|
|
Dau
dderyn prin - a sylwebydd craff
Golwg ar Gymru o'r awyr
Dydd Iau, Ebrill11, 2002
|
Môr a Mynydd - Surf and Skylines gan Gwilym Davies ac Iwan Llwyd.
Gwasg Carreg Gwalch. £9.
Yr oedd yn ddiwrnod braf o haf ddeunaw mlynedd yn ôl a Gwilym
Davies newydd orffen ei waith yn ei glinig deintyddol pan alwodd Arfon.
Yn
beilot, yr oedd Arfon a’i fryd ar fanteisio ar yr hin deg a chodi
ar ei adain o faes awyr Mona ar Ynys Môn. Yn dynnwr lluniau brwd penderfynodd
Gwilym fynd efo fo yn gwmni.
A dyna gychwyn partneriaeth sydd nid yn unig yn parhau heddiw ond
sydd hefyd wedi esgor ar un o lyfrau harddaf a difyrraf y blynyddoedd
diwethaf ’ma.
Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau yn un llwyddiannus a syml - Arfon
yn hedfan yr awyren a Gwilym yn tynnu lluniau - gyda’r ddau yn gwybod
yn union lle maen nhw’n sefyll, fel petai.
Fel y dywed Gwilym yn Môr a Mynydd - Surf and Skylines, dydi
o ddim yn ymyrryd â sut mae Arfon yn hedfan yr awyren a dydi
Arfon ddim yn dweud wrtho yntau pa lens i’w defnyddio i dynnu llun!
Y
canlyniad yw golwg ysblennydd o ryfeddodau a harddwch Eryri gan edrych
i lawr o’r awyr - ac nid oes dadlau fod rhyw rin arbennig yn perthyn
i lun a dynnwyd 700 a 1,000 o droedfeddi i fyny yn yr awyr.
Ac i gydfynd a’r lluniau y mae sylwadau treiddgar a chyfoethog mewn
gwybodaeth gan y Prifardd Iwan Llwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r sylwadau hyn yn llawer iawn mwy na ‘captions’ i luniau
gan fod yma nid yn unig drysorfa o wybodaeth hanesyddol ddiddorol
ond ymwybyddiaeth o berthynas dyn a’i dirwedd dros y canrifoedd.
Canmol hen dafarn
Mae’r difyrrwch yn cychwyn o’r cyflwyniad ei hun gyda chyfeiriad at
daith Thomas Pennant o Gaergybi i Fangor yn saithdegau’r ddeunawfed
ganrif a’i ganmoliaeth o dafarn y Gwindy (Gwyndy) rhwng Trefor
a Llynfaes ar yr hen lôn bost ar draws Môn.
"Yn anarferol lle bo tafarnau Cymru yn y cwestiwn, roedd y rhan fwyaf
o deithwyr yn canmol ei lety a’i fwrdd," meddai Iwan Llwyd cyn tynnu
o’i sgrepan fwy o’r wybodaeth ddifyr yna sy’n gwneud i un llyfr ragori
ar un arall:
Cario'r post
"Mae’n debyg mai gwraig ’debol Hugh Evans, Gwyndy, oedd y letywraig
hynod (a fu yn y Gwyndy ers deugain mlynedd) . . . a bu ei
gwr yn dwyn y post o’r dafarn i Gaergybi yn rheolaidd o 1745 hyd at
ymddangosiad y goets fawr gyntaf i gario’r mêl yn 1785.
"Roedd Thomas Telford ei hun yn gyfarwydd â gwasanaeth ardderchog
y Gwyndy, a phan gwblhawyd y lôn bost newydd yn yr 1820au, rhoddodd
gyfarwyddyd y dylai Eliza Jones, gweddw postfeistr y Gwyndy, dderbyn
pensiwn i’w digolledu am fasnach a gollodd oherwydd y ffordd newydd,"
meddai.
Gan ychwanegu fod y Gwyndy heddiw "yn adfail dan eiddew" - enghraifft
arall o fieri lle bu mawredd yng Nghymru.
Mae’r wybodaeth yr un mor ddifyr a thrwyadl am weddill Eryri sy’n
gwneud Môr a Mynydd yn rhywbeth llawer rhagorach na dim ond
casgliad o luniau trawiadol. Bargen, felly, gan y byddai'r lluniau
eu hunain wedi bodloni y rhan fwyaf ohonom.
Gem o gyfrol ar ddau gyfrif, trueni nad oes iddi glawr caled - ond
go brin, wedyn, y gellid cadw're pris mor resymol â £9.
Beth yw eich barn chi am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|