大象传媒


Explore the 大象传媒

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y ddarlith
Cyfrif pobol sy'n cyfrif

Darlith yn son am gymdeithas sy'n newid

Dydd Mercher, Mai12, 2002

Cyfrif Pennau Pen Llyn gan John Gruffydd Jones. Clwb y Bont, Pwllheli. £3.

Cyfrif Pennau Pen Llyn
yw testun deunawfed darlith flynyddol Clwb y Bont, Pwllheli, eleni.

Fe'i traddodwyd gan y Prif Lenor John Gruffydd Jones, un o hogia Llyn, a symudodd i fyw yng ngogledd orllewin yr hen Sir Clwyd o wlad Ile'r arferai ei fam ddweud fod hyd yn oed yr adar yn canu yn y Gymraeg!

Dwy genhedlaethDigwyddodd dau beth eleni a'i hysgogodd i ddewis ei destun - ei fam yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed a'r llun ohoni yn gwasgu ei gorwyres, Lois Medi, yn dynn yn ei ch么l.

Yn ei agoriad mae鈥檔 s么n am ddathliadau y flwyddyn hon, 2002, ddeugain mlynedd er darlith hanesyddol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith; ugain mlynedd o fodolaeth S4C a rhyngddynt hanner canrif o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth yr ail.

Pan yn ei arddegau hwyr gorfu i'r awdur adael Llyn a mentro am Fanceinion pryd y symudodd ei rieni o'r Bwthyn Gwyn, sef y cartref, i Goed Anna yn Nanhoron, sydd erbyn hyn gartref yr ymgyrchydd Seimon Glyn.

Cymunedau yn marw ar eu traed

"Mae'n destun syndod i mi fel y mae ef wedi Ilwyddo i gorddi cymaint ar yr emosiynau trwy wneud datganiad syml iawn sef bod y cymunedau Cymraeg yn marw ar eu traed," meddai.

Hyn yn ei arwain at y gwahanol gyfrifiadau fel un 1901, oedd yn cwmpasu holl ardaloedd Prydain.

Dywed fod rhai yn bur gyndyn o ddatgelu manylion personol fel yr hen gymeriad o Lyn y cofir amdano fel Dic y Fantol - Cymro uniaith a briododd Wyddeles uniaith Saesneg.

Pan fyddai pethau'n ddrwg rhwng y ddau, "Ireland, Mary" fyddai anogaeth Dic.

Mae Dic a'i lori yn cael eu cofio yn cario o stesion Pwllheli a'i gyfarchiad i Mary fyddai, "Mary I'm going to dre - I'll be home by amser te."

Pobl eu bro

Ond at y ffigurau sy'n dangos fod 48,705 o'r 60,924 o ddynion a gofrestrwyd yn Sir Gaernarfon yn 1901 yn frodorol.

Aac ar ddechrau'r ganrif yr oedd cynier ag 89.5 y cant o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg a bron yr hanner yn uniaith Gymraeg a'r rheini, fel y byddai rhywun yn disgwyl, dros eu 65 oed.

Gellir yn hawdd ddeall hefyd fod yna 3,324 o blant Penrhyn Llyn yn uniaith Gymraeg yn 1901.

Dod yn ddwyieithog

Eisteddfod Rhoshirwaun ddechrau'r ugeinfed ganrif脗'r awdur rhagddo i ddadansoddi natur y gymdeithas: y dosbarth canol modern a'r newid yn y patrymau iaith a hefyd sut y daeth yn norm bod yn ddwyieithog.

Eto'i gyd, rhestra'r awdur nifer o enghreifftiau o'r werin dlawd yn dal i fod yn uniaith Gymraeg a nifer ohonynt yn destun sbort am nad oeddent yn ddwyieithog!

Hyn yn arwain at Frad y Llyfrau Gleision gyda'r awdur yn cydnabod i'r adroddiad hwnnw, "fod yn giaidd o hallt" ond yn ychwanegu mai "annheg yw gosod y cyfan o'r bai ar ysgwyddau'r Comisiynwyr o dros Glawdd Offa.

"Bu unigolion lleol yr un mor euog o wawdio eu cyfoedion gyda chasineb at yr iaith Gymraeg yn asgwrn y gynnen."

Gan fod yr awdur yn un o Lyn mae'n gwbl gartrefol yn s么n am Enlli Ile'r oedd 77 o drigolion ar dro yr ugeinfed ganrif.

Tueddiadau nawddoglyd

Yna mae'n pwyso a mesur Tynged yr Iaith ar drothwy'r ganrif hon lle mae'n nodi agweddau fel cadw'r ddysgl yn wastad a thueddiadau nawddoglyd ac ofn pechu yn amlwg.

Trigolion Aberdaron y tu allan i dafarn y ShipAc mae yma ddau ddarlun ar bymtheg addas i'r ddarlith yn dangos sut rai oedd gwerin a bonedd penrhyn Llyn ddyddiau fu.

Down i ben y dalar gyda鈥檙 awdur yn s么n fel y bu'n ailedrych ar y llun o'i fam a'i wyres gan ofyn a fydd hi yn perthyn i'r genhedlaeth olaf o bobl ifainc a fydd yn ystyried y Gymraeg yn iaith bob dydd.

"Er bod ystadegau'n dangos bod mwy o bobl yn medru'r iaith erbyn hyn ymddengys bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y plant sy'n ei siarad yn y cartref," meddai.

A'r cwestiwn olaf sy'n aros gyda'r awdur yw: Ai pen-blwydd hapus, ynteu happy birthday fydd etifedd Lois bach yn ganu iddi pan fydd hithau yn dathlu ei phen blwydd yn gant oed?

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 大象传媒 Cymru'r Byd






About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy