|
|
Llythyr:
Cadw at y rheolau
Ymateb darllenydd i sylwadau am reolau gramadeg
Dydd Iau, Mawrth 28, 2002
|
Yn y llyfr, Gorau Cyfarwydd, cyhoeddir darlith gan y diweddar Athro
Bedwyr Lewis Jones lle mae'n dadlau ei bod yn bosib rhoi gormod o
bwysau ar reolau gramadeg caeth.
Dyma ymateb W. J. Jones wedi inni dynnu sylw yng Nghylchlythyr 大象传媒
Cymru'r Byd at yr hyn a ddywedwyd am Gorau Cyfarwydd mewn adolygiad:
iAnnwyl gyfaill
Rwy'n mwynhau darllen eich cylchlythyr yn rheolaidd ond dwy'i ddim
yn ateb dim. Mae bai arnaf.
Soniwch am "ramadeg" yn eich llythyr diwethaf gan awgrymu nad yw'n
bechod mawr bod y ramadeg honno'n cael ei thorri.
Yn fy mhrofid i, yn amlach na pheidio, y rhai sy'n ansicr eu gramadeg
sy'n ei dilorni. Byddwn i'n cytuno y dylem dorri rheolau i ystwytho'r
iaith ond rhaid bod yn ofalus
er hynny.
Dyw beio Daniel Owen am dorri rheolau gramadeg pan nad oedd rheolau
pendant yn bod yn ychwanegu dim at ein dadl.
Efallai y carai darllenwyr eich llythyr edrych ar dri phwynt sydd
o ddiddordeb i mi y dyddiau hyn.
I ddechrau, y pla "geiriau Saesneg". Gwn fod pob iaith yn benthyca.
Iawn. Ond wn i ddim paham y dylai iaith fenthyca gair o iaith arall
os oes gair cwbl gymeradwy'n bod yn yr iaith hynny'n barod.
Pam mae hi'n gwbl dderbyniol gan dorwyr gramadeg glywed: "Fe wela
i di am ten tw thri!" ac yn annerbyniol clywed, "I will see you and
ddeng munud i dri."?
Yn ail, y cadarnhaol yn newid. Gwn fod sawl ffordd o ffynegi'r
cadarnhaol yn Gymraeg, ond pam yn y byd mawr y mae'r cyfryngau ac
eraill yn mynnu arfer "Do" byth a hefyd. "Ydych chi'n mynd yno?" "Do."
"Oedd hi'n bwrw glaw ddoe?" "Do".
Beth sy'n bod ar "Ydw" ac "Oedd"?
Yn drydydd. berfau cynorthwyol. Rwy'n barod i dderbyn eu bod
yn help, ac fe alla i gau fy nghlustiau i "Fe wnaeth i anghofio" yn
lle "Anghofiodd e." Ond yr wythos yma clywais ar y cyfryngau, "Fe
wnaeth e fynd."
Alla i yn fy myw gweld bod hyn yn rhagori ar "Fe aeth e."
Dydy hwn yn ddim mwy na chwestiwn. Pa mor bell y gallwn ni fynd i
falu iaith cyn i rywyun weld nad oes iaith ar 么l i'w malu?
Pob hwyl
WJJ
Sut mae derbyn Cylchlythyr 大象传媒 Cymru'r Byd? i waelod ein a chlicio ar Tanysgrifiwch wedi rhoi eich cyfeiriad
yn y blwch
|
|
|