´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Iwan Llwyd ar lwyfan
Blas ar Gymru yng Ngwlad Pwyl

Croeso - ac awen - i'n beirdd

Dydd Iau, Mai 9, 2002

•Yr hwyl ym Mhwyl yn Para
Daeth blas arbennig iawn ar Gymru i dde-ddwyrain Gwlad Pwyl pan gynhaliwyd Dni Celtyckie (Diwrnodau Celtaidd) gan Brifysgol Gatholig Lublin.

Gwahoddodd feirdd, cantorion ac academyddion i hybu diwylliant Cymraeg yno rhwng Ebrill 22 a 26.


Mae Adran Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol Gatholig yn cynnig cyrsiau yn Iaith, Llên, Ieithyddiaeth a Diwylliant Cymru ers cyn cwymp Comiwnyddiaeth, yn ogystal â chyrsiau Gwyddelig tebyg.

Ar hyn o bryd mae dros 200 o fyfyrwyr yn manteisio ar y cyrsiau.

Gwahoddwyd ysgolheigion o Iwerddon, Cymru, Gwlad Pwyl, Nice, Berlin a Fiena i ddarlithio ar bynciau o Archeoleg y Celtiaid Cynnar i Lenyddiaeth Gyfoes y gwledydd Celtaidd.

Roedd dau o brifeirdd amlycaf Cymru, Iwan Llwyd a Mei Mac, yno hefyd, i gyflwyno llên Cymru ac i ddarllen eu gwaith eu hunain.

Ar ben hyn oll cafwyd gweithgareddau hwyrol o naws Geltaidd iawn.

Beirdd y Byd
Ar noson Beirdd i Bardowie (Beirdd a Beirdd) yn y Teatr Ar lwyfan Teatr StaryStary (Yr Hen Theatr, sef yr ail hynaf yng Ngwlad Pwyl) bu Iwan Llwyd a Mei Mac yn rhannu llwyfan gyda rhai o feirdd a chantorion amlycaf Gwlad Pwyl, y Lubelska Federacja Bardów, yn ogystal ag Ewa HEBE Lembryk a’i band.

Cyfieithwyd barddoniaeth y ddau Gymro i’r Bwyleg gan fyfyrwyr yr Adran Geltaidd ac meddai Aled Llion, Uwch-Ddarlithydd y Gymraeg yn y Brifysgol Gatholig a threfnydd yr achlysur:

"Sylwodd nifer ar y wefr o fedru cynnal noson gyfan heb orfod dibynnu ar y Saesneg fel cyfrwng.

"Dangoswyd yn glir iawn fel y gall diwylliannau o wledydd sydd mor ymddangosol wahanol gyfathrebu’n uniongyrchol, a rhannu llawer iawn o brofiadau a dyheadau.

"Cafodd y beirdd o’r ddwy wlad eu synnu gan faint a brwdfrydedd y gynulleidfa, ar noson a gynhaliwyd er mwyn codi arian i adfer y theatr hanesyddol hon."

Dawnsio Cymreig

I gloi’r wythnos bu Noson Geltaidd a lenwodd glwb nos mwyaf y ddinas gyda thyrfa a ddawnsiodd drwy’r nos i gerddoriaeth fyw Wyddelig a Chymreig.

Adloniant Celtaidd"Roedd yr wythnos gyfan yn llwyddiant ysgubol," meddai Aled Llion, "a does dim dwywaith fod cannoedd o bobl Lublin yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiadau nesaf.

"Er bod dyfodol y Gymraeg yn y Brifysgol yn Lublin wedi bod yn eithaf ansicr yn ddiweddar, oherwydd diffyg arian ac adnoddau, rwy’n siwr ei fod ganwaith yn gryfach yn dilyn gwaith ardderchog Iwan a Mei, a’r bobl eraill gymerodd ran.

"Dylid rhoi diolch arbennig i’r Dr Sabine Heinz, sy’n dysgu’r Gymraeg yn Fiena a Berlin, am drosglwyddo i bobl Lublin ychydig o’i brwdfrydedd anhygoel dros Gymru a’i hiaith.

"Grant a dderbyniwyd gan y Cyngor Prydeinig oedd yn gyfrifol am inni fedru gwneud yr hyn a wnaethom," meddai.

Y Cymry’n cefnogi

Ychwanegodd ei bod amlwg iawn fod nifer fawr o Cymry yn awyddus i gynorthwyo’r gwaith yn Lublin achos yn dilyn apêl yn y wasg, derbyniwyd gan yr Adran Geltaidd lyfrau o hen stoc Llyfrgell Brycheiniog yn ogystal â rhoddion gan unigolion.

"Y cam nesaf ," meddai Aled, "yw ceisio sicrhau fod artistiaid Cymru yn deall fod yma yng nghornel bellaf ‘gorllewin’ Ewrop, dderbyniad anhygoel i’w gael i’w gwaith."

Iwan a Mei MacAc meddai Iwan Llwyd: "Fe gawsom ni fudd mawr o'r profiad - a cherddi hefyd!"

Roedd Mei Mac hefyd wrth ei fodd:

"Roedd y cyfan yn wych a’r myfyrwyr mor frwd roedd yn gwneud y gwaith darlithio mor hawdd. Yn bendant os daw gwahoddiad i ni eto mi ddown ar ddim."

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy