|
|
Y
cyfuniad perffaith?
Newyddiadurwr a hanesydd yn un - teip sy'n brin
Dydd Iau, Mai 9, 2002
|
Fy Hanner Canrif i gan Emyr Price. Lolfa
Adolygiad gan Rhys Evans
Mae’r berthynas rhwng newyddiadurwyr a haneswyr wastad wedi bod yn
rhyw berthynas od,digon anniddig.
Mewn byd delfrydol,dyma sut y dylsai bethau weithio: .y newyddiadurwyr,wrth
roi pin ar bapur yw’r cynta i geisio ’sgwennu drafft cyntaf hanes.Yna
daw’r haneswyr i bwyso a mesur, cywain a chywiro cyn cyhoeddi’r dehongliad
diffiniol.
Ysywaeth, mae’r drefn honno yn perthyn i fyd delfrydol.
Tyrau ifori
Yn amlach na pheidio, mae newyddiadurwyr yn dueddol o synied am haneswyr
fel ffigyrau arallfydol - rhyw deips sy’n mwmial yn annealladwy yn
eu tyrau ifori tra’n gloddesta ar eu hacademig dost.
O du’r haneswyr, wel teips sy’n sgwennu ar gyfer papur chips fory
yw’r newyddiadurwyr, heb na’r gallu na’r crebwyll i wahaniaethu rhwng
y dibwys a’r digamsyniol bwysig.
Yn wyneb y rhwyg hwn, felly, y mae hunangofiant Emyr Price, Fy
Hanner Canrif I, mor werthfawr.
Emyr Price yw un o’r adar prin hynny a wyr sut y gellir cyfannu’r
rhwyg rhwng newyddiadura a bod yn hanesydd.
Yr hyn sy’n bwysig yw adrodd yr hanes ac wedyn dehongli yng ngoleuni
yr hyn sydd wedi digwydd.
Daw’r gweddill yn reddfol iddo.
O Bwllheli i Bontcanna
Felly, o’r cychwyn cyntaf, er y disgrifir y gyfrol hon fel hunangofiant,
mae yna ymgais barhaus i adrodd nid yn unig ei hanes ei hunan ond
hefyd hanes y gymdeithas y digwyddai fyw ynddi - o Bwllheli i Bontcanna.
Mae hanes blynyddoedd cyntaf Emyr Price nid yn unig yn hanes difyr
ond yn dalp pwysig o hanes cymdeithasol Sir Gaernarfon.
Dyma gymdeithas a oedd eisoes yn elwa o ysbryd colectifaidd rhyfel.
Ganed Emyr Price yn ‘Bangor Lad’ ac i ddwylo saff y geinocolegydd
arloesol, OV Jones, neu fel yr adwaenid ef ar lafar gwlad ‘Ovary
Jones’.
Ac nid newidiadau cymdeithasol oedd yr unig rai a groesawodd Emyr
Price. Flwyddyn wedi geni’r awdur roedd "Dewin Dwyfor", Lloyd George,
yn ei fedd a Rhyddfrydiaeth hefyd yn farw fel hoel wrth i don Lafurol
dorri dros Bwllheli a sawl tref arall yn y Gymru naturiol, anghydffurfiol
Gymraeg hon.
Ond er mor naturiol y diwylliant Cymraeg, roedd na newidiadau anferth
ar droed.
I fechgyn y ‘Pwllheli Grammar School’, roedd gwrando ar Radio
Luxembourg ar y 208 metres medium wave a gwylio Rock
Around the Clock mor naturiol a mynychu y bar coffi newydd gai
ei redeg ym Mhwllheli gan Owain Williams (Now’r Bomiwr).
Ynghanol hyn i gyd roedd gafael Anghydffurfiaeth a Chapelyddiaeth
yn llacio.
Wemod prifysgol
Fel Neil Kinnock, Emyr Price oedd y cynta o dylwyth y Preisus mewn
milflwydd i fynd i Brifysgol ond braint â blas wermod arni oedd lle
Emyr Price ym Mangor.
Mewn pennod hynod onest, dyry’r awdur ddarlun o genhedlaeth lle na
theimlai’n rhan gysurus ohoni - teimlad fyddai’n aros gydag ef.
Ar lannau’r Fenai, daw ar draws yr Euryn Ogwen ifanc, gwr : "Y credwn
y byddai wedi bod yn wleidydd Maciafelaidd o lwyddiannus, ond bu’n
rhaid iddo fodloni ar fod yn ail yn arweinyddiaeth S4C."
Yno hefyd roedd Derek Lloyd Morgan dlawd o Gefnbrynbrain, gwr yr oedd
"ei fryd o ar fod yn fardd ond bu’n rhaid iddo fodloni ar fod yn academydd."
Yn yr un cyfnod, daw ar draws "bachgen bach trwsiadus a chymen" o
Rydychen o’r enw Emyr Daniel. Deallai Emyr Price : "iddo dreulio y
rhan fwyaf o’i amser yno yn chwarae pocer."
Y dirmyg mwyaf
Oes, mae na ddoniolwch yn y darluniau dychanol hyn ond penllanw’r
cymhlethdodau cymdeithasol ac emosiynol a brofai Emyr Price oedd cael
ei ddanfon "i fyd Tywyll Heno".
Canlyniad hyn oedd ei adael a’r "dirmyg mwyaf at y rhai sy’n sôn yn
ysgafn am seilam."
Gonest, ie, ond mae yna rai cwestiynau sy’n dal heb eu hateb:
Sut y gallai gwr mor sensitif fod ar brydiau , o’i gyfaddefiad, fod
yn greadur mor anodd?
Pam a sut y gallai’r sosialydd rhonc o Bwllheli deimlo’r fath ias
ynghanol snobeiddiwch Rhydychen?
Fodd bynnag, mae na fwy, llawer mwy, yn y gyfrol onest hon na setlo
sgôrs a sôn am seilam.
Un o'r rhai mwyaf crafog
Wedi cyfnod ffurfiannol fel athro a thiwtor, bu Emyr Price yn un o
newyddiadurwyr mwya crafog, craff a chynhennus y Gymru Gymraeg a hynny
am dros chwarter canrif.
Wrth ddarllen am hanes ei gyfnod yn olygydd Y Faner ni all
rhywun ond teimlo hiraeth.
Dyma gyfnod pan ymlafniodd ar gyflog pitw i greu trafodaeth lachar
ac i ysgwyd caets y sefydliad Cymraeg.
Coffa da amdano.
Daeth ei orig gyda’r Faner i ben ym 1985 a byth ers hynny,bu
Emyr Price yn gymysg oll i gyd gydag un goes anfoddog y tu fewn i’r
Sefydliad fel gohebydd a chynhyrchydd rhaglenni dogfen gwerthfawr
i HTV.
Rhaglenni teledu pwysig
Dyma gyfnod lle gwnaeth waith pwysig ar raglenni fel y Byd ar Bedwar
a Chanrif y Werin.
Ac yn goron ei yrfa gyfryngol,y rhaglenni dogfen amhrisiadwy ar Gwynfor
Evans a Chledwyn Hughes - i enw dim ond dwy.
Ac er i rai cwestiynau aros heb eu hateb, dyma at ei gilydd, gyfrol
ddarllenadwy a defnyddiol wedi ei hysgrifennu gan hanesydd a newyddiadurwr.
Er y gallai Emyr Price fod yn greadur digon cymhleth ar brydiau, doedd
na ddim byd yn gymhleth am ei grefft na’i genadwri.
Biti garw bod ei deip mor brin.
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|