mae sgrifennu yn ei roi i’r sgrifennwr
ei hun a'r cyfraniad o roi ar gof a chadw gymeriadau a ffordd o fyw.
Yn ei summing up,fel petai, dywed:
"Fynnwn i ddim gwadu nad oeddwn i’n ceisio boddhau’r awydd am ryw
fath o ddihangfa a’r awydd am ‘gymundeb’ gyda’r rhai a garwyd ac a
gollwyd felly.
"Ac os oedd yr hen fywyd ar gilio, roedd yn bwysig rhoi peth
ohono ar gof a chadw er mwyn dangos ei hyfrydwch a’i ragoriaethau.
"Roedd yn rhaid ceisio atal, dros dro beth bynnag, y proses tragwyddol
o erydu sy’n digwydd oblegid y mae colli cyfle i roi ar gof a chadw
yn wadiad ar fodolaeth.
"Yr un pryd roedd yn gyfrifoldeb ar rywun i wneud a allai i sicrhau
. . . fod rhyw gofnod yn aros ‘canys ni welir mo’u tebyg hwy byth
eto’."
A pha ragorach rheswm a chymhelliad sydd ei angen dros droi'n llenor.
Beth yw eich barn chi am y gyfrol hon neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|